Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
G诺yl Tafwyl yn dychwelyd yn llawn wedi tair blynedd
Mae'r torfeydd wedi heidio i Gastell Caerdydd wrth i Tafwyl ddychwelyd yn llawn i'r brifddinas wedi seibiant o dair blynedd.
Gyda 40 o fandiau yn perfformio dros y penwythnos, mae disgwyl i 40,000 o bobl ymweld a'r digwyddiad yng Nghastell Caerdydd.
Ond yn ogystal a cherddoriaeth byw ac artistiaid fel S诺nami ac Yws Gwynedd, mae'r 诺yl hefyd yn cynnwys theatr a chomedi, a thrwy hynny'n hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn y brifddinas.
Tydi'r 诺yl heb ei lwyfannu'n llawn ers tair mlynedd oherwydd y pandemig, er i 诺yl y llynedd gael ei ddefnyddio fel cynllun peilot ar gynnal digwyddiadau mawr yng nghysgod Covid.
'Perthyn i bawb'
Yn lansiad swyddogol yr 诺yl roedd Gweinidog y Gymraeg yn awyddus i bwysleisio fod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb.
Dywedodd Jeremy Miles AS: "Mae'r 诺yl am ddim felly mae pawb yn gallu dod a blasu, a rwy'n sicr fydd pobl yn dod falle sydd ddim yn medru llawer o'r Gymraeg jyst yn troi fyny i weld beth sy'n digwydd yma ac yn cael eu hysbrydoli falle i ymgymryd a gwersi.
"Mae lot o heriau wedi bod i'r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf felly mae'n amlwg bod angen bod yn arloesol yn sut ni'n ymateb i hynny.
"Mae wir yn bwysig, wedi dysgu'r Gymraeg, ein bod yn ei defnyddio hi, a dyna pam mae Tafwyl a gwyliau fel hyn mor ffantastig."