Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ap锚l i osgoi teithio ar drenau wrth i streic barhau
Mae teithwyr yn wynebu diwrnod arall o drafferthion mawr ar y rheilffyrdd gyda llai o wasanaethau nag arfer yng Nghymru o ddydd Sadwrn tan fore Sul.
Bydd aelodau undeb y gyrwyr tr锚n, Aslef, sy'n gweithio i saith o gwmn茂au, ar streic am 24 awr yn sgil anghydfod dros eu cyflogau.
Roedd tua 40,000 o weithwyr rheilffordd sy'n perthyn i undeb yr RMT at streic ddydd Mercher.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio y gallai'r streic achosi newidiadau a chanslo gwasanaethau ar fyr rybudd.
Mae'r corff sy'n gyfrifol am wasanaethau tr锚n yng Nghymru yn annog pobl "ond i deithio ar dr锚n os oes rhaid" gan fod llai o deithiau cwmni Great Western Railway rhwng Abertawe a Chasnewydd.
Dywedodd hefyd bod disgwyl i wasanaethau fod yn brysur iawn rhwng Amwythig a Birmingham oherwydd Gemau'r Gymanwlad, a does dim un o drenau cwmni West Midlands Railway yn rhedeg.
Mae'r Rail Delivery Group (RDG), sef corff y cwmn茂au rheilffordd, yn cyhuddo'r undeb o amseru'r streic i gyd-fynd 芒 Gemau'r Gymanwlad a dechrau'r tymor p锚l-droed newydd i fwyafrif clybiau cynghrair Lloegr.
Yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn mae Caerdydd yn chwarae g锚m gartref yn erbyn Norwich ac Abertawe'n teithio i Rotherham. Yn Adran Dau mae Casnewydd oddi cartref yn erbyn Sutton United.
"Rydym yn wirioneddol siomedig bod arweinwyr Aslef wedi penderfynu achosi mwy fyth o ansicrwydd a thrafferthion i deithwyr a busnesau mewn wythnos sydd eisoes wedi gweld streic gan yr RMT," meddai cadeirydd yr RDG, Steve Montgomery.
"Bydd teithiau penwythnos miliynau o deithwyr yn cael eu hamharu," meddai Mr Montgomery, "yn enwedig y rheiny sy'n gweithio, neu'n mynd i Gemau'r Gymanwlad neu g锚m b锚l-droed gyntaf y tymor."
Dywed yr RDG bod modd i bobl sydd ddim yn gallu teithio ddydd Sadwrn ddefnyddio'u tocynnau hyd at 2 Awst.
'Trafodaethau ystyrlon'
Mae Mr Montgomery wedi estyn gwahoddiad agored i arweinwyr Aslef gwrdd ag ef i gynnal "trafodaethau ystyrlon" i ddatrys yr anghydfod.
"Dylen nhw ganslo [y streic] a siarad gyda ni yn hytrach," meddai.
Mae'n fwriad gan Aslef a'r RMT i gynnal mwy o streiciau fis nesaf wrth i'r anghytuno barhau dros gyflogau, swyddi ac amodau.
"Cam olaf un yw streiciau, wastad," meddai Mick Whelan, ysgrifennydd cyffredinol Aslef.
"Dydyn ni ddim eisiau creu anhawster i deithwyr... a dydyn ni ddim eisiau colli arian trwy fynd ar streic.
"Ond rydym wedi ein gorfodi i'r sefyllfa yma gan y cwmn茂au, sy'n dweud eu bod nhw'n cael eu gorfodi i hyn gan y llywodraeth Geidwadol."
Dywedodd bod llawer o'i aelodau heb gael codiad cyflog ers 2019, sy'n gyfystyr 芒 thoriad cyflog, mewn gwirionedd, i'r gyrwyr yng nghyd-destun yr economi.
"Rydym eisiau codiad yn unol 芒 chostau byw. Rydym eisiau gallu prynu, yn 2022, yr hyn roedden ni'n gallu prynu yn 2021," meddai Mr Whelan.
"Dyw e ddim yn afresymol i ofyn wrth eich cyflogwr sicrhau nad ydych chi'n dlotach am dair blynedd yn olynol."
Honnodd Mr Whelan hefyd bod cwmn茂au rheilffordd wedi "gorelwa" yn y tair blynedd ddiwethaf, gan gyfeirio at "elw mawr, difidendau i gyfranddalwyr, a chyflogau mawr i reolwyr".
"Bydd teithwyr yn rhwystredig bod eu cynlluniau, unwaith yn rhagor, yn cael eu tarfu," meddai Anthony Smith, prif weithredwr y corff gwarchod Transport Focus.
"Mae'n hanfodol bod trafodaethau'n parhau i geisio canfod datrysiad sy'n osgoi llusgo teithwyr i'r anghydfod diwydiannol yma o hyd ac o hyd.
"Bydd gwybodaeth yn allweddol gydol yr amhariad. Dylai cwmn茂au tr锚n barhau i edrych ar welliannau penodol y gwnaethom eu nodi o streiciau mis Mehefin ynghylch ad-daliadau, iawndal a gwybodaeth glir.
"Byddwn unwaith yn rhagor yn monitro'r effaith ar deithwyr ac ar y rheiny sydd methu teithio."