Cyflogau athrawon i godi ar raddfa is na chwyddiant

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Disgrifiad o'r llun, Y gobaith yw y bydd y cyflog cychwynnol i athrawon newydd yn codi i 拢30,000 o fis Medi 2023

Bydd cyflogau athrawon yng Nghymru'n codi ar raddfa is na chwyddiant eleni dan gynlluniau sydd wedi cythruddo undebau llafur.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i godiad o 5% yn y flwyddyn gyntaf (2022/23) a bydd yn cynllunio ar gyfer codiad o 3.5% yn 2023/24, yn amodol ar adolygiad.

Eisoes mae un undeb, NASUWT, wedi dweud y bydd yn cynnal pleidlais ynghylch gweithredu diwydiannol os na fydd athrawon yn derbyn 12% yn fwy o d芒l.

9.4% yw lefel chwyddiant ar hyn o bryd yn y DU ond mae disgwyl iddo godi i 11%.

Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi amddiffyn dewis y Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniad misoedd ar 么l argymhellion panel annibynnol.

Bydd cyfnod o ymgynghori'n digwydd nawr a fydd yn para am wyth wythnos.

Cyflog cychwynnol yn codi i 拢30,000

Cytunodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles i'r lefelau t芒l newydd ar sail argymhellion gan gorff cyflogau annibynnol.

Ei obaith yw y bydd y cyflog cychwynnol i athrawon newydd yn codi i 拢30,000 o fis Medi 2023.

Mae cynnydd tebyg wedi ei addo yn Lloegr.

Mae'r broses yng Nghymru'n un hollol ar wah芒n, gyda chorff adolygu cyflogau gwahanol, a gweinidogion ym Mae Caerdydd sy'n gwneud y penderfyniad terfynol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae undeb NASUWT wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am aros nes bo'r ysgolion ar gau cyn cyhoeddi eu penderfyniad.

Mae'n rhybuddio y bydd "athrawon yn dlotach o ganlyniad cynigion y gweinidog", a bod y telerau'n gyfystyr 芒 gostyngiad "mewn termau real o dros 20% dros y 12 mlynedd diwethaf".

'Mewn gwirionedd yn doriad cyflog'

Galwodd swyddog polisi a gwaith achos yr undeb, Sion Amlyn ar weinidogion am "drafodaethau ystyrlon i sicrhau cynnig t芒l llawer gwell".

"Mae athrawon wedi rhoi popeth drwy bandemig, maen nhw'n mynd i'r afael ag argyfwng costau byw a dydy eu cyflog nhw ddim yn agos at fod yn ddigonol yn wyneb y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw am ddegawdau.

"Mae'r proffesiwn yn haeddu llawer mwy, a heb adferiad priodol mewn t芒l, bydd addysg disgyblion yn parhau i gael eu heffeithio wrth i athrawon a phenaethiaid profiadol barhau i adael."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Jeremy Miles nad yw setliad ariannol Llywodraeth y DU i Gymru yn ddigonol i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus

Dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles ei fod yn "rhwystredig" nad oedd y cyhoeddiad wedi ei wneud yn gynt, ond bod y llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau na fyddai athrawon Cymru ar eu colled o'i gymharu 芒 Lloegr.

Cafodd cyhoeddiad Llywodraeth y DU i Loegr ei wneud ddydd Mawrth.

'Slap yn wyneb gweithwyr'

Dywedodd undeb NEU Cymru y bydd yn cynnal pleidlais gydag aelodau ar weithredu diwydiannol yn yr hydref.

"Allwn ni ddim caniat谩u i'r ymosodiadau yma ar d芒l aelodau a'u safonau byw barhau," meddai'r ysgrifennydd David Evans.

Mewn datganiad dywedodd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) y bydd yn "creu ansicrwydd ychwanegol i arweinwyr ac athrawon mewn cyfnod o heriau neilltuol yn y byd addysg".

"Os ydym am ddenu athrawon newydd a meithrin athrawon i r么l arweinyddol yna mae'n rhaid i ni gynnig sicrwydd swyddi a chyflogau teilwng gan hefyd fynd i'r afael 芒'r llwyth gwaith affwysol sy'n sigo'r proffesiwn ers blynyddoedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru Laura Doel bod y codiad o 5% "mewn gwirionedd yn doriad cyflog".

"Bydd hwn yn cael ei weld fel slap yn wyneb gweithwyr addysg sydd wedi yml芒dd ar 么l blwyddyn arall o bwysau a thoriadau i wasanaethau sy'n cefnogi ysgolion yn eu hymdrechion i gynnig yr amodau gorau i blant allu ffynnu."

Effaith chwyddiant yn 'eithafol'

Wrth ymateb i'r feirniadaeth o'r cynnig, dywedodd Mr Miles bod "terfyn" ar yr hyn oedd yn bosib i Lywodraeth Cymru.

"Mae'r argyfwng costau byw yn real, mae effaith chwyddiant ar deuluoedd, teuluoedd athrawon, a hefyd cyllideb Llywodraeth Cymru, yn eithafol", meddai.

"A'r gwir yw nad yw setliad ariannol Llywodraeth y DU i Gymru yn addas i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus na'r rhai sy'n gweithio ynddyn nhw."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu'r cyhoeddiad, gan ddisgrifio'r setliad fel un "teg".

"Tra bod yna ddymuniad i roi mwy o wobr i weithwyr cyhoeddus gyda chostau byw'n cynyddu, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o effaith posib hynny ar chwyddiant," meddai llefarydd cyllid y blaid yn Senedd Cymru, Peter Fox.

"Dylai'r Llywodraeth Lafur nawr fabwysiadu'r argymhellion ar gyfer staff y GIG a gyhoeddwyd yn gynharach yn yr wythnos yn hytrach na chodi ffrae wleidyddol gyda Llywodraeth Geidwadol y DU."