Band-eang cyflym: Pentref bach yn dal i chwilio am atebion
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion pentref yn y gogledd-ddwyrain sydd wedi bod yn galw am fand-eang cyflym iawn ers dechrau'r pandemig yn dweud nad ydy'r sefyllfa wedi newid mewn dros chwe mis.
Ym mis Ebrill, dywedodd pobl Pandy yn Nyffryn Ceiriog wrth y 大象传媒 bod cyflymder band-eang yn 1MB neu'n is, bod fawr ddim signal ff么n a bod dim 4G.
Gyda Chymru mewn cyfnod clo arall, mae'r trigolion yn dweud nad ydy'r sefyllfa wedi gwella.
Mae Aeron Davies o'r pentref yn galw ar gwmni Openreach i gysylltu'r pentref cyn gynted ag y bo modd.
Dywedodd Mr Davies wrth Cymru Fyw bod gwifrau band-eang cyflym iawn yn rhedeg drwy'r pentref ers Gorffennaf ac bod hyd yn oed polyn o flaen ei gartref gyda'r gwifrau hynny.
Mae'r pentrefi uwchlaw ac islaw Pandy wedi cael eu cysylltu'n barod.
"'De ni'n gwneud lot o internet shopping a hyn a'r llall, mae'r ferch yn byw yn Llanarmon a 'de ni ddim yn cael mynd i'w gweld hi a'i phlant," meddai
"Efo WhatsApp 'se ni'n gallu siarad efo nhw ond oherwydd bod y signal mor s芒l mae'n crashio o hyd felly mae'n rhwystredig iawn a 'de ni'n methu cael sgwrs call oherwydd bod y ff么n yn mynd lawr o hyd.
"Y neges i Openreach ydi pam fod Pandy yn cael ei adael allan o'r sefyllfa? Mae'r polyn tu allan i'r t欧 a sna'm rheswm i beidio connectio pobl y Pandy."
Dywedodd Connie Dixon, cyfarwyddwr partneriaeth Openreach yng Nghymru, ei bod yn "deall rhwystredigaeth pobl Pandy".
Ychwanegodd ei bod yn "annog trigolion" i siarad gydag Openreach ac i ddilyn cynllun ble fyddai'r cwmni yn rhannu'r gost o adeiladu rhwydwaith band-eang cyflym iawn gyda'r gymuned.
Pe byddai digon o ddiddordeb, meddai, fe allai cyfraniad y gymuned gael ei dalu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Yn 么l cwmni Openreach, maen nhw'n deall rhwystredigaeth trigolion ac yn eu gwahodd i drafod cynlluniau all sicrhau gwasanaeth gwell.
Dywed BT y byddai'r gost o adeiladu rhwydwaith band-eang cyflym iawn i'r ardal - ac o gysylltu 44 o dai - yn "is na 拢10,000".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd band-eang wedi ei ddatganoli i Gymru ond eu bod wedi gwario 拢200m ar gyflwyno band-eang cyflym iawn i 95% o adeiladau.
"Rydym yn deall fod Openreach yn gweithio gyda chymuned Pandy i ddatrys y broblem," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020