大象传媒

Rhai o fewn Plaid Cymru yn 'ceisio lladd gyrfa' Jonathan Edwards AS

  • Cyhoeddwyd
Jonathan EdwardsFfynhonnell y llun, T欧'r Cyffredin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Jonathan Edwards ei wahardd o'r blaid am 12 mis

Mae rhaniadau dwfn wedi datblygu yn rhengoedd Plaid Cymru yn dilyn y penderfyniad i ganiat谩u i Jonathan Edwards ailymuno 芒'r blaid.

Mae 大象传媒 Cymru wedi siarad ag aelodau'r blaid yn etholaeth Mr Edwards sy'n gandryll fod Pwyllgor Gwaith y blaid wedi ymyrryd ac argymell na ddylai ailymuno gyda'r gr诺p seneddol.

Heb fod yn rhan o'r gr诺p seneddol, byddai'n parhau fel AS annibynnol, er ei fod yn aelod o'r blaid unwaith eto.

Mae'r 大象传媒 yn deall bod Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Alun Ffred Jones, wedi ymddiswyddo am ei fod yn anhapus gyda'r argymhelliad yma.

Yn 么l y Cynghorydd Glynog Davies, mae rhai pobl o fewn y blaid yn ceisio "lladd" gyrfa wleidyddol Jonathan Edwards.

Dywed un cyn-Aelod Cynulliad blaenllaw fod "ymyrraeth" y Pwyllgor Gwaith yn "drychineb i Blaid Cymru ac i gyfiawnder naturiol".

Ond mae eraill yn teimlo na ddylai Mr Edwards - sy'n Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers 2010 - chwarae unrhyw ran pellach o fewn y blaid.

Beth sydd wedi digwydd?

Cafodd Mr Edwards ei wahardd o'r blaid am 12 mis yng Ngorffennaf 2020 wedi iddo dderbyn rhybudd heddlu am ymosod yn dilyn digwyddiad yn y cartref teuluol.

Daeth y gwaharddiad i ben y llynedd ond doedd y blaid ddim yn mynd i ystyried ei achos hyd nes iddo wneud cais i ailymuno.

Dywedodd Mr Edwards ar y pryd ei fod yn "wir ddrwg ganddo", a'i fod yn difaru'r digwyddiad "yn fwy na dim arall yn fy mywyd".

Mewn datganiad ar ran ei wraig wedi'r digwyddiad, dywedodd Emma Edwards: "Rwyf wedi derbyn ymddiheuriad fy ng诺r."

Ffynhonnell y llun, HoC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jonathan Edwards wedi bod yn AS annibynnol ers cael ei wahardd o'r blaid

Y penwythnos diwethaf, penderfynodd panel disgyblu y dylai Mr Edwards gael ei dderbyn yn 么l i Blaid Cymru.

Dywedodd eu bod yn derbyn "edifeirwch diffuant" Mr Edwards a'i "gyfnod hir o hunan fyfyrdod a dysgu".

Ond deallir fod Pwyllgor Gwaith y blaid wedi argymell na ddylai Jonathan Edwards AS gael dychwelyd i gr诺p seneddol Plaid Cymru - a bod Alun Ffred Jones, ymysg eraill, yn anfodlon gyda'r argymhelliad.

'Yn foesol, mae'n anghredadwy'

Dyw Julie Richards, sy'n aelod o'r blaid ac yn ymgyrchydd yn erbyn trais y cartref, ddim yn credu y dylai Jonathan Edwards chwarae unrhyw ran bellach yn y blaid.

"Dwi'n siomedig iawn 'da beth mae'r blaid wedi dewis gwneud," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Julie Richards yn ystyried peidio adnewyddu ei haelodaeth gyda Phlaid Cymru dros y mater

"Dwi'n meddwl ddylai bod yna ddim goddef trais yn y cartref.

"Mae gyda ni ddeddf blaengar yng Nghymru ac yn hynny 'da ni'n dweud bod ni ddim yn derbyn unrhyw drais yn erbyn menywod neu ferched.

"Mae Plaid wedi penderfynu anwybyddu hwn. Yn foesol, mae'n anghredadwy.

"Does dim hygrededd gan y blaid o ran siarad am bethau fel trais yn y cartref. Ni ddim wedi dysgu gwersi. Mae'n dorcalonnus.

"Mae hwn ambwyti cymdeithas a'r negeseuon ni'n rhoi mas i bawb yn y gymdeithas, yn enwedig bechgyn a dynion."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Alun Ffred Jones wedi ymddiswyddo fel Cadeirydd Plaid Cymru

Ar y pegwn arall, mae yna anniddigrwydd enfawr ymhlith aelodau Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am y ffaith nad yw Jonathan Edwards wedi medru adennill y chwip fel aelod o'r t卯m seneddol.

Un sy'n hynod flin ydy'r Cynghorydd Hazel Evans, sy'n credu na ddylai'r Pwyllgor Gwaith fod wedi "ymyrryd".

"Mae Jonathan yn Aelod Seneddol i ni ers 10 mlynedd ac wedi gweithio yn galed iawn i'r ardal," meddai.

"Mae pawb 芒 pharch mawr iddo. Mae e wedi dweud ei hun. Un peth mae e wedi gwneud yn ei fywyd sydd wedi ei drwblu fe. Mae e wedi ddioddef.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cynghorydd Hazel Evans yn teimlo bod rhai yn ceisio tanseilio Jonathan Edwards

"Dyw e ddim lan i ni drafod beth sydd wedi mynd 'mlaen rhwng teulu. Mae ei wraig wedi dweud ei fod yn dad ac yn 诺r ffyddlon.

"Mae e wedi cael mynd 'n么l i aelodaeth Plaid Cymru felly dylse fod ddim dylanwad gan y Pwyllgor Gwaith."

Mae hi'n teimlo fod rhai o fewn y blaid yn benderfynol o'i danseilio.

"Dwi'n meddwl taw rhywbeth mwy personol yw e," meddai.

"Fi'n deall mai menywod yw nhw ond dwi ddim yn deall shwd na fydden nhw yn gallu gweld beth mae Jonathan wedi mynd drwyddo hefyd."

Barod i ladd, barod i faddau

Mae aelod o gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Glynog Davies, wedi beirniadu yn hallt ymyrraeth y Pwyllgor Gwaith ac agwedd rhai o fewn y blaid.

"Mae rhai o fewn y blaid yn barod i ladd Jonathan Edwards. Dwi'n barod i faddau iddo," meddai.

Yn 么l Glynog Davies, fe syrthiodd Jonathan Edwards ar "ei fai" ac mae wedi "talu'r gosb".

Mae'n dweud fod ymyrraeth y Pwyllgor Gwaith wedi mynd yn groes i brosesau'r blaid a bod rhai wedi troi hi yn "g锚m wleidyddol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Rhodri Glyn Thomas fod y broses yn "drychineb i Blaid Cymru"

Mae'r cyn-Aelod Cynulliad Rhodri Glyn Thomas hefyd yn feirniadol o'r broses: "Gan fod Jonathan wedi adennill ei aelodaeth o'r blaid, mater o gyfiawnder naturiol yw hi ei fod yn adennill y chwip o ran gr诺p Plaid Cymru yn y Senedd.

"Dyw'r math yma o ymyrraeth ddim yn mynd i wneud cymwynas 芒 Phlaid Cymru.

"Mae'n drychineb i Blaid Cymru ac i gyfiawnder naturiol."

Mae'n dweud hefyd y dylai Mr Edwards gael yr hawl i gynnig ei enw fel ymgeisydd Plaid Cymru i etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae'r broses fewnol o benderfynu aelodaeth Mr Edwards' o gr诺p San Steffan yn parhau.

"Nid yw'n briodol i wneud sylw pellach."

Pynciau cysylltiedig