Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y cyfnod clo wedi effeithio ar sgiliau siarad rhai plant
- Awdur, Owain Evans
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgyrch i helpu sgiliau cyfathrebu plant bach dros yr haf.
Maen nhw'n ymwybodol y gallai cyfnodau clo'r ddwy flynedd ddiwethaf fod wedi effeithio ar ddatblygiad rhai plant.
Mae ymgyrch Her Haf Dechrau Siarad yn cynnwys amrywiaeth o dasgau syml ar gyfer teuluoedd.
Un fydd yn cymryd rhan yw Elis, 3, sy'n byw yng Nghaerdydd.
Er ei fod yn siaradus iawn erbyn hyn, roedd ei fam Gwenno yn poeni bod y cyfnodau clo wedi effeithio ar ei ddatblygiad.
"O'n i'n gweld bod o wedi g'neud cam yn 么l, wedi mynd yn swil iawn - ddim 'di arfer gyda phobl a phlant eraill. 'Sa fo ddim yn mynd ati i chwarae mor hawdd, roedd o'n clingy iawn," meddai.
"Plentyn cynta' ni ydy Elis felly oeddan ni wastad yn gofyn: 'Ydan ni'n gneud y peth iawn?' 'Yda ni'n g'neud digon'?
"Hefyd mae 'na fesuriadau lle mae eich plentyn i fod [wedi'i gyrraedd] yn yr oedran hyn, a doedd o ddim cweit yn cyrraedd y nifer o eiriau felly roedd y cwestiynau yma'n dechrau dod."
Fe gafodd y teulu gefnogaeth therapydd iaith a lleferydd ond oherwydd Covid doedd hi ddim wastad yn bosibl cwrdd wyneb yn wyneb.
Yn 么l adroddiad gafodd ei gyhoeddi gan Gyngor Iechyd Cymuned gogledd Cymru yn y gwanwyn, chafodd rhai plant ddim gwasanaeth o gwbl rhwng Mawrth a Medi 2020.
'Gadael ei 么l ar rai plant'
Mae Heledd Lyne yn therapydd iaith a lleferydd ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro. Mae hi'n cyfaddef iddi fod yn gyfnod anodd iddyn nhw a'i fod wedi gadael ei 么l ar rai plant.
"Y peth mwya' oedd, o'n i ffaelu mynd mas i weld y plant," meddai.
"Fel arfer bydde plant yn dod mewn i'r clinic neu bydden ni'n mynd i ysgolion a meithrinfeydd a do'n ni ddim yn gallu cael y cysylltiad o gwbl.
"Mae rhieni'n dod atom ni o hyd ac maen nhw'n gweld yr effeithiau ers y cyfnodau clo.
"Mae'r ysgolion yn dweud wrthon ni hefyd... felly mae 'na alw mawr nawr am fwy o therapi iaith a lleferydd ac mae'r anawsterau sy'n dod trwyddo yn fwy cymhleth hefyd."
Mae coleg brenhinol y therapyddion iaith a lleferydd yn cytuno ac yn dweud eu bod nhw'n gweld mwy o blant a bod problemau hefyd yn fwy dwys.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd a bod sgiliau cyfathrebu rhai plant wedi dioddef.
Maen nhw felly wedi dechrau Her Haf Dechrau Siarad, cyfres o dasgau syml ar Facebook i helpu plant bach gyda'u sgiliau cyfathrebu, sy'n rhan o
Mae'r tasgau'n cynnwys gweithgareddau syml fel chwarae gyda phlant bach wyneb yn wyneb, troi tasgau pob dydd yn gemau, darllen stori i'ch plentyn a defnyddio ansoddeiriau wrth gyfeirio at eitemau bob dydd.
Tips gwahanol
Mae Gwenno'n dweud fod yr ymgyrch y llywodraeth wedi rhoi hyder iddi.
"Be o'n i'n weld oedd yn dda oedd ein bod ni'n cael ein hatgoffa o beth ddylien ni 'neud a sut maen nhw'n helpu eich plentyn - pethau 'dan ni'n gwybod beth i'w 'neud ond weithiau chi jyst angen cael eich atgoffa," meddai.
"Baswn i o hyd yn rhoi dewis i Elis, a wedyn i adeiladu ar hynny, creu brawddegau byr - 'Ti isio afal gwyrdd?' - a hefyd i siarad am beth dwi'n ei wneud yn lle jyst disgwyl iddo fo fy ngwylio fi'n gwneud."
Ychwanegodd Heledd Lyne: "Mae 'na tip gwahanol bob wythnos, ac maen nhw'n annog rhieni i wneud yr un gweithgaredd yna bod dydd yr wythnos honno er mwyn hybu sgiliau iaith a chyfathrebu.
"Rhannu llyfr, canu caneuon gyda'r plant, mae lot o bobl yn gwybod rhigymau Cymreig ond mae plant yn dwlu hefyd pan chi'n 'neud caneuon lan a jyst canu am beth y'ch chi'n neud pob dydd."
Manteisio ar gyfnod llai prysur i rieni neu ofalwyr dros wyliau'r haf yw nod y llywodraeth i geisio helpu rhoi plant bach ar ben ffordd cyn dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi.