Dathlu ffigwr blaenllaw yn hanes morwrol Cymru

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cofio cyfraniad "un o arwresau angof Caernarfon" yw nod g诺yl sy'n cael ei chynnal yn y dref brynhawn Sul.

Roedd Ellen Edwards, yn 么l un papur newydd adeg ei marwolaeth yn 1899, yn "athrawes forwrol mwyaf llwyddiannus Gogledd Cymru am gyfnod o tua 60 mlynedd".

Fe ddysgodd dros 1,000 o ddynion yn ei hysgol forwrol yng Nghaernarfon.

Dywedodd Osian Owen sy'n trefnu'r digwyddiad ar ran Lle Arall: "Er gwaethaf cyfraniad aruthrol Ellen i hanes diwydiannol yr ardal hon, prin iawn yw ymwybyddiaeth pobol leol ohoni, o'i gymharu 芒, dyweder, Lloyd George.

"Rydyn ni'n gobeithio mynd rhywfaint o'r ffordd i unioni'r cam hwnnw gyda phrynhawn cyfan i ddathlu Ellen."

Cefndir Ellen Edwards

Ganwyd Ellen Edwards yn 1810 yn Amlwch. Roedd yn ferch i'r Capten William Francis, a agorodd ysgol fordwyo yn Amlwch yn 1814.

Dilynodd Ellen 么l troed ei thad gan agor ysgol fordwyo ei hun yng Nghaernarfon yn 1830 a bu ei merch hefyd yn cynorthwyo yn yr ysgol.

Bu farw yn 78 oed yn 1889.

Mae'r digwyddiad brynhawn Sul yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau.

"Mae'r 诺yl yn dechrau yng nghwmni Elin Tomos, yr hanesydd sy'n arbenigo mewn hanes diwydiannol lleol, ac yn arbennig rhan merched yn yr hanes hwnnw," dywedodd Osian Owen.

"Wedi hynny bydd set o gerddoriaeth werin, forwrol, Gymraeg gan Gwilym Bowen Rhys, y cerddor o Fethel yn Arfon. Mae gan Gwilym wybodaeth helaeth o gerddoriaeth hanesyddol, Gymraeg, ac mae gan bob c芒n ei hanes unigryw ei hun.

"Ac i gloi, byddwn yn dangos cyfres o glipiau byr yn bwrw golwg ar Merched y M么r, cyfrol o 2013, sy'n dogfennu rhan merched Cymru yn hanes morwrol y wlad o 1750 hyd heddiw."

Fe fydd yr 诺yl hefyd yn cael ei .