Eryri: Cynllun bws yn annog pobl i adael y car gartref

Mae gwasanaeth bws Sherpa'r Wyddfa ar ei newydd wedd yn cael ei lansio ddydd Gwener.

Y nod yw annog mwy o bobl i adael y car gartref a dewis ffyrdd mwy ecogyfeillgar o deithio o amgylch Eryri.

Dywed y cynghorydd Dafydd Meurig, aelod cabinet Gwynedd 芒 chyfrifoldeb am yr amgylchedd, fod yna bwyslais mawr wedi ei roi i anghenion bobl leol, nid ar ymwelwyr yn unig.

Yn y gorffennol mae parcio mewn llefydd answyddogol wedi achosi anhrefn yn ardal Llanberis ac mae'r cynllun Sherpa yn rhan o fesurau i fynd i'r afael 芒'r broblem.

Mae bws Sherpa'r Wyddfa yn teithio o amgylch troed mynydd uchaf Cymru gan greu cyswllt rhwng chwe phrif lwybr y mynydd, prif feysydd parcio a phentrefi'r ardal.

Disgrifiad o'r llun, Mae parcio answyddogol wedi bod yn broblem yn yr ardal

"Un peth ydy cyfyngu ar y parcio yn y llefydd poblogaidd, [ond] mae eisiau cynnig rhyw fodel i bobl deithio," meddai'r cynghorydd Meurig ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

"Dyna sydd gennym ni fan hyn ydy darparu Sherpas fydd yn mynd o gwmpas yr Wyddfa ac i bentrefi cyfagos i gynnig ffordd arall i bobl gyrraedd."

"Dim jest ar gyfer ymwelwyr maen nhw [ond] ar gyfer pobl leol. Mae'r amserlenni wedi cael eu rhoi ati ei gilydd fel bod nhw'n gallu eu defnyddio yn lleol," meddai.

"Oherwydd mewn gwirionedd ma' eisiau meddwl am y bobl sydd yn byw yma nid yr ymwelwyr sydd yn d诺ad.

"Mae'r rheiny yn gadael ar ddiwedd y dydd neu ar ddiwedd y tymor ond wrth gwrs 'de ni yn byw yma drwy'r amser, felly mae eisiau darpariaeth ar ein cyfer ni hefyd."

Mae disgwyl y bydd mwy o alw ar y gwasanaeth bysiau yn ardal yr Wyddfa ar 么l newidiadau diweddar i'r modd mae meysydd parcio yn gweithio.

Erbyn hyn mae'n rhaid archebu lle o flaen llaw, neu does dim modd parcio mewn meysydd parcio fel Pen-y-pass, meddai'r cynghorydd.

Ychwanegodd fod y trefniadau newydd hefyd yn cynnwys gwasanaethau bws o drefi cyfagos Bangor a Chaernarfon i gyrraedd yr ardal.