Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Stigma wedi fy atal rhag siarad am ddibyniaeth heroin'
- Awdur, Sion Pennar
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae angen "herio'r stigma" am ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol yn 么l yr actor Richard Mylan, sydd wedi datgelu iddo gamddefnyddio heroin am flynyddoedd.
Dywedodd y Cymro 48 oed, fu'n serennu mewn rhaglenni fel Waterloo Road a The Bill, ei fod wedi dechrau triniaeth adferol tua 10 mlynedd yn 么l.
Dyma'r tro cyntaf iddo siarad yn gyhoeddus am ei frwydr 芒 dibyniaeth heroin.
Fe gychwynnodd ei ddibyniaeth pan oedd yn actor ifanc yn y West End yn Llundain ble roedd "llawer o alcohol a chyffuriau" ar gael, meddai.
"Roeddwn i'n llwyddo i weithio, ac yn llwyddo i gynnal perthnasau ac ati i ryw raddau, ond doedd pethau ddim yn parhau achos roedd e'n llanast, yn y b么n," dywedodd.
"Roedd fy mherthnasau personol yn dioddef, roedd fy mherthnasau proffesiynol yn dioddef, ac mi wnes i golli'r uchelgais oedd tu mewn i mi."
Wrth ddatgelu ei stori, gobaith Mr Mylan yw helpu'r rheiny "fyddai fyth yn cyfaddef" eu bod yn dioddef yn sgil y stigma.
"Yr hyn sy'n bwysig i mi ydy herio ymateb ac empathi cymdeithas," meddai, "stigma sydd wedi fy atal i rhag siarad tan nawr."
Mae'n stori gyfarwydd i Donna Jones o Langefni, sydd wedi helpu mwy nag un aelod o'i theulu drwy gyfnodau o ddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau.
Nawr mae hi'n gweithio i elusen Adferiad, sydd newydd lansio ymgyrch i danlinellu'r angen i newid agweddau.
"Dwi'n nabod pobl rwan sy'n dod mewn i wasanaethau ac yn rhoi hood ar, yn cuddiad a dod mewn drwy'r drws cefn am eu bod nhw'n ofn bod pobl leol yn mynd i'w gweld nhw," meddai.
"Ti'n ofn bod pobl yn mynd i labelu chdi yn enwau drwg - alci, junkie, bad one, pethau fel 'na.
"Mae pobl yn gallu bod yn greulon, ond eto wedyn, be' 'dan ni'n ei weld lot ydy bod lot ohono fo i mewn yn chdi dy hun. Ti'n meddwl bydd pobl yn meddwl hynny, ond dydy hynny ddim bob tro yn wir."
'Dod allan o'r cysgodion'
Codi ymwybyddiaeth sydd wrth galon ymgyrch Adferiad, sy'n dwyn yr enw Dynol o Hyd. Y gobaith yw ennyn mwy o ddealltwriaeth drwy adrodd straeon y rheiny sy'n byw gyda dibyniaeth ac wedi bod ar daith tuag at adferiad.
"Mae dibyniaeth yn ffynnu mewn cyfrinachedd ac mae'n rhaid dod 芒 fo allan o'r cysgodion," meddai Wynford Ellis Owen, y cyn-actor sydd bellach yn ymgynghorydd cwnsela arbenigol i Adferiad.
"Arf pennaf unrhyw un sy'n adfer ydy stori ei fywyd o'i hun - beth ddigwyddodd iddo fo, sut ddigwyddodd yr adferiad, a'r gobaith mae o'n medru rhoi drwy hynny i bobl eraill."
Rhannu'r gobaith hwnnw yw nod Richard Mylan, wrth iddo yntau ddatgelu ei stori.
"Fe fyddwn i'n dweud wrth bobl sy'n gaeth i beidio bod ofn 芒 gofyn am gymorth gan wasanaethau, achos maen nhw eisiau'r gorau i chi," meddai.
Mae'n gobeithio na fydd pobl yn feirniadol o'i benderfyniad i adrodd ei hanes.
"Rhaid cofio 'mod i'r un person ag yr oedd pobl yn meddwl oeddwn, ond 'mod i'n hyn hefyd.
"Mae pobl yn gymhleth ac angen help, cefnogaeth ac empathi. Bydd pawb yn 'nabod rhywun sydd mewn sefyllfa debyg i mi."