Ysgol Gymraeg Llundain yn apelio am fwy o ddisgyblion

  • Awdur, Sara Esyllt
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae Ysgol Gymraeg Llundain yn apelio am ragor o ddisgyblion yn dilyn heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae'r ysgol wedi bod yn darparu addysg yn y ddinas ers dros 60 mlynedd, ac yn rhoi cyfle i blant sy'n byw y tu hwnt i Glawdd Offa ddilyn Cwricwlwm Cymru.

"Rydw i wir yn hoffi bod yn gallu siarad Cymraeg yn Llundain," meddai Osian, sydd ym Mlwyddyn 6, wrth Newyddion S4C.

"Mae'r iaith Gymraeg yn brydferth a dwi isio cadw fe'n saff."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Athro Arweiniol yr Ysgol, Tom Sugg, mai'r nod yw codi'r niferoedd wedi effaith y cyfnod clo

Dywedodd Athro Arweiniol yr Ysgol, Tom Sugg: "Un o'n blaenoriaethau ni nawr yw sicrhau ein bod ni yn diogelu niferoedd tua'r dyfodol."

Pryder am ddyfodol yr ysgol?

Ymhell cyn y pandemig roedd rhyw 38 o ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Llundain, ond 22 sydd yno ar hyn o bryd.

Dywedodd Mr Sugg fod hyrwyddo'r ysgol wedi bod yn fwy heriol nag arfer oherwydd nad oedd Gr诺p Miri Mawr yn cael ei gynnal, sef eu gr诺p i blant bach a babanod.

"Mae 'na fwlch wedi bod yn fanna - 'da ni'n awyddus iawn nawr i gau'r bwlch yna a sicrhau fod y llif yma o blant sy'n dod aton ni yn parhau tua'r dyfodol," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae wedi bod yn anodd denu teuluoedd newydd yn ystod y pandemig, medd Glenys Roberts, cadeirydd y llywodraethwyr

Er gwaetha'r pandemig mae'r niferoedd yn yr ysgol wedi aros yn gymharol gyson.

"'Da ni wedi bod yn ffodus, mae'r plant sy' gynnon ni wedi aros," meddai Glenys Roberts, cadeirydd y llywodraethwyr.

"'Da ni ddim wedi colli plant, ond falle bo' ni heb fedru denu rhai teuluoedd newydd oherwydd y clo, a bod teuluoedd wedi aros yn eu hardaloedd lleol ac anfon eu plant i ysgol leol."

'Un teulu mawr'

Un sy'n gwerthfawrogi cyfraniad yr ysgol yw Gareth Brock. Roedd e'n ddisgybl yn yr ysgol a bellach mae ei fab Mallo yn dilyn 么l ei draed.

Disgrifiad o'r llun, Mae Mallo yn dilyn 么l troed ei dad Gareth Brock, a fu hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Llundain

"Mae'n rili bwysig achos mae lot o bobl yn gorfod gadael Cymru i greu gyrfa a pethe fel 'na," meddai.

"Mae'n rili bwysig bo' chi'n gallu cario 'mlaen 芒'ch gyrfa a falle ryw ben dod 芒'ch sgiliau'n 么l i Gymru.

"Ond bod y plant ddim tu 么l neu'n gorfod mynd i ysgol Saesneg ar 么l mynd n么l i Gymru rhyw ben."

Mae'r disgyblion yn cytuno.

Disgrifiad o'r llun, Dywed y disgyblion eu bod i gyd yn adnabod ei gilydd yn dda

"Mae'n beth wir yn dda i fod yn siarad Cymraeg a fi wir yn falch bo' fi'n gallu," meddai Lona sydd ym mlwyddyn 6.

"Mae'r ffrindie chi'n neud fan hyn gyda chi am byth."

Mae Dylan yn falch o gael mynychu ysgol fach gan fod "pawb yn gw'bod ei gilydd yn dda, a maen nhw fel teulu mawr".

Mae sawl Cymro a Chymraes balch iawn yn Hanwell a'r gobaith yw y bydd rhagor yn dewis ymuno 芒 nhw i fod yn Gymry oddi cartre' cyn hir.