Ffoaduriaid Wcr谩in i ddod ynghyd i 'rannu profiadau'
- Cyhoeddwyd
Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal dros y penwythnos i ddod 芒 rhai o'r ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd Cymru o Wcr谩in at ei gilydd.
Mae arlywydd y wlad, Volodymyr Zelenskyy, wedi galw ar fwy o bobl i ffoi dwyrain Wcr谩in wrth i ardal Donetsk barhau i ddod o dan warchae gan luoedd arfog Rwsia.
Ond gyda bron i chwe mis bellach wedi pasio ers ddechrau'r rhyfel, mae llawer o bobl o Wcr谩in eisoes wedi setlo yng Nghymru.
Ddydd Sadwrn, bydd nifer o'r rhai sydd wedi dechrau bywyd newydd yng Ngwynedd yn dod ynghyd i "rannu profiadau".
Trefnydd y digwyddiad yw Gareth Roberts o Drawsfynydd, sydd eisoes wedi croesawu ei lys-ferch, Angelina, a'i merch 12 oed, Albina.
'Rhai yn setlo'n dda'
Erbyn hyn mae Albina yn mynychu Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog, gyda sawl un o'r ffoaduriaid wedi sicrhau gwaith yn lleol - yn bennaf o fewn y meysydd lletygarwch a thwristiaeth.
Ond yn 么l Mr Roberts, mae sawl her wedi wynebu'r ffoaduriaid wrth iddyn nhw setlo yng Nghymru.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru dywedodd: "Mae rhai yn setlo'n dda a rhai eraill yn chael hi'n anodd, o'r hyn dwi'n ddeall.
"Fyddwn ni'n cael cyfle dydd Sadwrn i rannu profiadau gyda ffoaduriaid sydd wedi dod i fyw gyda theuluoedd yn ne Gwynedd a darnau o Sir Ddinbych hefyd, a mae'r neges yn un cymysg iawn.
"Mae'r rhyfel yn ddi-ddiwedd, mae pobl yn digalonni ac yn poeni am y gaeaf r诺an a be sy'n mynd i ddigwydd pan mae'r pres sydd 'di cael ei gynnig i noddwyr yn rhedeg allan.
"Faint mor hir fyddan nhw'n cael dal i gael cymorth i helpu'r teuluoedd yma? Petha felly sy'n poeni ni r诺an."
'Newid o ddydd i ddydd'
Ychwanegodd: "Ond dwi'n falch iawn fod cymuned Trawsfynydd wedi dod at ei gilydd i roi croeso i'n nheulu i, ac hefyd Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy'n noddi yr achlysur yma ddydd Sadwrn.
"Yr heriau mwyaf oedd yr iaith, gyda llawer ddim yn siarad fawr o Saesneg, problemau hefyd i ddeall y systemau newydd a chofrestru gyda ysgolion, y gwasanaeth iechyd, a dod o hyd i swyddi.
"Mae'r ochr swyddi wedi bod yn eithaf da i ddweud y gwir. Mae llawer o ffoaduriaid yn gweithio yn y maes twristiaeth, lletygarwch, mae fy ngwraig i a'i merch wedi cael swydd ym Mhortmeirion, er enghraifft, ac yn mwynhau yno.
"Mae 'na ffoaduriaid eraill wedi dechrau yno yn ystod yr wythnos diwethaf hefyd.
"'Da ni'n rhagweld byddwn yn cynnal digwyddiad debyg yn yr hydref pan mae pethau wedi setlo dipyn a ceisio adolygu sut mae pethau'n setlo iddyn nhw, ond mae pethau'n newid o ddydd i ddydd.
"Mae nifer hyd yn oed yn s么n am fynd yn 么l i Wcr谩in, dyna rywbeth dwi'n llawn obeithio fydd fy nheulu i ddim yn awyddus i wneud tan mae pethau'n llawer distawach na maen nhw ar y pryd.
"Weithiau mae fy ngwraig yn teimlo'n ddigalon ac yn ddistaw a dwi 'di sylweddoli ei bod wedi bod yn siarad gyda rhywun adref, dyna un o'r problemau 'da ni ddim yn ddeall yn ddigon da a beth sy'n mynd drwy feddwl y bobl yma.
"Dwi'n gobeithio fydd y llywodraeth yn dal i gefnogi nhw yng Nghymru hyd yn oed am rai blynyddoedd i ddod achos 'da ni ddim yn gwybod pryd daw y rhyfel yma i ben."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2022
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022