Eisteddfod: Erfyn ar bobl i beidio parcio mewn 'llefydd dwl'

Disgrifiad o'r llun, Mae Emlyn Jones yn cydnabod mai "natur dynol" sy'n gyrru ymwelwyr i geisio mynd mor agos 芒 phosib i Faes yr Eisteddfod

Mae pennaeth cwmni diogelwch Maes yr Eisteddfod yn erfyn ar bobl i ddilyn arwyddion traffig ac osgoi "stopio mewn llefydd dwl" er mwyn osgoi tagfeydd.

Dywedodd Emlyn Jones fod rhai fel petaen nhw eisiau "parcio ar lwyfan y Pafiliwn" wrth geisio mynd mor agos i'r Maes 芒 phosib.

Mae dau brif faes parcio gan yr Eisteddfod ar gyfer ymwelwyr, un i'r gogledd a'r llall ar gyfer teithwyr o'r de, a system unffordd hefyd yng nghanol Tregaron.

Ychwanegodd Mr Jones fod ganddyn nhw "opsiynau" o ran symud y meysydd parcio petai angen, gyda disgwyl rhagor o law dros nos i mewn i fore Mawrth.

'Edrychwch ar yr arwyddion'

Ar 么l penwythnos cymharol dawel, fe brysurodd y Maes ddydd Llun o ran ymwelwyr, a hynny ar ddiwrnod mwyaf braf y Brifwyl hyd yma.

"Dydd Sadwrn 'naeth hi adeiladu lan, ac aeth hi'n dipyn fwy prysur erbyn Dafydd Iwan [nos Sul] - roedd tua 6,000 yn gwylio," meddai Mr Jones, perchennog cwmni Diogel.

Dywedodd mai dydd Llun oedd y "prawf mawr cynta'" ond ei fod yn "hapus dros ben" gyda'r trefniadau.

Disgrifiad o'r llun, Mae cynlluniau wrth gefn petai'r tywydd yn gwaethygu, ond mae tir y meysydd parcio yn "hynod o dda" yn sychu, medd Emlyn Jones

Serch hynny, nid pawb sydd wedi bod yn dilyn y cyfarwyddiadau am ble i barcio, meddai.

"Trwbl 'da pobl yw bod pennau lawr ac maen nhw isie mynd reit at y Maes, 'dyn nhw'm yn edrych ar yr arwyddion, 'dyn nhw'm yn darllen ac edrych ar y negeseuon ar y cyfryngau," meddai.

"'Na'i gyd alla'i gynghori yw edrychwch ar yr arwyddion, dilynwch rheiny.

"Mae digon o staff 'da ni yn y meysydd parcio, peidiwch stopio mewn llefydd dwl, ac fe gyrhaeddwch chi'r Maes yn ddigon handi.

"Natur dynol yw mynd mor agos - 'se lot ohonyn nhw'n hoffi parcio ar lwyfan y Pafiliwn!"

Tir yn sychu yn 'hynod o dda'

Nid ymwelwyr yn unig sydd heb fod yn talu sylw, gyda'r system unffordd wedi cymryd amser i drigolion Tregaron arfer ag ef hefyd.

"I lot o bobl leol, mae'r system unffordd yma... mae 'di setlo nawr, ond y diwrnodau cyntaf, roedd pobl yn mynd y ffordd anghywir - ffermwyr Tregaron wedi 'neud e drwy eu hoes," meddai Mr Jones.

"Ond dwi'n hapus dros ben 'da pethe nawr."

Ychwanegodd bod "opsiynau 'da ni" o ran symud y meysydd parcio petai'r tywydd yn gwaethygu eu cyflwr, ond bod y tir yn "hynod o dda" yn sychu.

"Ar y foment maen nhw'n dal lan yn dda iawn," meddai.