Porthladdoedd rhydd: Un neu ddau i Gymru a 拢26m i bob un

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae cefnogwyr cyflwyno porthladd rhydd yng Nghymru yn dweud y byddai'n cynyddu gweithgynhyrchu

Bydd Cymru'n cael o leiaf un, o bosibl dau, borthladd rhydd a fydd, yn 么l Llywodraeth y DU, yn creu miloedd o swyddi newydd.

Mae llywodraethau'r DU a Chymru wedi dod i gytundeb a bydd gan y ddwy bwerau gwneud penderfyniadau penodol ynghylch y safleoedd.

Roedd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi bod yn poeni y gallai porthladdoedd rhydd yn Lloegr ddisodli gweithgaredd economaidd o Gymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, y bydd o leiaf 拢26m o gyllid cychwynnol, nad oes angen ei ad-dalu, ar gyfer unrhyw borthladd rhydd sy'n cael ei sefydlu yng Nghymru, sy'n cyfateb i'r hyn sy'n cael ei gynnig i borthladdoedd rhydd yn Lloegr.

Dywedodd y bydd y porthladdoedd rhydd yn "wirioneddol drawsnewidiol ar gyfer yr ardaloedd lle byddan nhw'n bodoli".

Beth yw porthladd rhydd?

Ardaloedd lle nad ydy rheolau trethi a thollau arferol yn cael eu gweithredu yw porthladdoedd rhydd.

Maen nhw'n galluogi mewnforio, creu ac allforio nwyddau heb orfod talu'r trethi mewnforio arferol. Eu bwriad yw denu cwmn茂au i'r ardal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'n bosib y bydd Caergybi yn gwneud cais i fod yn un o'r porthladdoedd rhydd

Dywedodd gweinidog economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: "Yn dilyn cryn drafod rhwng ein llywodraethau, mae'n bleser gen i ddweud ein bod wedi llwyddo i gytuno 芒 gweinidogion y DU mewn perthynas 芒 sefydlu porthladdoedd rhydd yng Nghymru.

"Rydyn ni wedi sicrhau cytundeb sy'n deg i Gymru, ac sy'n parchu cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru mewn meysydd polisi sydd wedi cael eu datganoli.

"Fodd bynnag, rydyn ni wedi'i wneud yn glir i Lywodraeth y DU mai dim ond os gellir dangos, gan ddefnyddio tystiolaeth a dadansoddiadau cadarn, y bydd yn cefnogi ein hagenda gwaith teg ac yn cyflawni manteision cynaliadwy ar gyfer Cymru yn y tymor hir, a gwerth am arian ar gyfer trethdalwyr Cymru, y bydd porthladd rhydd yn cael ei sefydlu."

Ble fydd y safle yng Nghymru?

Dydy hynny heb gael ei benderfynu eto.

Mae porthladdoedd rhydd eisoes wedi'u cyflwyno'n raddol yn Lloegr - wyth ohonyn nhw, gyda Teeside a Thames eisoes yn gweithredu.

Roedd llywodraethau Cymru a'r DU wedi methu a chytuno ar ffordd ymlaen. Maent bellach wedi cyflawni hynny ac mae'r broses o ddewis pa borthladdoedd sy'n cael y statws hwnnw yn dechrau.

Gallant fod yn ardaloedd gyda chysylltiadau m么r, rheilffordd neu awyr ac yn Lloegr mae Maes Awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr wedi ennill y statws hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Mae un o borthladdoedd Lloegr yn cael ei sefydlu ym Maes Awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr

Meddai Ysgrifennydd Cymru Simon Hart, "mae'n ymwneud 芒 chael diwydiant newydd, arloesi, pobl newydd i'r ardal sy'n mynd i fod mewn swyddi sy'n talu'n dda iawn".

Cadarnhaodd y byddai busnesau presennol hefyd yn elwa o'r toriad treth ond gwadodd fod hynny'n helpu busnesau nad oedd eu hangen ar gost i'r trethdalwr.

"Nid rhoi amnaid a winc i fusnesau llwyddiannus mo hyn," meddai.

Dadleuodd y byddai mwy o drethi, fel treth incwm, yn cael eu codi pe bai mwy o swyddi'n cael eu creu.

"Nid amgylchedd di-dreth yw hwn ond amgylchedd wedi'i ysgogi."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS y bydd yn parhau i gyflwyno'r achos dros Gaergybi yn dilyn y cyhoeddiad.

Wrth ymateb dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Ynys M么n: "Dwi'n falch bod cytundeb wedi ei gyflawni."

"Roedd cynnig gwreiddiol Llywodraeth y DU i roi llawer llai o gyllid i borthladdoedd rhydd yng Nghymru yn gwbl annerbyniol, ac rwy'n falch o weld tro pedol ar hynny.

"Rydw i'n falch hefyd bod Llywodraeth Cymru yn mynnu - fel yr ydw i wedi ei wneud yn gyson - bod angen sicrhau tegwch i weithwyr a chyfrifoldeb amgylcheddol dan unrhyw gytundeb porthladd rhydd, ac elfen arall bwysig ydi bod Llywodraeth Cymru'n cael ei thrin yn bartner cyfartal."

'Ymgyrchu ers tro'

Ac ymatebodd Aelod Seneddol Ynys M么n, Virginia Crosbie, trwy ddweud y gall Caergybi nawr wneud cais i fod yn borthladd rhydd - "rhywbeth dwi wedi bod yn ymgyrchu drosto ers tro".

Ychwanegodd bod "busnesau ar yr ynys ac ymhellach i ffwrdd eisiau iddo ddigwydd, rwyf am iddo ddigwydd a dylai unrhyw un sydd am weld swyddi a buddsoddiad ar Ynys M么n fod eisiau iddo ddigwydd hefyd."

Yn Lloegr mae gan fusnesau mewn porthladdoedd rhydd ardrethi busnes rhatach hefyd, ond Llywodraeth Cymru fyddai'n penderfynu hynny.

Maent hefyd yn talu cyfradd is o Yswiriant Gwladol ar gyfer staff newydd.

Mae llywodraethau'r Alban a'r DU wedi cytuno i sefydlu dau borthladd rhydd gwyrdd gyda'r ddwy lywodraeth yn rhannu cyfrifoldeb, yn canolbwyntio ar ddiwydiannau allyriadau isel.

Swyddi newydd neu symud gwaith?

Y ddadl o blaid porthladdoedd rhydd yw eu bod yn creu swyddi newydd ac yn denu buddsoddiad.

Mae beirniaid yn dadlau nad ydyn nhw'n creu swyddi newydd, dim ond yn annog busnesau i symud o un lleoliad i'r llall.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi mynegi ei phryder am effaith ehangach y polisi.

Mae hynny wedi gohirio'r broses o sefydlu porthladdoedd rhydd yng Nghymru.

Dechreuodd Teeside weithredu fel porthladd rhydd ym mis Tachwedd 2021 a Thames ym mis Rhagfyr 2021.

Bydd rhagor o fanylion am yr hyn y byddai ei angen i wneud cais i fod yn borthladd rhydd i Gymru yn cael ei gyhoeddi yr haf hwn gyda chyfnod bidio tan ddiwedd 2022 neu wanwyn 2023.