Teyrngedau i ddyn ifanc 'parod ei w锚n' o Nefyn
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn ifanc "parod ei w锚n" fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhen Ll欧n dros y penwythnos.
Roedd Droy yn 20 oed ac yn dod o ardal Nefyn.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ar y B4354 rhwng Nefyn a'r Ff么r ychydig cyn 13:30 ddydd Sadwrn.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng dau gar - BMW X3 glas a Ford Fusion du. Cafodd dyn 57 oed hefyd ei gludo i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau sy'n peryglu ei fywyd.
Mae teulu Droy wedi ei ddisgrifio fel dyn "hapus a gweithgar" oedd bob amser "芒 gw锚n hyfryd ar ei wyneb".
Dywedodd tafarn Yr Heliwr yn Nefyn, ble roedd Droy yn gweithio, ei fod yn "ddoeth tu hwnt ei flynyddoedd".
'Rhan allweddol o'r gymuned'
Cafodd Droy ei fagu ym Morfa Nefyn, lle'r oedd "yn rhan allweddol o'r gymuned".
"Roedd Droy yn ddyn hapus, hyderus a gweithgar oedd yn gyfeillgar 芒 phawb," meddai ei deulu.
"Roedd pawb yn yr ardal yn ei adnabod, ac mi oedd o'n mwynhau treulio amser gyda'i ffrindiau a'i deulu, ac roedd pob tro gw锚n hyfryd ar ei wyneb."
Roedd mewn perthynas hapus gyda'i gariad, meddai'r teulu, "oedd yn disgwyl ymlaen at eu gwyliau cyntaf gyda'i gilydd eleni".
Roedd wedi cwblhau cwrs gosod briciau yng Ngholeg Dolgellau yn ddiweddar, a bu hefyd yn aelod o Gadetiaid y Fyddin.
"Ers gadael yr ysgol fe weithiodd mewn sawl sefydliad yn yr ardal leol, ble'r oedd llawer o barch tuag ato gan staff a chwsmeriaid.
"Fe fydd yn cael ei gofio am ei waith caled y tu 么l i'r llenni yn nhafarn Yr Heliwr, a'i w锚n llachar y tu 么l i'r bar," meddai'r teulu.
Yn ogystal 芒 choginio, roedd Droy yn mwynhau pysgota, cerddoriaeth, treulio amser 芒 ffrindiau, gwersylla a cherdded.
"Mae'n calonnau ni wedi'u torri, a hoffwn ni nawr gael amser i alaru a chael preifatrwydd."
'Gymaint o seren'
Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd tafarn Yr Heliwr yn Nefyn fod "dim geiriau i ddisgrifio sut ma' teulu'r Heliwr yn teimlo".
"Mae ein colled yn enfawr, roedd Droy yn gymaint o seren, parod ei w锚n, annwyl iawn ac yn ddoeth tu hwnt ei flynyddoedd.
"Pleser llwyr oedd dod i'w adnabod a mawr fydd ein colled.
"Rydym yn meddwl am gariad, teulu a ffrindiau Droy yn ystod yr amser trist yma ac yn anfon nerth a chariad tuag atynt.
"Bydd y dafarn wedi cau'r wythnos yma."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad ar 4 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2022