大象传媒

G诺yl Triban: Edrych ymlaen at 'barti go iawn'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
G诺yl TribanFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Bydd G诺yl Triban yn dechrau ar faes Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf ddydd Iau.

Wrth ddathlu ei chanmlwyddiant, mae'r Urdd wedi disgrifio'r digwyddiad yn Ninbych fel "aduniad mwya'r ganrif".

Bydd tri llwyfan ar y Maes gydag ystod o artistiaid yn perfformio, gan gynnwys Adwaith, Tara Bandito, Bwncath, Yws Gwynedd a N'Famady Koyat茅.

Bydd Eden hefyd yn perfformio ar noson ola'r 诺yl ddydd Sadwrn.

Dywedodd Si芒n Eirian, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, bod yr 诺yl "yn ddatblygiad cyffrous" ac yn "gyfle i ni ddathlu'r holl elfennau o ddiwylliant Cymraeg".

'Dathliad go iawn'

Un sy'n gyffrous am y penwythnos yw Non Parry o'r gr诺p pop Eden, sydd wedi disgrifio arlwy'r 诺yl fel "lein-yp anhygoel".

"Fyswn i'n dod yma i wylio bob un - os taswn i ddim yma yn perfformio fy hunan fyswn i bendant yn dod yma," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Non Parry yn perfformio gydag Eden nos Sadwrn

"'Dan ni really yn teimlo y dathliad yma, y 100 mlynedd ac mae'n mynd i fod fatha g诺yl go iawn yn yr haul gobeithio.

"Mae 'na ddathliad go iawn, parti go iawn - ac yn y lle gorau i gael parti.

"Mae e'n mynd i fod yn benwythnos i'w gofio."

'Datblygiad cyffrous'

Dywedodd Si芒n Eirian bod yr 诺yl yn "cynnig gwledd i bawb o bob oed".

Yn ogystal 芒'r gerddoriaeth, bydd Cwis Mawr yr Urdd nos Sadwrn yn profi gwybodaeth cyn-aelodau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y band Adwaith hefyd yn perfformio nos Sadwrn

Wrth rannu ei chyffro am yr 诺yl, cyfeiriodd Si芒n at gynnal Jambori cynta'r Urdd ar y cyd 芒 Dilwyn Price, sy'n adnabyddus am ei waith yn arwain Jamboris y mudiad.

"Pam wnes i a Dilwyn gynnal y Jambori cyntaf yn Rhyl yn 1988, doedden ni byth yn meddwl y bydden ni'n dod yn 么l at ein gilydd i gynnal un arall ar y Maes yn 2022."