Gofyn i Lywodraeth y DU gyllido ffordd osgoi Llanbedr
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu gofyn i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy ac achub gobeithion am ffordd osgoi ddadleuol.
Ers degawdau mae galwadau wedi bod am ddatrysiad yn ardal Llanbedr oherwydd pont gul yng nghanol y pentref.
Yn ogystal 芒 sicrhau gwell mynediad at Ganolfan Awyrofod Eryri, nepell o'r pentref, mae cwynion wedi bod ers blynyddoedd am dagfeydd a phroblemau traffig.
Yn 么l pobl leol mae'r broblem ar ei hanterth yn ystod misoedd yr haf.
Ond er sicrhau caniat芒d cynllunio gan Barc Cenedlaethol Eryri ym Mawrth 2020, daeth ergyd wedi i Lywodraeth Cymru dynnu 'n么l eu cefnogaeth ariannol i'r cynllun 拢14m.
Daeth y tro pedol yn sgil adolygiad o holl gynlluniau ffyrdd newydd yng Nghymru, gyda gweinidogion yn derbyn barn panel annibynnol nad oedd ffordd osgoi Llanbedr yn cyd-fynd 芒 pholisi trafnidiaeth a hinsawdd y llywodraeth.
Troi at Lywodraeth y DU
Ond gyda galwadau am ffordd newydd ymhell o fod wedi pylu'n lleol, mae'r cyngor sir wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru Fyw eu bod am droi at Lundain mewn ymgais i sicrhau cyllid o hyd at 拢40m er mwyn bwrw 'mlaen.
Fel rhan o gais Cyngor Gwynedd am gyfran o gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU mae gofyn am arian i gyllido cynllun diwygiedig yn y pentref - er yn debyg o gostio llawer mwy na'r cynllun gwreiddiol.
Mae'r gronfa hon wedi disodli'r hen ffynonellau Ewropeaidd, gyda chyfanswm o 拢4.8bn ar gael i gyllido ystod eang o brosiectau, gan gynnwys gwella trafnidiaeth.
Ond bydd Gwynedd yn cystadlu yn erbyn awdurdodau eraill ar draws y DU am gyfran o'r arian.
Roedd 拢7.5m o gost cynllun ffordd osgoi Llanbedr i ddod o ffynonellau Ewropeaidd, gyda 拢3m i ddod gan Lywodraeth Cymru.
Yn 么l gweinidogion ym Mae Caerdydd bydd yr arian hwnnw yn cael ei arallgyfeirio tuag at "gynlluniau trafnidiaeth gynaliadwy" yn yr ardal.
Ond cadarnhaodd Gyngor Gwynedd mai'r gobaith yw sicrhau 拢40m gan Lywodraeth y DU, sy'n cynnwys "coridor gwyrdd" sydd hefyd yn ymgorffori llwybrau beicio a cherdded.
'Teithio mewn ffordd mwy ecogyfeillgar'
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y bydd adroddiad yn amlinellu'r cais yn cael ei gyflwyno i gabinet y cyngor fis nesaf.
"Bwriad cynllun Coridor Gwyrdd Ardudwy ydi darparu pecyn o fesurau fydd yn cynnig dewisiadau i bobl leol ac ymwelwyr i deithio mewn ffordd mwy ecogyfeillgar ar gyfer gwaith a phleser mewn ardal wledig a rhoi hwb i economi de Gwynedd," meddai.
"Y bwriad yw cyflwyno cais, am oddeutu 拢40 miliwn, ar gyfer adeiladu ffordd newydd i osgoi pentref Llanbedr.
"Bydd y cynllun yn dod 芒 budd sylweddol i ardal eang o Feirionnydd, sy'n ymestyn o Benrhyndeudraeth i Abermaw. Bydd yr elfen yma o'r prosiect yn cynnwys mynediad newydd i safle'r maes awyr presennol."
Gan bwysleisio bod yr elfennau teithio gwyrdd a theithio llesol "yn greiddiol i'r cais", y bwriad yw ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio yn ddiogel ym mhentref Llanbedr ei hun, gwella mynediad pobl leol ac ymwelwyr i drafnidiaeth gyhoeddus drwy ddatblygu safleoedd bws a chysylltiadau rheilffordd addas, a hefyd gosod gwasanaeth gwefru ceir trydanol ar hyd y ffordd.
Dywedodd ddirprwy arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys, wrth Newyddion S4C: "Dwi'm yn licio mynd ar ofyn Boris Johnson yn Llundain am ddim byd.
"Ond blaenoriaeth ni ym Mhlaid Cymru yng Ngwynedd yw pobl Gwynedd, ac os mae angen yr arian i ddatblygu rhywbeth fydd o fudd i bobl Gwynedd yna mae'n gyfrifoldeb arnon ni i wneud y mwyaf o unrhyw swm o arian sydd allan yna.
"Da' ni'n gwbod dydi Boris Johnson ddim yn deall na pharchu datganoli ond dyna reolau'r g锚m ar hyn o bryd gan fod arian Ewropeaidd ddim ar gael i ni bellach.
"Mae'n dangos diffyg dealltwriaeth Llywodraeth San Steffan o ddatganoli ond mae'n bwysig i ni gael y dd锚l orau i bobl Gwynedd."
Ond mewn ymateb pwysleisiodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, nad oes modd parhau i adeiladu mwy o ffyrdd.
"Rydyn ni i gyd yn wynebu'r un argyfwng newid hinsawdd," dywedodd.
"Os ydym o ddifrif am fynd i'r afael ag ef, ni allwn barhau i adeiladu mwy a mwy o gapasiti ffyrdd ar gyfer cerbydau preifat.
"Dyna pam rydym wedi comisiynu adolygiad ffyrdd sy'n edrych ar bob cynllun ffordd newydd.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda Chyngor Sir Gwynedd i gyflawni gwelliannau yn Llanbedr, sy'n cyd-fynd 芒'n targedau uchelgeisiol i fynd i'r afael 芒'r argyfwng hinsawdd, fel y nodir yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru a'n cynllun cyflawni carbon isel sero Net Cymru, ac sy'n gwneud y gorau o gyfleoedd economaidd lleol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2022
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022