Dan 'Bach' Griffiths: ceidwad cerddoriaeth Cymru

Ffynhonnell y llun, Simon Evans

Disgrifiad o'r llun, Dan 'Bach' Griffiths, "Y Yoda"

Yn nyfroedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth mae posib darganfod un dyn sydd wedi ymroi'r mwyafrif o'i fywyd at warchod beth mae'n caru fwyaf - cerddoriaeth.

"Dwi newydd gofnodi record hir cyntaf Breichiau Hir, Hir Oes i'r Cof," meddai Dan 'Bach' Griffiths wrth Aled Hughes ar 大象传媒 Radio Cymru wrth iddo ddathlu 30 mlynedd fel Curadur Cynorthwyol Archif Sgrin a Sain.

"Fy ngwaith yw casglu cerddoriaeth sydd wedi cael ei recordio yn gyfreithiol yng Nghymru. Mae'r record 'ma wedi bod yn y pipeline ers rhyw chwe mis a newydd lanio yn yr wythnos diwethaf. Fi nawr wedi catalogio ac mae e ar gael i unrhyw un sydd moyn gwrando arno fe."

Diolch i Dan 'Bach' mae oes pob un darn o gerddoriaeth o Gymru yn hir ac oherwydd ei waith yn archif y Llyfrgell Genedlaethol bydd cerddoriaeth Cymraeg byth yn mynd yn angof.

'Gwefr'

"Dwi'n mwynhau casglu cerddoriaeth," meddai Dan wrth Aled Hughes o'r archifdy yn Aberystwyth.

"Ma' fe'n rhoi gwefr i fi weld bod pobl yn dal eisiau cynhyrchu cerddoriaeth o safon yn Gymraeg ac yn Gymreig a dal eisiau rhoi adloniant i'r cyhoedd."

I Dan, mae sawl elfen sydd yn gwneud cerddoriaeth yn bwysig i'w gofnodi - ei arwyddoc芒d cymdeithasol, diwylliannol, ynghyd a gwerth ariannol, ac mae'r archif yno i bob math o gerddoriaeth.

Ffynhonnell y llun, Dan Griffiths

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd Archif Sgrin a Sain yn y Llyfgrell Genedlaethol yn 1980

"Mae rhywun yn rhywle wedi chwysu, yn eu stiwdio gwely neu stiwdio fach. Dwi'n hoffi gweld shwt maen nhw yn datblygu o bobl yn eu harddegau i bobl broffesiynol sydd yn ysgrifennu caneuon.

"Mae fy nheulu i yn dweud, ti methu switcho off Dan, ti methu switcho off!"

'Fel rhiant'

Mae Dan 'Bach' wedi bod yn geidwad i gerddoriaeth Cymraeg a Chymreig ers 30 mlynedd bellach ac wedi bod yn dyst i esblygiad cerddoriaeth yng Nghymru.

"Dechreues i gyntaf yn y llyfrgell ar gytundeb tymor byr gyda ffotograffau yn 1992.

"Fi'n gwneud y gerddoriaeth ers 1996. Roedd hi'n ganol Cool Cymru gyda'r bandiau cyffrous 'ma fel y Super Furry Animals, Catatonia, Stereophonics, Manics, Derero, a Topper.

"Fi'n cofio'r record gyntaf Saesneg - Manics, Everything Must Go. Oni wedi gweld nhw cwpwl o wythnose' cyn iddo fe ddod allan. Roeddwn i'n meddwl, 'o waw, mae'r gerddoriaeth yma yn wych' a fi dal yn cofio rhoi e ar y silff y diwrnod 'ny.

"Mae pob darn yn cael rhif catalog a lle yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae copi caled o'r feinyl, rhif a lle ar silff o'r record yn yr archifdy.

Ffynhonnell y llun, Dan Griffiths

Disgrifiad o'r llun, Dan a Dafydd Meredydd yn palu trwy ystafell gopr yr archifdy

"Ar gefn y llewys mae 'na rif lleoliad ac wedyn ei rif. Byddwn i'n mynd lawr i'r celloedd i roi e ar y silff a bydd y staff yn gallu mynd lawr i'w ddarparu fe i'r gwrandawyr.

"Ma' fe yn un broses i fi. Dwi yn rhiant, dwi'n gwybod lle oni pan ddaeth yr albwm i mewn."

Chwyldro o dan ei drwyn

Yn ogystal 芒'r newid cerddorol mae'r newid technolegol yn golygu fod y llyfrgell hefyd wedi gorfod addasu.

Agorwyd yr archif yn 1980 ac mae'r gerddoriaeth wedi bod yn cyrraedd y silffoedd ar ffurf feinyl, cas茅t, CD, minidisk a mwy - "fel chwyldro o dan drwyn" Dan, yng ngeiriau Aled Hughes.

Meddai'r archifydd: "Mae lot o atgofion ond mae'r dechnoleg wedi newid, mae'r llyfrgell wedi newid yn naturiol.

"Dwi'n cofio'r fformat cyntaf - sef yr eight track cassette. Ond y fformatau dwi yn fwyaf adnabyddus gydag yw'r cas茅t, feinyl a CD. Ond mae minidisks wedi cael cynhyrchu, ynghyd a dats, cas茅t, reel sain agored ac wedyn chi'n mynd n么l i'r feinyl a cyn hynny eto.

"Mae pob eitem yn y celloedd gyda rhyw fath o leoliad. Y fformat ac wedyn y rhif, mae'r rhif yn gronolegol, a does 'na ddim trefn llythrennol. Allet ti gael y sefyllfa lle mae rhywbeth newydd a rhywbeth hen gyda'i gilydd.

Ffynhonnell y llun, Dan Griffiths

Disgrifiad o'r llun, Dan gyda'i hoff fand, KISS

Ceidwad

Mae dyletswydd ar Dan a'r llyfrgell i sicrhau fod darnau prin a bregus yn goroesi. Yn nyfroedd y gell mae un record oedd wedi costio "lot o arian," sef record gyntaf Meic Stevens.

Cafodd ei albwm Saesneg, Outlander ei ryddhau gyda label Warner Brothers, ac mae diolch i hen fos Dan, Iestyn Hughes am ei ddarganfod.

"Wnaeth fi a fe weld hwn ar Ebay a dyma'r ddau ohonom ni yn penderfynu 'reit, rhaid ni gael hwn - mae e mewn cyflwr da ac mae ganddo fe'r llewys mewnol. Felly'r oriau yn ticio lawr a chael ei weru o'r Iseldiroedd."

Mae'r archif hefyd yn cynnwys y fformat cyntaf o ddechrau'r ugeinfed ganrif hefyd, sef y silindr cwyr.

"Dyma silindr cwyr o lais Evan Roberts o 1905. Mae hanes i hwn... mae 'na focs o fewn bocs ac yno mae'r silindr cwyr oedd unwaith mewn darnau.

Ffynhonnell y llun, Dan Griffiths

Disgrifiad o'r llun, Silindr cwyr Evan Roberts o 1905. Dyma oedd y ffordd gyntaf erioed o recordio a chynhyrchu sain. Roedd modd ei chwarae ar y ffonograff silindr gafodd ei ddyfeisio yn 1896 gan Thomas Edison

"Roedd e wedi cael ei ddinistrio. Ond fe drwsiwyd y silindr yr holl ffordd allan yng Nghaliffornia yn LA gan ddeintydd oedd 芒 diddordeb mawr yn y silindrau.

"Aeth un o'n haelodau o staff draw am 5 diwrnod a gweld y silindr yn cael ei roi yn 么l at ei gilydd."

"Fe allen nhw fyw am flynyddoedd"

"Mae'n bwysig fod pethau yn goroesi, neu beth yw'r pwynt? Dyw dyn ddim yma am byth, ond mae'r pethau fel hyn - os ydyn nhw wedi cael eu cadw yn iawn, wedi cael yr amodau gorau ac wedi cael ei barchu - fe allen nhw fyw am flynyddoedd."

Mewn un rhan arbennig yn yr archif mae rhywun yn cerdded mewn i ystafell sydd yn gopr pur o'i waliau i'w lloriau er mwyn gwarchod casetiau rhag effaith magnetig.

"O fewn un silff mae gen ti rywbeth masnachol gafodd ei greu mewn mil o gasetiau a drws nesaf mae gen ti demo cyntaf Datblygu, un o dapiau cyntaf Ffa Coffi Pawb a cas茅t gwreiddiol Rhedeg i Baris gan Anhrefn."

Ond yw'r oes ddigidol am alluogi i ni warchod ein hetifeddiaeth cerddorol yn yr un modd tybed?

"Mae'r cwestiwn nawr am gadwraeth ddigidol. A fydd yr eitemau yna sydd allan yna nawr dal gyda ni mewn 20 mlynedd?"

Hefyd o ddiddordeb: