Ymosodiad ci: Dyn wedi marw wedi iddo golli gwaed

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Keven Jones wedi iddo gael ei frathu gan Cookie, ci XL Bully

Clywodd cwest cychwynnol yn Rhuthun bod dyn, a gafodd ei frathu gan gi ei fab, wedi marw ar 么l iddo golli gwaed.

Ofer fu pob ymdrech i atal coes Keven Jones rhag gwaedu a bu farw yng nghartref ei fab yn Wrecsam ar 23 Mai.

Yn y cwest dywedodd y crwner John Gittins bod plismyn wedi cael eu galw i'r t欧 gan staff y gwasanaeth ambiwlans.

Nododd patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Matthew Lyall, mai achos dros dro y farwolaeth oedd colli gwaed o ganlyniad i anaf ar goes.

Roedd Cookie y ci, XL Bully dyflwydd, yn un o bum ci a oedd yn berchen i fab Mr Jones.

Ffynhonnell y llun, Chanel Fong

Disgrifiad o'r llun, Roedd Cookie yn un o bum ci a oedd yn eiddo i fab Keven Jones

Roedd y mab yn Llundain ar y pryd a gan bod ei wraig, Chanel Fong, yn gorfod mynd allan gofynnodd i Mr Jones, 65, o Saltney yn Sir Caer ofalu am y c诺n.

Dywedodd ei bod wedi clywed Mr Jones yn gweiddi "mae e wedi fy nghael i" a'i bod hi wedi ei ganfod yn gorwedd ar lawr y lolfa.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r t欧 yn Wrecsam ar 23 Mai

Cafodd y ci ei dawelu gan blismon arbenigol cyn ei ddifa.

Fe wnaeth y crwner ohirio'r achos er mwyn caniat谩u i'r heddlu fwrw ymlaen 芒'u hymchwiliad.