'Band eang israddol yn gwahardd pobl o fywyd modern'
- Cyhoeddwyd
Fe allai rhwystrau at gael cysylltiad rhyngrwyd o ansawdd uchel mewn sawl rhan o Gymru "wahardd pobl o fywyd modern", yn 么l un o bwyllgorau trawsbleidiol Senedd Cymru.
Er gwaethaf gwelliannau yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r adroddiad yn rhybuddio bod llawer o bobl yn dal i fethu 芒 chael mynediad at gyflymder rhyngrwyd digonol.
Mae'r adroddiad yn nodi mai ardaloedd trefol a elwodd gyntaf o uwchraddio, gyda llawer o ardaloedd gwledig yn dal ar ei h么l hi.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Llyr Gruffydd AS fod angen cysylltiad cyflym ar bawb ac "ni ddylai hyn fod yn foethusrwydd".
Dywedodd Llywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am gyflwyno band eang mwy cyflym, eu bod yn gwario 拢5bn i sicrhau nad yw'r ardaloedd hynny sy'n anodd i'w cyrraedd yn colli allan.
Yn 么l Llywodraeth Cymru, fe wnawn nhw "barhau i gamu i fewn" i ddarparu band eang cyflym drwy Gymru.
Beth yw band eang cyflym iawn?
Mae Llywodraeth y DU yn diffinio band eang cyflym iawn fel un sydd 芒 chyflymder dros 30 megabit yr eiliad (Mbps). Megabit yw'r mesuriad safonol o gyflymder rhyngrwyd.
Dywedodd y rheolydd cyfathrebiadau Ofcom wrth ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, mai dim ond 63% sy'n defnyddio'r gwasanaeth er ei fod ar gael mewn 96% o Gymru.
Dywed Ofcom bod tua 15,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru heb gyflymder lawrlwytho o 10Mbps neu'n uwch na chyflymder uwchlwytho o 1Mbps, gan ddefnyddio naill ai cysylltiad ffibr neu dechnoleg ddiwifr sefydlog amgen.
Y llynedd, cyhoeddodd gweinidogion y DU gamau cyntaf cynlluniau gwerth 拢5bn i ariannu costau gosod band eang cyflym mewn ardaloedd gwledig ar draws y Deyrnas Unedig.
Ond dywedodd Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters, wrth yr ymchwiliad nad oedd y cynlluniau'n ystyried y ffaith bod daearyddiaeth fynyddig Cymru yn golygu bod yna eiddo sy'n fwy anodd eu cyrraedd.
Er mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am fand eang, nid gweinidogion Cymru, roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi cyllid ychwanegol, ond fe wnaethon nhw rhoi'r gorau i wneud hynny bedwar mis yn 么l.
Mae'r pwyllgor nawr yn galw ar weinidogion y DU i ddarparu mwy o arian ar gyfer y cynllun fel ei fod yn cwrdd ag anghenion Cymru, ac yn annog llywodraethau Caerdydd a Llundain i gynnal trafodaethau "ystyrlon" ar y mater.
'Miloedd yn debygol o dalu gormod'
Gall pobl sy'n derbyn budd-daliadau ddefnyddio "tariffau cymdeithasol" gan rai darparwyr, gan roi bargeinion band eang cyflym iawn rhatach iddynt.
Ond clywodd yr ymchwiliad mai dim ond 1.2% o'r rhai sy'n gymwys sydd wedi eu defnyddio, sy'n golygu bod miloedd o bobl ar incwm isel yn debygol o fod yn talu mwy nag sydd angen am fand eang.
Mae'r pwyllgor yn galw am hyrwyddo tariffau cymdeithasol yn well, sicrhau bod mynediad atynt yn symlach ac yn gliriach, ac i gofrestru'n awtomatig i'r rhai sydd 芒 hawl iddynt gael ei ystyried.
Dywedodd Mr Gruffydd: "Mae'n siomi rhywun yn ofnadwy i glywed bod llawer o bobl yng Nghymru o hyd heb fynediad at fand eang cyflym iawn.
"Yn enwedig yn sgil y pandemig, a'r ffaith bod mwy a mwy o'n bywydau'n digwydd ar-lein.
"Annhegwch pur yw'r ffaith bod disgwyl i gynifer o bobl mewn ardaloedd gwledig oddef band eang annibynadwy, israddol.
"Dylai cysylltiad 芒 band eang cyflym iawn fod ar gael i bawb yng Nghymru, nid y rhai mewn ardaloedd trefol yn unig - ni ddylai gael ei ystyried yn beth moethus."
'Gwasanaeth Band Eang Cyffredinol'
Os na fydd modd i adeiladau gael cyflymder lawrlwytho o 10Mbps yr eiliad a chyflymder uwchlwytho o 1Mbps yr eiliad, mae'n bosib uwchraddio'r cysylltiad o dan 'Wasanaeth Band Eang Cyffredinol'.
BT sydd yn trefnu'r gwaith os yw'r gost yn 拢3,400 neu'n llai, ond os yw'r gost yn fwy na hyn, mae disgwyl i'r cwsmer dalu'r gweddill.
Mae'r gymdeithas wedi dweud bod y 'Gwasanaeth Band Eang Cyffredinol' wedi cael "effaith bositif", ond maent wedi mynegi eu pryderon bydd yn rhaid i ddefnyddwyr sy'n byw mewn mannau gwledig sy'n anodd eu cyrraedd "dalu cyfraniad uwch na'r cap" a fydd yn "rhy ddrud i lawer".
Mae'r adroddiad yn galw am ailystyried lefel y cap, a oedd wedi'i osod "cyn i'r costau gynyddu" ar draws yr economi.
Band eang heb ei ddatganoli
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU: "Mae ein buddsoddiad o 拢2bn i gyflwyno band eang cyflym iawn yn golygu y gall 96% o adeiladau yng Nghymru gael mynediad at gyflymderau ddigon cyflym ar gyfer eu hanghenion presennol, gyda 70,000 eisoes 芒 band eang gigabit a 35,000 fydd wedi eu cysylltu erbyn diwedd y flwyddyn.
"Rydym yn gweithio'n agos 芒 Llywodraeth Cymru i gyflwyno Project Gigabit i fwy o adeiladau ac yn gwario 拢5bn i sicrhau nad yw'r ardaloedd hynny sy'n anodd i'w cyrraedd yn colli allan ar y band eang gigabit fwy cyflym sydd ei hangen ar gyfer y dyfodol."
Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio taw cyfrifoldeb gweinidogion Llywodraeth y DU yw sicrhau band eang cyflymach, gan ei fod heb ei ddatganoli i Gymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i gamu i fewn i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy i gartrefi a busnesau dros Gymru.
"Mae ein cynllun gwerth 拢56m sy'n sicrhau band eang ffibr llawn mewn 40,000 o adeiladau - gyda mynediad i fand eang sy'n medru'r gigadid - yn gobeithio rhedeg erbyn Mawrth 2023."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019