Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn wedi marw ar 么l cael ei frathu gan gi yn Wrecsam
Mae dyn 62 oed wedi marw ar 么l cael ei frathu gan gi mewn t欧 yn Wrecsam.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryt Holt am 11:44 wedi adroddiadau bod dyn yn cael ataliad ar y galon ar 么l cael ei frathu.
Bu farw'r dyn yn y t欧, ac mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.
Cafodd y ci ei ddifa gan filfeddyg, ac mae c诺n eraill oedd yn cael eu cadw yn y cartref wedi eu symud i genel am y tro.
Yn gynharach, dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon tri ambiwlans brys, dau ambiwlans ymateb cyflym ac ambiwlans awyr mewn ymateb i'r digwyddiad.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod gan yr heddlu.