大象传媒

'Mae pawb yn pryderu': Galw am help costau myfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
Cara Walters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cara Walters yn poeni y bydd yr argyfwng yn cael effaith ar waith coleg myfyrwyr

Mae Cara Walters yn cyfri'r ceiniogau ac yn ystyried ble i dorri'n 么l wrth i gynnydd yng nghostau byw daro pocedi myfyrwyr.

"Pan ddechreuais i yn y brifysgol ar ddechrau'r pandemig roedd y rhent yn eithaf rhad ond erbyn hyn mae'r gost yn enfawr," meddai.

Mae 97% o fyfyrwyr yn dweud eu bod wedi dechrau gwario llai ar bethau angenrheidiol, yn 么l arolwg gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.

Mae undebau myfyrwyr yn galw ar lywodraethau i gynyddu grantiau myfyrwyr erbyn mis Medi.

Dywedodd llywodraethau Cymru a'r DU bod cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr.

'Mae pawb yn pryderu'

Mae Cara, 19 oed, sy'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe, wedi synnu ar y cynnydd yng nghost petrol yn enwedig.

"Mae pawb yn pryderu am y flwyddyn nesaf sydd i ddod achos bydden ni'n trio gweithio yn y brifysgol a bydd cyllidebu yn ein poeni ni hefyd ac yn cael effaith ar ein gwaith ni yn y brifysgol," meddai.

Mae ganddi swydd dros yr haf er mwyn helpu gyda chostau, ac mae ei rhieni yn helpu. Ond mae hynny'n ychwanegu at y straen ariannol arnyn nhw, meddai.

"Dwi'n meddwl efallai bydd rhaid i mi gymdeithasu llai. Doedd costau cymdeithasu ddim yn enfawr ond erbyn hyn maen nhw'n aruthrol.

"Os chi'n edrych n么l, tua 20 mlynedd 么l roedd mynd i'r brifysgol yn weddol rhad ond erbyn hyn dyw e ddim yn rhad o gwbl."

Ychwanegodd: "Dylai'r llywodraeth ystyried cynyddu faint o arian mae myfyrwyr yn derbyn fel rhan o'u grantiau fel bod nhw'n gallu fforddio prynu digon o fwyd a llyfrau."

53% yn gwario llai ar fwyd

Ymatebodd dros 500 o fyfyrwyr i arolwg diweddar gan Undeb Myfyrwyr Cymru yngl欧n ag effeithiau costau byw cynyddol.

Yn 么l canlyniadau'r arolwg, mae 53% yn gwario llai ar fwyd, 36% yn gwario llai ar ofal iechyd a 33% yn gwario llai ar adnoddau addysg.

Dyw'r grantiau cynhaliaeth ddim yn ddigon i alluogi myfyrwyr i fyw'n gyfforddus, meddai 70% o'r rhai a gymerodd rhan yn yr arolwg.

Ac fe ddywedodd 89% bod yr argyfwng ariannol wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n anodd ar fyfyrwyr yn barod, heb s么n am orfod poeni am gostau byw, meddai Elen Jones

Mae Elen Jones yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n dweud ei bod yn anodd dod o hyd i lety rhad erbyn hyn, ac ar ben costau pob dim arall, mae'n gyfnod anodd i fyfyrwyr, meddai.

"I fi mae chwilio am d欧 yn Abertawe i renti wedi bod yn drafferth. Mae'r costau wedi cynyddu ers y llynedd.

"Rydyn ni wedi ffeindio t欧 sydd bach yn rhatach ond roedd rhaid i ni fynd gyda'r prisiau sydd ar gael i fod yn onest."

Mae rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda'r straen o ddelio gyda chostau byw cynyddol, meddai Elen, ond hoffai weld mwy yn cael ei wneud.

"Dwi'n gwybod bod chi'n gallu mynd at y brifysgol ond dwi'n gobeithio bydd y llywodraeth yn helpu ni achos mae'n anodd i ni fel myfyrwyr fel ma'i, heb s么n am orfod poeni am gostau byw a bydd help ariannol yn gymorth i ni gyd yn sicr."

Annog myfyrwyr i fynd i fanc bwyd

Dywedodd swyddog materion Cymreig Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Tom Kemp: "Mae ein ymgynghorwyr yn dweud bod lot o fyfyrwyr wedi bod yn gofyn am gyngor oherwydd eu bod nhw'n stryglo i gael pethau angenrheidiol fel bwyd.

"Yn sgil hynny, rydyn ni wedi bod yn cynghori pobl i ymweld 芒 banciau bwyd a rydyn ni hefyd wedi bod yn rhoi mas talebau bwyd.

"'Ni wedi gweld cynnydd yn nifer y myfyrwyr nyrsio yn cael eu heffeithio fwyaf.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae myfyrwyr yn poeni am bethau angenrheidiol fel bwyd, meddai Tom Kemp o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

"Fi'n meddwl bod angen i'r llywodraeth gydnabod bod myfyrwyr yn wynebu argyfwng costau byw," meddai.

"Felly yn gyntaf, mae angen iddyn nhw gydnabod bod myfyrwyr yn stryglan wedyn ymateb i hwnna trwy newid rhywbeth yn y system, neu ychwanegu mwy o arian tuag at y grantiau mae myfyrwyr yn cael pan maen nhw'n mynd i'r brifysgol."

Mae Undeb Myfyrwyr Abertawe wedi ymuno 芒'r galwadau ar lywodraethau y Deyrnas Unedig i wneud mwy i helpu myfyrwyr yn ystod yr argyfwng costau byw.

Ychwanegodd Tom: "Rydyn ni wedi ymuno ag NUS Prydain a rydyn ni ffel undeb wedi arwyddo deiseb i roi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud rhywbeth yngl欧n 芒'r argyfwng.

"Rydyn ni hefyd fel Undeb Myfyrwyr Abertawe wedi dechrau creu ymgyrch hirdymor i wir ceisio taclo'r problemau yma."

Beth yw'r ymateb?

Fe ddywedodd Prifysgol Abertawe ei bod wedi cadw unrhyw gynnydd yng nghostau llety myfyrwyr ar gampws o dan gyfraddau chwyddiant.

Mae sawl prifysgol hefyd wedi cynyddu cyllideb eu cronfeydd caledi ariannol eleni, gan gynnwys prifysgolion Abertawe a Chaerdydd.

Mae prifysgolion Cymru hefyd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori i fyfyrwyr sydd angen help a chyngor.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod 拢15m ychwanegol ar gael trwy Gronfa Cymorth Ddewisol i unrhyw un sy'n wynebu caledi ariannol.

Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod wedi parhau i gynyddu'r help ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o gartrefi a'r incwm isaf ers dechrau'r pandemig.