Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gemau'r Gymanwlad 2022: Medal arian i Gymru yn y bowlio lawnt
Mae Cymru wedi ennill medal arian yn y para-bowlio lawnt i barau cymysg B2/B3.
Fe gollodd Gordon Llewellyn a Julie Thomas yn y rownd derfynol i George Miller a Melanie Innes o'r Alban yn Birmingham.
Yn 75 oed, Miller ydy'r person hynaf erioed i ennill medal aur yn y Gemau Gymanwlad - er mai dim ond pum mis yn iau ydy'r Cymro Llewellyn.
Y Cymro Cymraeg o Ystradgynlais felly yw'r hynaf o Gymru i ennill medal yn y Gemau erioed.
Mae Cymru wedi ennill 19 medal yng ngemau Birmingham hyd yma - pedair medal aur, pump arian a 10 efydd.
Mae saith o fedalau pellach yn sicr o ddod i d卯m Cymru yn y bocsio a'r tenis bwrdd.
Ymhlith y bocswyr sydd yn si诺r o ennill medal o ryw fath mae'r efeilliaid 20 oed o Sir Benfro, Ioan a Garan Croft.
Yn y tenis bwrdd, mae Joshua Stacey wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth i ddynion, dosbarth 8-10, ac fe fydd yn herio Ma Lin o Awstralia ddydd Sul.