Anwen Butten: Enwi capten Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Anwen Butten ei bod yn "anrhydedd" arwain Tîm Cymru

Mae capten Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad eleni wedi dweud ei bod hi'n "anrhydedd" cael arwain ei gwlad.

Gyda 20 diwrnod cyn i'r Gemau ddechrau yn Birmingham, cyhoeddwyd fore Gwener mai Anwen Butten fydd capten newydd y tîm.

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y bowliwr lawnt 49 oed ei bod hi'n "prowd iawn" i arwain tîm sydd â dros 200 o athletwyr.

Dyma fydd y chweched tro i Butten - sydd hefyd yn nyrs arbenigol sy'n trin cleifion â chanser - gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Disgrifiodd y teimlad o dderbyn y newyddion fel "sypreis" ac un "emosiynol ofnadwy".

"Y peth mwyaf i fi yw i gynrychioli Cymru a chwarae bowls - dyna'r swydd rwy'n ei wneud [ac] i drial ennill medalau i Gymru."

Ychwanegodd Anwen Butten ei bod yn gobeithio "cefnogi'r tîm, a rhoi hyder i'r tîm a gobeithio gallu rhoi cefnogaeth i rai newydd sydd erioed wedi bod yn y Gemau o'r blaen".

"Mae'r gwaith caled wedi gwneud o'r blaen i cael paratoi cyn mynd i'r Gemau so gobeithio bydd pawb ar ei gorau a jest 'neud popeth gallai i'w gefnogi nhw," meddai.

Ffynhonnell y llun, @TeamWales/Twitter

Disgrifiad o'r llun, Mae Anwen Butten wedi cynrychioli Cymru ym mhob un o'r Gemau Gymanwlad ers 2002

Dywedodd Anwen Butten ei bod wedi "gweithio'n galed ofnadwy" i ail fagu hyder i chwarae eleni ar ôl cael llawdriniaeth ar ei phen-glin.

"Blwyddyn yn ôl o'n i byth yn meddwl byddwn i'n cael 'y'n dewis i chware i fod yn onest i bowlio i Gymru yn Gemau y Gymanwlad," meddai.

"[Dwi] wedi colli bach o hyder i fod yn onest gyda chi, a nawr wedi gweithio'n galed ofnadwy dros y flwyddyn dwetha' i gael yr hyder yna'n ôl."

Ychwanegodd ei bod "nawr yn chwarae'n dda, yn ymarfer yn dda a mae'r hyder yna nawr".

"Ac wrth gwrs wrth fod yn gapten hefyd mae'r hyder hyd yn oed yn fwy a ma'r nod yn [uwch] byth nawr i ennill medalau."