Llywodraeth Cymru'n rhentu fferm newydd i 糯yl y Dyn Gwyrdd

Ffynhonnell y llun, G诺yl y Dyn Gwyrdd

Disgrifiad o'r llun, Mae G诺yl y Dyn Gwyrdd yn cyfrannu oddeutu 拢15m i economi Cymru bob blwyddyn

Mae trefnwyr G诺yl y Dyn Gwyrdd yn mynd i fod yn gyfrifol am fferm sydd wedi cael ei phrynu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Fferm Gileston, ger Tal-y-bont ym Mhowys, yn cyflogi 174 o bobl ac yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, bwyd lleol a newid hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru a G诺yl y Dyn Gwyrdd wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.

Mae G诺yl y Dyn Gwyrdd yn un o bum g诺yl annibynnol fwyaf y DU, ac mae wedi bod yn cael ei chynnal ar y safle presennol yng Nghrugywel ers 20 mlynedd.

Fiona Stewart yw perchennog yr 诺yl a hi sy'n gyfrifol am ei rhedeg. Mae'n cyflogi 200 o bobl yn llawn amser ac mae 5,000 o weithwyr eraill - naill ai dros dro neu'n wirfoddol.

Yn ogystal 芒 rhoi llwyfan i amrywiaeth o fandiau a pherfformwyr, mae'r 诺yl hefyd yn cydweithio 芒 Phrifysgol Caerdydd ar ddigwyddiadau gwyddonol, iechyd a chynaliadwyedd.

Fe fydd y gwaith yn ymestyn i'r fferm, ac mae disgwyl i'r busnes dalu rhent masnachol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r 诺yl yn cael ei chynnal ym Mannau Brycheiniog

Dywed cynghorydd Talgarth, William Powell, a arferai fod yn Weinidog Materion Gwledig yr wrthblaid yng Nghymru, ei fod yn falch bod y llywodraeth wedi prynu'r safle a'u bod yn ei osod i 糯yl y Dyn Gwyrdd.

"Rwy'n gwybod bod Fiona Stewart wedi bod yn awyddus i ymestyn ethos a gwerthoedd y Dyn Gwyrdd o ran cynaliadwyedd, newid hinsawdd a hyrwyddo bwyd a diod lleol," meddai.

Ar safle Fferm Gileston mae ffermdy Sioraidd, sy'n cael ei gosod i dwristiaid, 240 erw o dir ar lan Afon Wysg a safle glampio bychan. Fe fydd yn parhau i fod yn fferm weithredol.

Yn 么l ymchwil gan gwmni BOP Consulting mae G诺yl y Dyn Gwyrdd yn cyfrannu 拢15m i'r economi yn flynyddol, wrth i oddeutu 25,000 o bobl fynychu'r 诺yl yn ddyddiol. Mae eraill yn gwersylla yno am yr wythnos.

Mae 大象传媒 Cymru'n deall y bydd G诺yl y Dyn Gwyrdd yn parhau ar y safle presennol ac nad oes disgwyl i'r 诺yl symud i'r fferm.

Dyw twristiaeth ddim yn newydd i'r 诺yl - yn ystod yr wythnos cyn iddi ddechrau mae teuluoedd yn cael gwersylla ar y safle ac mae bwyd a diod lleol ar gael iddyn nhw.

"Mae gan Fiona Stewart record gref o weithio gyda chymunedau lleol," ychwanegodd y Cynghorydd Powell.

"Os gall hyn helpu adfywiad ein cymunedau a'n tref leol yna mae enw da'r Dyn Gwyrdd yn rheswm i groesawu'r newyddion."

Ffynhonnell y llun, G诺yl y Dyn Gwyrdd

Disgrifiad o'r llun, Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn cynnal gweithgareddau yng Ng诺yl y Dyn Gwyrdd, a'i gobaith yw darparu mwy

Yn 么l Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, mae gan yr 诺yl "berthynas aml-ddimensiwn" gyda'r brifysgol.

Y brifysgol sy'n gyfrifol am Ardd Einstein yn yr 诺yl - man lle mae datblygiadau gwyddonol newydd yn cael eu dysgu i blant a rhieni.

Ychwanegodd yr Athro Riordan ei fod yn disgwyl y bydd "mwy o gyfleoedd i gydweithio" wrth i 糯yl y Dyn Gwyrdd ehangu ei gweithgareddau cynaliadwyedd, newid hinsawdd a bwyd lleol ar Fferm Gileston.