Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Taclo 'dwsinau' o danau wrth i rybudd gwres ddod i rym
Mae swyddogion tân wedi bod yn delio gyda dwsinau o danau gwair ers nos Fercher, wrth i rybudd tywydd am wres eithafol ddod i rym tan ddiwedd y penwythnos.
Daeth y rhybudd oren i rym am hanner nos ddydd Iau, ar gyfer rhannau dwyreiniol Cymru yn ogystal â'r rhan fwyaf o ganolbarth a de Lloegr, a bydd yn para tan 23:59 nos Sul.
Mewn ymateb i bryderon cynyddol am sychder o ganlyniad i'r gwres, daeth cadarnhad fod grŵp o arbenigwyr o Gymru am fonitro effaith y tywydd poeth ar lefelau dŵr.
Bydd y Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol yr amgylchedd, iechyd a dŵr, yn edrych ar effaith y tywydd sych hirfaith.
Dydd Gwener hefyd bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â swyddogion o Lywodraeth y DU i drafod materion trawsffiniol.
"Rydym yn parhau i annog pawb i gadw'n ddiogel ac wedi'u hydradu yn y tywydd poeth hwn tra'n cadw mewn cof y camau y gallwn ni i gyd eu cymryd i leihau faint o ddŵr sy'n cael ei wastraffu," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Yn ôl y rhagolygon fe allai'r tymheredd godi i hyd at 32 gradd Celsius mewn rhai mannau ddydd Iau a ddydd Gwener, gyda'r tywydd poeth hefyd yn parhau i'r penwythnos.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r gwres effeithio ar iechyd pobl, gan rybuddio hefyd y bydd mannau arfordirol yn prysuro ac y gallai'r tywydd hefyd achosi oedi ar ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
'Her i bobl hÅ·n'
Dywedodd gwasanaethau tân y de, a'r canolbarth a'r gorllewin, eu bod wedi derbyn dros 30 o alwadau am danau gwair yn y 12 awr ddiwethaf.
"Mae'r galwadau yn parhau i ddod i mewn ac yn cynyddu," meddai Huw Morse o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
"Rydyn ni'n ymdopi. 'Dyn ni'n disgwyl cynnydd [mewn tanau] gan bod y tywydd mor sych, ond mae hyn yn anarferol achos mae wedi bod yn sych ers mor hir... ac mae hynny'n gwneud hi'n llawer haws i bethau gynnau."
Ychwanegodd bod y "rhan fwyaf" o danau gwair yn parhau i fod yn rhai "bwriadol", ond bod rhai damweiniol hefyd yn gallu digwydd os oedd pobl yn taflu sigaréts, llosgi gwastraff gardd, neu ddim yn diffodd barbeciws a thanau gwersylla yn iawn.
"Mae gennym ni ein adnoddau arferol, ond mae'n rhaid i ni fod yn arbennig o wyliadwrus," meddai.
Yn ôl Dr Gail Thomas, cyn-feddyg teulu yn Gorseinon, mae'r tywydd poeth ar hyn o bryd yn peri "tipyn o her i bobl hŷn" yn enwedig.
"'Dyn nhw ddim yn dioddef o'r gwres yr un ffordd ag mae pobl ifanc yn dioddef, felly mae lot o bethau ni'n gallu awgrymu, cyngor ar sut i wneud e bach mwy dioddefol," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.
Dywedodd y dylai pobl wisgo dillad llac, cau'r llenni a ffenestri yn ystod y dydd i gadw'r gwres allan, osgoi bod allan yn ystod oriau poethaf y dydd, ac yfed digon.
"Ry'n ni'n gweld gyda'r henoed 'dyn nhw ddim yn yfed digon fel arfer," meddai, gan ychwanegu y dylen nhw geisio yfed "5 i 8 gwydr y dydd".
"Cymaint â maen nhw'n gallu ar y foment, jyst i osgoi dehydration."
Mae'r Gwasanaeth Bad Achub hefyd wedi rhybuddio pobl i fod yn ofalus wrth fynd i'r môr, gan ddweud fod cynnydd wedi bod yn nifer y padlfyrddwyr maen nhw'n gorfod eu hachub.
"Gyda thymheredd uchel yn y rhagolygon eto'r penwythnos yma, rydyn ni eisiau atgoffa pawb i aros yn saff wrth ymweld ag arfordir Cymru," meddai Chris Cousens o'r RNLI.
Ychwanegodd fod sioc dŵr oer yn dal i allu bod yn fygythiad, er gwaethaf y tymheredd poeth yn yr aer.
"Mae'r môr yn gallu bod yn anodd ei ragweld, a hyd yn oed gyda'r tymheredd yn cynyddu, mae'r dŵr yn parhau i fod yn oer," meddai.