大象传媒

Ffermydd gwynt sy'n arnofio 'am greu 10,000 o swyddi'

  • Cyhoeddwyd
Arfordir Sir BenfroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ardal mae Yst芒d y Goron yn ei gynnig ar gyfer y cynllun 40 milltir oddi ar arfordir de-orllewin Cymru

Byddai cynlluniau i gynhyrchu trydan mewn ffermydd gwynt fyddai'n arnofio yn y m么r ger arfordir de Cymru yn "drawsnewidiol" o ran swyddi a ffyniant, meddai Yst芒d y Goron.

Mae'r diwydiant yn dweud y byddai'n creu tua 10,000 o swyddi yng Nghymru - 29,000 ledled y DU - er mwyn adeiladu a rhedeg y safleoedd.

Mae Yst芒d y Goron, sy'n rheoli gwely'r m么r, yn bwriadu cynnig y safleoedd ar brydles er mwyn cynhyrchu digon o drydan i redeg pedair miliwn o gartrefi.

Ond mae rhybudd fod angen i'r awdurdodau gyflymu'r broses o drwyddedu'r diwydiant newydd fel y gall gweithwyr o Gymru elwa.

Effaith debyg i olew a dur?

Ers blynyddoedd lawer, bu'r diwydiannau olew a dur yn cael effaith enfawr ar swyddi a ffyniant ar hyd arfordir de Cymru.

Nawr mae gobaith y bydd ffynhonnell ynni arall - trydan o ffermydd gwynt sy'n arnofio - yn cael effaith debyg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Yn bendant bydd hwn yn digwydd - mae diddordeb yn cynyddu," meddai Nicola Clay

"Mae'n gyfle mawr i greu sector newydd yng Nghymru a'r DU," meddai Nicola Clay o Yst芒d y Goron.

"Yn bendant bydd hwn yn digwydd - mae diddordeb yn cynyddu."

Dyddiau cynnar yw hi, a bydd yn rhaid disgwyl nes haf 2023 i Yst芒d y Goron ddechrau'r broses dendro am y safleoedd.

Ond yn 么l corff yr Offshore Renewable Energy Catapult, fe allai'r cynllun fod werth 拢43.6bn i economi'r DU erbyn 2050.

Cyfle i Gymru

Mae'n cael ei weld fel cyfle mawr i Gymru gyda'r ardal y mae Yst芒d y Goron yn ei gynnig ar gyfer y cynllun 40 milltir oddi ar arfordir de-orllewin Cymru.

Mae gan borthladdoedd Cymru nifer o'r sgiliau a'r cyfleusterau sydd ei angen ar y diwydiant.

Mae'r rheiny'n cynnwys tir agored, porthladd dwfn, cysylltiadau da 芒'r grid trydan, digonedd o ddur, a gweithwyr sydd 芒 sgiliau metel a chynhyrchu.

Am flynyddoedd roedd cwmni Ledwood Engineering yn Noc Penfro yn gweithio i'r diwydiant olew, ond wrth i burfeydd gau roedd yn rhaid i'r cwmni a'r gweithwyr ganfod gwaith ymhellach.

Ond maen nhw'n gobeithio y bydd y cynllun am ffermydd gwynt sy'n arnofio yn cynnig cyfleoedd yn ne Cymru.

Byddai'r tyrbinau yn cael eu gosod ar strwythurau mawr wedi'u gwneud o ddur cyn cael eu tynnu i'r m么r - ac ar gyfer hynny fe fyddai angen weldwyr fel Ledwood Engineering.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pryder Nick Revell yw y bydd y broses o drwyddedu'r diwynant newydd yn cymryd peth amser

Ond dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Nick Revell fod perygl na fydd Cymru'n elwa'n llawn o'r cynlluniau os ydy'r broses o drwyddedu'r diwydiant yn rhy araf.

"Mae'n rhaid i Yst芒d y Goron weithio ar hyn a darparu datrysiadau amserol," meddai. "Hefyd, Cyfoeth Naturiol Cymru - rhaid iddyn nhw ddod at y bwrdd a gwneud i hyn weithio."

Dywedodd Ms Clay fod Yst芒d y Goron "yn gwneud pethau cyn gynted 芒 phosib" ond ei bod yn "bwysig ein bod ni'n cael pethau'n iawn".

Ychwanegodd y bydd yn cymryd amser i sefydlu cwmn茂au yng Nghymru all gyflenwi'r diwydiant, a phe bydden nhw'n symud yn gynt y gallai olygu y byddai'n rhaid troi at gwmn茂au tramor am na fyddai cwmn茂au yn barod yng Nghymru.

Pynciau cysylltiedig