大象传媒

Jonathan Edwards yn ail-ymuno 芒 Phlaid Cymru wedi gwaharddiad

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Edwards
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jonathan Edwards wedi cynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn San Steffan ers 2010

Mae Aelod Seneddol gafodd ei wahardd o Blaid Cymru ar 么l derbyn rhybudd heddlu am ymosod wedi cael ail-ymuno 芒'r blaid.

Ond mae'r 大象传媒 ar ddeall bod Pwyllgor Gwaith y blaid wedi argymell na ddylai Jonathan Edwards AS gael dychwelyd i gr诺p seneddol Plaid Cymru.

Mae hyn yn golygu y byddai'n parhau fel AS annibynnol, er ei fod yn aelod o'r blaid unwaith eto.

Fe gafodd y 大象传媒 wybod bod cadeirydd y blaid, Alun Ffred Jones yn anghytuno hefo'r argymhelliad yma a'i fod wedi ymddiswyddo o'i r么l.

'Difaru yn fwy na dim'

Cafodd Mr Edwards - AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - ei wahardd o'r blaid am 12 mis yng Ngorffennaf 2020 wedi iddo dderbyn rhybudd heddlu am ymosod.

Daeth y gwaharddiad i ben y llynedd ond doedd y blaid ddim yn mynd i ystyried ei achos hyd nes iddo wneud cais i ailymuno.

Dywedodd Mr Edwards ar y pryd ei fod yn "wir ddrwg ganddo", a'i fod yn difaru'r digwyddiad "yn fwy na dim arall yn fy mywyd".

Mewn datganiad ar ran ei wraig wedi'r digwyddiad, dywedodd Emma Edwards: "Rwyf wedi derbyn ymddiheuriad fy ng诺r."

Yn 么l datganiad gan y panel disgyblu wnaeth gwrdd fis Mai, roedd yna "gytundeb unfrydol y dylai gwaharddiad Mr Edwards o'r blaid gael ei godi ar unwaith".

Dywedodd panel disgyblu'r blaid eu bod yn derbyn "edifeirwch diffuant" Mr Edwards a'i "gyfnod hir o hunan fyfyrdod a dysgu".

Ond mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud y dylai Mr Edwards gael ei wahardd o'r blaid "os ydyn nhw o ddifri' am stampio allan misogynistiaeth a thrais yn y cartref".

Dywedodd Plaid Cymru nad oedd y broses fewnol o benderfynu ar aelodaeth Mr Edwards o'r gr诺p Seneddol wedi dod i ben.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Alun Ffred Jones wedi ymddiswyddo fel Cadeirydd Plaid Cymru

Yn y cyfamser, dywedodd Mr Edwards y byddai'n "trefnu cwrdd ag aelodaeth lleol y blaid dros yr wythnosau nesaf cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar fy nyfodol gwleidyddol neu unrhyw sylw pellach".

Mae Beca Brown, cynghorydd o Wynedd, nawr yn gadeirydd dros dro, hyd nes eu bod yn ethol un newydd yn eu cynhadledd yn yr Hydref.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru nad yw'r "broses fewnol o benderfynu ar aelodaeth Mr Edwards o'r gr诺p Seneddol wedi dod i ben".

Ychwanegodd: "Mae Plaid Cymru eisiau diolch i Alun Ffred Jones am ei holl flynyddoedd o deyrngarwch a gwasanaeth i'r blaid.

"Mae Alun Ffred wedi cadeirio Pwyllgor Gwaith y blaid hefo ymroddiad a phroffesiynoldeb drwy'r amser."