Dinas Diwylliant: Wrecsam am geisio eto yn 2029

Disgrifiad o'r fideo, Roedd y dorf yn aros yn eiddgar am y canlyniad yn Wrecsam

Mae Wrecsam yn bwriadu gwneud cais arall i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029, yn dilyn y siom o fethu allan ar y teitl nos Fawrth pan gyhoeddwyd yr enillydd.

Bradford gafodd ei ddewis o'r rhestr fer i olynu Coventry fel Dinas Diwylliant y DU 2025, ond dywedodd Amanda Davies, arweinydd cais Wrecsam, wrth y ´óÏó´«Ã½ y bydd y ddinas yn bendant yn ymgeisio eto am y teitl yn 2029.

"Roeddan ni wir isio dod â'r teitl adref i Wrecsam," meddai, "ond rydym yn dal yn enillwyr.

"Rydym wedi dechrau'r siwrnai ac mae'n rhaid inni barhau.

"Edrychwch ar yr holl gymunedau oedd tu cefn i ni, ac rydym yn bwrw mlaen, rydym yn mynd amdani yn 2029.

"Mae hynna'n bendant, rydym yn mynd am 2029."

Er na fu llwyddiant y tro hwn, derbyniodd Wrecsam £125,000 am gyrraedd y rhestr fer.

Mae'r statws yn golygu y bydd Bradford yn ganolbwynt i ddigwyddiadau celfyddydol, ac mae'n rhoi cyfle i ddenu digwyddiadau ac ymwelwyr.

Mae 'na amcangyfrif bod Coventry wedi elwa o £170m ar ôl cael y teitl yn 2021.

Wrth wneud y cyhoeddiad ar ´óÏó´«Ã½1, dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Nadine Dorries, bod safon y gystadleuaeth wedi bod yn "ardderchog" eleni.

'Byddwn ni yn tyfu o hyn'

Disgrifiad o'r llun, Er gwaetha'r canlyniad, roedd Neal Thompson yn falch o Wrecsam nos Fawrth

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd Neal Thompson, un o sylfaenwyr Gŵyl Focus Wales a phartner allweddol y cais:

"Y rheswm i Wrecsam fynd mor bell yn y broses Dinas Diwylliant yw oherwydd y pethau sydd gyda ni ymlaen yma.

"Mae'n adlewyrchiad o'r hyn sydd yn digwydd ac o barch. Roedden ni yma cyn y cais ac fe fyddwn ni yn parhau."

Disgrifiad o'r llun, Bydd Wrecsam yn tyfu o'r profiad, medd arweinydd y cyngor

Yn ôl Mark Pritchard, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam, "mae'n gymysgedd o emosiynau mewn gwirionedd".

"Siom ond hefyd balchder dros bobl Wrecsam, mae wedi dod â ni at ein gilydd. Os chi'n sylwi ar yr awyrgylch yma heno maen nhw wedi cefnogi Wrecsam.

"Byddwn ni 'nôl, byddwn ni yn tyfu o hyn ac yn gryfach," meddai.

"Fe fyddai yn llongyfarch Bradford a gobeithio y byddan nhw yn mynd ymlaen i gael cais gwych, ac y bydd popeth yn mynd yn dda iddyn nhw."

'Byddwn ni yn ennill y tro nesaf'

Disgrifiad o'r llun, Rhaid cadw'r momentwm i fynd, medd Iolanda Banu Viegas

Dywedodd Iolanda Banu Viegas, un o siaradwyr Portiwgaleg Wrecsam, ei bod hi'n "teimlo yn eitha' trist - ond da ni yn mynd i ennill tro nesaf oherwydd ein bod yn dysgu o'n camgymeriadau".

"Mae'n flaenoriaeth i gadw y momentwm i fynd. Dydyn ni ddim yn gwneud hyn ar gyfer y beirniaid, ni'n gwneud hyn i ni ein hunain, ac ar gyfer ein cymunedau oherwydd ni'n falch o beth ni'n gwneud a bydd dim byd yn dwyn hynny oddi wrthym."

Dywedodd yr artist leol, Paul Eastwood: "Llongyfarchiadau i Bradford yn gyntaf - ond unwaith eto mae Cymru wedi colli allan ar arian sydd ar gael yn yr undeb Brydeinig."

Disgrifiad o'r llun, Ni ddylai Wrecsam ddigalonni, medd Paul Eastwood

"Ond rhaid i ni gario 'mlaen a dangos i'r byd be' 'dan ni'n gallu ei wneud.

"Y peth pwysig ydy cario 'mlaen, dod at ein gilydd… a dim mynd adref yn meddwl 'dan ni 'di colli."

Gall Wrecsam "ymfalchïo" yn ei chais, medd Cadeirydd Menter Iaith Fflint a Wrecsam.

"Hefyd, y ffaith 'dan ni'n trafod cryfderau'r ddinas ac nid just y gwendidau," meddai Gareth Hughes.

£125,000 i ddinasoedd y rhestr fer

Roedd record o 20 cais gwreiddiol i gael y teitl, ond roedd Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr fer gyda Bradford, Durham a Southampton.

Fe fydd Durham a Southampton hefyd yn derbyn £125,000 yr un.

Disgrifiad o'r llun, Côr Meibion Orffiws Y Rhos yn ceisio codi calon y dorf wedi'r canlyniad

Dyma'r tro cyntaf i'r dinasoedd ar y rhestr fer gael eu gwobrwyo.

"Roedd hi'n gystadleuaeth anodd, a hoffwn ddiolch i Durham, Southampton a Wrecsam am eu ceisiadau arbennig," meddai'r ysgrifennydd diwylliant.