大象传媒

Y Jiwbil卯: Dug, Duges a'u plant yn dod i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Dug a Duges Caergrawnt gyda'r Tywysog George a'r Dywysoges CharlotteFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dug a Duges Caergrawnt yn cyrraedd Castell Caerdydd gyda'r Tywysog George a'r Dywysoges Charlotte

Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi ymweld 芒 Chastell Caerdydd ddydd Sadwrn fel rhan o ddathliadau'r Jiwbil卯 Blatinwm.

Fe ddaeth y Tywysog William a Kate Middleton 芒'u dau blentyn hynaf, y Tywysog George a'r Dywysoges Charlotte, gyda nhw i'r brifddinas.

Dyma oedd ymweliad swyddogol cyntaf y ddau blentyn 芒 Chymru.

Aled Jones a Sh芒n Cothi sy'n cyflwyno'r cyngerdd ac mae Bonnie Tyler, Owain Wyn Evans a rhai o gantorion y West End ymysg y perfformwyr.

Fe wnaeth y gwestai arbennig wylio ymarfer olaf y perfformwyr yng Nghastell Caerdydd a chwrdd 芒'r criw cynhyrchu i ddysgu mwy am eu gwaith a chael blas ar sut mae'n nhw wedi rhoi'r cynhyrchiad at ei gilydd o ran y goleuo a'r sain.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Tywysog William a Kate Middleton yn cwrdd 芒 pherfformwyr gefn llwyfan, fel Bonnie Tyler ac Owain Wyn Evans

Disgrifiad,

'Dangos y drymiau a ga'l bach o hwyl yn eu cwmni'

Dywedodd Bonnie Tyler bod y Tywysog William wedi ei llongyfarch am dderbyn MBE yn rhestr anrhydeddau'r Jiwbil卯 Blatinwm.

"Dywedodd wrtha'i 'Wnes i chwarae rhywfaint o eich cerddoriaeth ar y ffordd i lawr fel y bydde'r plant yn gwybod' - onid yw hynny'n hyfryd?

"Dywedais innau wrtho fe fy mod wedi cwrdd 芒'i fam yma yng Nghaerdydd mewn ysbyty yn yr Wythdegau."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Duges Caergrawnt a'r Dywysoges Charlotte yng Nghastell Caerdydd

Roedd yna gyfle hefyd i sgwrsio ag aelodau'r cyhoedd oedd yn aros i gael cipolwg arnyn nhw yng Nghaerdydd.

Dywedodd Emma Thomas, sy'n byw yng Nghaerdydd: "Cerddodd y Tywysog George ata'i, ysgwyd fy llaw a dweud 'George wyf i'.

"Roedd y Dywysoges Charlotte yn llygadu esgidiau disglair y fenyw a roddodd y blodau i Kate.

"Dywedodd Kate na ddaethon nhw 芒 Louis [eu plentyn ieuengaf] oherwydd y byddai'n rhwygo'r lle'n ddarnau!"

Mae aelodau blaenllaw eraill y teulu brenhinol wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban fel rhan o'r dathliadau.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y teulu brenhinol yn sgwrsio ag aelodau'r cyhoedd ddechrau'r prynhawn

'Pawb yn mwynhau sy'n bwysig'

Un o'r perfformwyr fu'n cwrdd 芒'r teulu brenhinol yw'r diddanwr John Owen Jones, sydd wedi portreadu Jean Valjean yn y sioe Les Miserables.

Dywedodd ar drothwy'r ymweliad: "Mae wastad yn hyfryd i allu perfformio yng Nghymru, ac mae'n fraint i fod yn rhan o'r cyngerdd i ddathlu'r Jiwbil卯. Hyd yn oed gyda barnau gwahanol ar y frenhiniaeth, mae'n gyfle da i bobl fwynhau a dathlu.

"Mae'n gyflawniad arbennig i'r Frenhines gyrraedd 70 mlynedd ar ei gorsedd. Fi'n cofio dathlu'r Jiwbil卯 arian pan roeddwn i'n blentyn yn 1977. Mae'n arbennig bod pawb yn gallu dathlu'r achlysur yma nawr ar 么l y cwpl o flynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae'n braf gallu dathlu'r achlysur ar 么l y cyfod clo,' medd John Owen Jones

"Ddydd Sadwrn byddai'n rhan o'r perfformiad theatr gerdd, lle fyddwn ni'n canu'r caneuon mwyaf poblogaidd o Gymru. Byddai'n canu 'Delilah' ar ddiwedd y cyngerdd. Dylse hwnna fod yn hwyl.

"Fi'n credu'r peth mwyaf pwysig amdano yw bod pawb yn mwynhau eu hunain ac yn mwynhau'r gerddoriaeth hefyd.

"Byddai hefyd yn perfformio gyda Ch么r Meibion Pendyrys. Dwi'n edrych ymlaen at hwnna hefyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Torf yn aros am gipolwg o'r gwestai arbennig tu allan i Gastell Caerdydd

Richard Perry o Bort Talbot yw cynhyrchydd y cyngerdd. Mae'n dweud ei fod yn "hynod o gyffrous".

"Ni wedi bod yn edrych ymlaen am fisoedd at y cyngerdd ac wedyn roeddwn ni'n hynod o gyffrous pan wnaethon ni glywed bod y Dug a Duges Caergrawnt yn dod i ymweld 芒 ni. Yna wnaethon ni glywed bod Bonnie Tyler wedi derbyn yr MBE - felly mae popeth wedi dod at ei gilydd yn arbennig o dda.

"Mae'r c么r plant wedi bod yn ymarfer am chwe wythnos. Mae'r c么r yn cynnwys ysgolion a grwpiau ar draws De Cymru. Mae cwmni dawnsio Rubicon hefyd yn dod lawr, felly bydd gweithdy gyda nhw.

"Felly rydyn ni wir yn gyffrous am y rhan mawr mae'r gymuned yn ei chwarae yn y cyngerdd a hefyd y ffaith bod amrywiaeth o bobl ar y llwyfan - o bobl ifanc i gorau meibion. Felly rydyn ni'n dangos agweddau gwahanol o'n traddodiadau.

"Un o'r pethau roeddwn ni eisiau gwneud pan roeddwn ni'n cynllunio'r sioe oedd cael pobl o bob oedran i fod yn rhan o'r sioe, ac i roi cyfle i bobl ifanc.

"I ni, o'n ni wir eisiau dathlu popeth Cymreig a beth mae bywyd wedi bod fel dros y 70 mlynedd diwethaf.

"Mae'r ffaith fod pobol dalentog Cymru gyda llwyfan fel hyn, sydd yn cydfynd 芒'r jiwbil卯, mae'n gwneud fi'n falch iawn."

'Llawn cyffro'

Un arall sy'n cymryd rhan ydi Millie Davies, 21, o Gaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Andrew Perry
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Millie Davies ei bod yn llawn cyffro

"Dwi i mor gyffrous ac yn nerfus! Dwi'n ddiolchgar iawn i'r t卯m o Live Under the Stars sydd wedi rhoi'r cyfle yma i mi gymryd rhan yn y cyngerdd.

"Dwi di bod yn gweithio gyda nhw ers rhai blynyddoedd. Un o fy swyddi proffesiynol cyntaf oedd gyda Richard Perry a John Manders a maen nhw yn wych yn hyrwyddo talent newydd a pherfformwyr Cymreig.

"Ma' wastad wedi bod ar fy bucket list i gwrdd efo'r teulu brenhinol. Mae Jiwbil卯 Platinwm y Frenhines yn ddigwyddiad unwaith mewn oes ac mae'n syfrdanol bo fi yn cael cyfle i berfformio a bod yn rhan o'r dathliadau.

"Dyma fydd y tro cyntaf i fi gwrdd 芒'r teulu brenhinol - rwy'n edrych ymlaen i weld Dug a Duges Caergrawnt - wi ddim si诺r sut rwy fod i ymddwyn o amgylch y teulu brenhinol! Ma' mor gyffrous."

Pynciau cysylltiedig