Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Does dim yn waeth na gweld fferm odro heb wartheg'
- Awdur, Mared Ifan
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae ffermwr o Sir G芒r wedi siarad am y pwysau sydd arno fe a'i deulu ar 么l colli ei holl wartheg llaeth i'r dici芒u (TB).
Collodd Gwyndaf Thomas, sy'n ffermio ger Meidrim yn Sir Gaerfyrddin, ei fuches gyfan oedd yn cynnwys 500 o wartheg godro bum mlynedd yn 么l.
Bu'n rhaid iddo ail-adeiladu ei fferm o'r dechrau ac mae bellach yn godro 260 o wartheg.
Ond mae'n dweud nad oedd e a'i deulu wedi cael digon o gefnogaeth ar y pryd a bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gael gwared ar y dici芒u yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod TB mewn gwartheg yn "her enfawr" ond bod "cynnydd da" wedi digwydd ers sefydlu'r rhaglen dileu TB yng Nghymru.
Mae ffigyrau'n dangos y bu gostyngiad o bron i 900 o ffermydd llaeth yng Nghymru rhwng 2010 a 2020.
"Oedd e'n amser caled ar y pryd, 'nes i golli'r gwartheg i TB a gweld clos y fferm yn wag. Do's dim byd yn waeth na gweld fferm odro a dim gwartheg arni o gwbl," meddai Gwyndaf Thomas.
"Hyd yn oed y plant ar y pryd, yn pryderu am yr anifeiliaid anwes oedd 'da nhw. Fi'n cofio'r ferch lleiaf yma yn llefen gyda'r nos yn becso beth oedd yn mynd i ddigwydd i'r c诺n ar y clos fan hyn.
"Ac fe gethon ni lythyr wrth y doctor i fynd 芒'r plant lawr i'r ysbyty yn Glangwili i gael BCG vaccination i'r plant. O'n i ddim yn gwybod ar y pryd ond maen nhw wedi stopio gwneud hynny ers sawl blwyddyn nawr.
"So pan oedd y plant yn mynd n么l i'r ysgol y bore trannoeth, o'dd y plant eraill yn holi nhw beth yw'r lwmpyn ar eu hysgwydd. Roedden nhw jyst yn teimlo yn unig ar eu pennau hunain am dipyn bach o amser."
"Fi'n cofio ar y pryd gofyn i un Aelod Seneddol beth allen nhw wneud i'n helpu ni a dyna gyd ges i oedd cynnig i fynd i'r food bank yng Nghaerfyrddin am dair wythnos.
"Oedd e jyst yn pathetig i ddweud y gwir."
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru "wedi gwneud dim byd o gwbl" i helpu ffermwyr sy'n wynebu buches heintiedig a bod eu dull o geisio dileu TB yng Nghymru wedi bod yn "shambles".
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae TB mewn gwartheg yn her enfawr, ac yn peri gofid i ffermwyr sy'n gorfod delio ag ef yn eu buchesi.
"Rydym wedi gweld cynnydd da ers sefydlu ein rhaglen dileu TB, gyda gostyngiadau hirdymor yn nifer yr achosion a nifer y buchesi dan gyfyngiadau. Rhan o'r ateb i'r broblem yw parodrwydd pobl, yn y Llywodraeth a'r diwydiant, i gydweithio.
"Mae ffermwyr wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni ac rydym, wrth gwrs, yn gwrando arnynt. Rydym wedi bod yn glir na allwn fynd i'r afael 芒'r clefyd hwn ar ein pen ein hunain ac mae gan bob un ohonom r么l bwysig i'w chwarae."
Pris isel yn arwain at fenter newydd
Mae pris llaeth wedi bod yn fater rhwystredig i lawer o ffermwyr llaeth dros y blynyddoedd diwethaf hefyd.
Er bod y pris wedi cynyddu'n sylweddol yn ddiweddar, mae'r cynnydd mewn costau bwyd, gwrtaith ac ynni wedi cael effaith uniongyrchol ar ffermwyr llaeth.
Yn 么l un rhagolwg, bydd ffermwyr llaeth yn dal i wneud colled o 0.3 y litr am bris y llaeth y maen nhw'n ei gael gan gyflenwyr mawr.
Mae'r prisiau isel wedi arwain at rai yn y diwydiant i gymryd mwy o reolaeth dros eu cynnyrch eu hunain.
Ar ei fferm ar gyrion Caerfyrddin, ger Nantgaredig, mae Mathew Jones newydd agor peiriant gwerthu llaeth newydd.
"Pan oedd y llaeth lawr i tua 12c, oedd e ddim werth codi'n bore," meddai.
"Felly oedd rhaid i ni wneud rhywbeth... ni sy'n setio'r prisiau yma, dim y cwmn茂au mawr. Mae'n neis gwybod bod rhywfaint o sicrwydd gyda ni am faint o arian sy'n dod mewn bob mis.
"Fel mae pethau ar y funud, costau'n codi, byddai fferm deuluol fach ddim wedi gallu ymdopi sai'n credu. So oedd e'n rhywbeth oedd rhaid gwneud."
Ychwanegodd nad oedd hi'n sioc fawr i glywed am y dirywiad yn nifer y ffermydd llaeth ac y gallai weld llawer mwy yn gadael y diwydiant.
"Does dim ond rhaid i chi edrych ar Facebook a gweld dros y wlad i gyd bod dwy i dair dispersal sale bob wythnos erbyn hyn.
"Mae'n peri gofid ond ar y funud ni'n gobeithio aros ynddi."
Gan gyfeirio at y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i ffermwyr yng Nghymru, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymrwymedig i barhau i gefnogi diwydiant llaeth Cymru i sicrhau dyfodol cadarn iddo.
"Rydym wedi darparu 拢6.5m o gyllid o'r Rhaglen Datblygu Gwledig i gefnogi 'Rhaglen Gwella Llaeth' y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth i gynyddu effeithlonrwydd a chydnerthedd y sector llaeth.
"Er y bu gostyngiad yn nifer y ffermydd llaeth, ni fu gostyngiad yn nifer y gwartheg godro yng Nghymru."