大象传媒

Efydd i Emma Finucane ar ail ddiwrnod Gemau'r Gymanwlad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Emma FinucaneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma ail fedal efydd Emma Finucane yn y gemau eleni

Mae t卯m Cymru wedi ennill eu trydedd medal yng Ngemau'r Gymanwlad Birmingham ar 么l i Emma Finucane sicrhau efydd yn y felodrom ddydd Sadwrn.

Ar 么l cael ei threchu yn y rownd gynderfynol, roedd Finucane yn herio Sophie Capewell o Loegr am fedal efydd yn y ras wib.

Llwyddodd y fenyw 19 oed o Sir G芒r i drechu Capewell o ddwy ras i un er mwyn sicrhau'r fedal.

Dyma ail fedal Finucane yn y gemau, wedi iddi sicrhau medal efydd arall gyda'r t卯m gwibio ddydd Gwener.

Ellesse Andrews o Seland Newydd enillodd yr aur yn y ras wib wedi iddi hi drechu Kelsey Mitchell o Ganada yn y ffeinal.