大象传媒

Trawsfynydd: Adeiladu adweithydd 'mor gynnar 芒 2027'

  • Cyhoeddwyd
TrawsfynyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae atomfa bresennol Trawsfynydd ynghanol proses o ddadgomisiynu ers bron i 30 mlynedd

Gallai'r gwaith o adeiladu adweithydd niwclear newydd yng Ngwynedd gychwyn "mor gynnar 芒 2027", yn 么l datblygwyr.

Bwriad Cwmni Egino, gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru y llynedd, yw codi adweithydd modiwlar bach (SMR) cyntaf y DU ar safle atomfa Trawsfynydd.

Ond mae "llawer o waith i'w wneud" i wireddu'r uchelgais, yn 么l y prif weithredwr, a does dim cynlluniau pendant hyd yma ynghylch pa dechnolegau fyddai'n cael eu defnyddio na sut y byddai'r datblygiad yn cael ei ariannu.

Tra bod 'na addewid o swyddi i'r ardal wledig leol, mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn rhybuddio bod y math yma o ynni yn ddrud ac yn gysylltiedig ag amcanion milwrol, gan ddadlau y byddai'n well defnyddio technolegau adnewyddadwy sydd wedi eu profi'n barod.

Ffynhonnell y llun, Rolls-Royce
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rolls-Royce wedi bod yn datblygu'r rhaglen SMR ers y 1990au

Mae atomfa bresennol Trawsfynydd ynghanol proses o ddadgomisiynu ers bron i 30 mlynedd, a'r safle wedi ei glustnodi ers tro fel cartref posib i adweithyddion SMR.

Yn 么l Alan Raymant, prif weithredwr Cwmni Egino, mae'r "sgiliau a'r isadeiledd sydd ar gael" yn gwneud yr ardal yn lle "unigryw" i ddatblygu'r dechnoleg hon.

"Yn ogystal 芒 dod 芒 buddion lleol, mae sg么p sylweddol i hyrwyddo'r gadwyn gyflenwi, datblygu sgiliau a chreu cyfleoedd busnes yn ehangach yng ngogledd Cymru a ledled y DU," meddai.

"Byddai'r math hwn o ddatblygiad yn Nhrawsfynydd hefyd yn helpu i gwrdd ag anghenion ynni a thargedau sero net, a chefnogi'r agenda 'lefelu i fyny'."

Ffynhonnell y llun, Rolls-Royce
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun artist sur y byddai SMR Rolls-Royce yn edrych

Ar hyn o bryd mae dyluniad SMR cwmni Rolls-Royce yn cael ei asesu gan yr awdurdodau rheoleiddio, ac mae'r cwmni hwnnw wedi awgrymu'n gryf y gallai un o'r adweithyddion cyntaf gael ei godi yn ne Gwynedd.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi rhoi niwclear wrth galon eu strategaeth ynni newydd, gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni, gyda Boris Johnson yn nodi bod Trawsfynydd yn ystyriaeth yn eu cynlluniau.

'Diwydiant hen ffasiwn'

Er hynny, mae'r mudiad gwrth-niwclear lleol, Cadno, yn credu na fyddai SMRs yn creu llawer o swyddi'n lleol gan mai mewn ffatri fyddai brif rannau'r adweithydd yn cael eu cynhyrchu.

Maen nhw hefyd yn poeni am ddiogelwch yr "arbrawf" SMR, ac yn poeni am y cysylltiad rhwng ynni niwclear ac arfau niwclear.

Yn 么l eu llefarydd, Awel Irene, gwell fyddai canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy.

"Yn enwedig efo newid hinsawdd, mae'r dechnoleg [niwclear] yma yn mynd i gymryd lot rhy hir i fod ar-lein," meddai.

"Mae buddsoddi mewn ynni adnewyddol yn lot rhatach, yn lot mwy tymor hir, yn lot mwy gl芒n. Mae'r holl hype am 'Great Britain Nuclear' yn swnio i fi fel ffordd o dynnu sylw i ffwrdd o ynni adnewyddol.

"Mae'n wirion ein bod ni'n buddsoddi'r arian prin sydd gan y wlad mewn diwydiant hen ffasiwn, drud, lot rhy gostus."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Marc Cunnington yn credu fod yna le i ynni niwclear yn y dyfodol

Ond i Marc Cunnington, a gafodd ei fagu ym Mlaenau Ffestiniog, mae lle i niwclear yng nghymysgfa ynni'r dyfodol.

Bellach yn 33, mae'n byw ger Bryste ac yn hyfforddi i weithio mewn adweithydd niwclear newydd yng Ngwlad yr Haf, sydd wrthi'n cael ei adeiladu.

"Dwi'n gweithio ar Hinkley Point C r诺an a dwi'n gweld faint o effaith mae adeiladu'r orsaf b诺er yn ei gael ar yr ardal yna," meddai.

"Mae'n helpu cwmn茂au lleol i survivio a thrivio, maen nhw'n gallu cael lot mwy o fusnes am bod 'na fwy o bobl yn yr ardal, ac mae 'na lot mwy o jobs ar gael."

Dywedodd y byddai'n ystyried dychwelyd i Wynedd, ond does "dim cyfle i wneud y swydd dwi'n wneud ar hyn o bryd yng ngogledd Cymru".

'Llawer o waith'

Amcan Cwmni Egino nawr ydy bwrw ati i fireinio'u cynlluniau i ddenu'r dechnoleg niwclear newydd yma i Drawsfynydd.

Mae Alan Raymant yn dweud bod "llawer o waith i'w wneud, ar fyrder."

"Rydyn ni'n anelu at gynnal trafodaethau cychwynnol gyda phartneriaid technoleg posibl dros y misoedd nesaf wrth i ni barhau i weithio gydag eraill i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer y safle," meddai.

"Byddwn yn canolbwyntio dros y misoedd nesaf ar roi cynnig busnes llawn at ei gilydd a fydd yn amlinellu sg么p y prosiect, sut y bydd yn cael ei ddelifro a'i ariannu, a sut y gallwn sicrhau effaith bositif ar gymunedau."

Pynciau cysylltiedig