Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Marwolaeth brathiad ci: 'Damwain drasig, nid ymosodiad'
Mae dynes o Wrecsam yn dweud ei bod yn byw "hunllef go iawn" wedi i dad ei chymar farw ar 么l cael ei frathu gan un o'u c诺n.
Bu farw Keven Jones, 62, mewn t欧 yn Stryt Holt y ddinas ddydd Llun ar 么l cael ataliad ar y galon yn fuan wedi'r brathiad.
Mae ei fab, Josh Jones, yn bridio math arbennig o g诺n mawr croesfrid Americanaidd, XL Bullys, sy'n gyfreithlon i'w perchnogi yn y DU.
Ond mae cymar Josh Jones, Chanel Fong, yn mynnu nad oedd y ci, a gafodd ei ddifa, wedi ymosod ar Keven Jones ac mai "damwain drasig" yw'r farwolaeth.
'Mae o wedi 'nghael i'
Yn 么l Ms Fong, roedd Keven Jones, oedd yn byw yng Nghaer, wedi mynd i'w chartref yn Stryt Holt i edrych ar 么l pum ci, gan gynnwys tri chi XL Bully.
Dywedodd wrthi bod un o'r c诺n gwrywaidd, Cookie, wedi brathu ei goes yng nghegin y t欧 wrth i Mr Jones geisio symud Cookie a chi arall tu allan.
"Wnes i glywed Kev yn dweud 'Cookie, cer o'na'. Ddudish i wrtho i fynd oddi arno, ac mi wnaeth - mae'n ufudd," dywedodd Ms Fong.
"Yna mi edrychodd [Mr Jones] i lawr a dweud 'mae o wedi 'nghael i'. Roedd ei goes yn gwaedu.
"Es i 芒 fo i'r 'stafell fyw i orwedd ar y soffa. Roedd o'n welw, a dywedodd 'dwi'n mynd, Chanel'. Ddudish i 'na, dwyt ti ddim'."
Ffoniodd Ms Fong y gwasanaethau brys a dilyn cyfarwyddiadau dros y ff么n i drin Mr Jones nes i'r parafeddygon gyrraedd.
Cafodd tri ambiwlans, cerbydau ymateb cyflym ac ambiwlans awyr eu hanfon ynghyd 芒 swyddogion heddlu mewn ymateb i'r alwad frys tua 11.45 fore Llun, ond ofer oedd yr holl ymdrechion i achub bywyd Mr Jones a fu farw yn y fan a'r lle.
Dywedodd Ms Fong bod swyddogion c诺n arbenigol wedi mynd i'r t欧 a thawelu Cookie yn yr ardd gefn cyn i filfeddyg ei ddifa.
Cafodd un o g诺n eraill y cwpl, Fire, sydd hefyd yn gi XL Bully, ei gludo o'r t欧 ar gyfer asesiad ond mae Ms Fong yn disgwyl y bydd Fire yn dychwelyd.
"Mae cymaint o bobl wedi dweud ci mor ddof oedd Cookie," meddai. "Dydy Cookie ddim wedi ymosod ar Kev. Dim ymosodiad cas oedd o - damwain drasig oedd o."
Dywedodd Ms Fong bod Josh Jones yn bridio c诺n XL Bully ers rhyw chwe blynedd ac wedi magu Cookie ers yn gi bach.
Ei "freuddwyd", meddai, yw "gwella'r br卯d", ac mae'r ddau'n teithio'r wlad gan fynychu sioeau bridio a sioeau c诺n.
Dywedodd bod Keven Jones yn "enaid rhyfeddol" ac yn ofalwr llawn amser i'w gymar, Gail.
"'Dan ni gyd wedi'n dryllio," meddai. "Roedd yn golygu gymaint i mi, mae Josh wedi colli ei dad, mae Gail wedi colli ei phartner. Roedd yn ewythr ac yn daid - yn enaid ffantastig."
Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod yr ymchwiliad i'r achos yn parhau a bod swyddogion arbenigol mewn cysylltiad 芒 theulu Keven Jones.