Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Undeb athrawon NASUWT yn gwrthod cynnig o godiad cyflog
- Awdur, Gareth Pennant
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae undeb athrawon wedi gwrthod y cynnig o godiad cyflog ar raddfa is na chwyddiant i'w haelodau yng Nghymru eleni.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fis diwethaf y bydd cyflogau athrawon yn codi o 5% ym mis Medi.
Ond yn 么l undeb NASUWT mae hynny'n "llawer rhy isel".
Ar hyn o bryd mae chwyddiant - sef y gyfradd mae prisiau yn codi - yn 9.4%, a'r darogan yw y bydd yn cyrraedd 13% ym mis Hydref.
Bygwth cynnal pleidlais am streicio
Mae 26,000 o athrawon yng Nghymru, gyda'r cyflog ar gyfartaledd yn 拢39,009.
Ym mis Gorffennaf fe dderbyniodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles argymhellion panel annibynnol y dylai cyflogau codi o 5%.
Fe fyddai hynny'n golygu y byddai cyflogau i athrawon newydd yn dechrau ar 拢28,866.
I'r athrawon mwy profiadol byddai'r swm yn codi i 拢44,450.
Ond fe alwodd yr NASUWT am 12% yn 2022/23 ac maen nhw'n bygwth cynnal pleidlais ynghylch gweithredu diwydiannol yn yr hydref os nad oes cynnydd pellach.
Yn 么l yr undeb, mewn arolwg o 700 o'u haelodau roedd 78% yn credu bod y cynnydd yn "annigonol".
Ychwanegodd bod 70% yn anghytuno neu'n flin gyda'r codiad.
Gwrthod t芒l is na chwyddiant
"Mae cynnig t芒l Llywodraeth Cymru llawer yn is na beth mae athrawon yn mynnu yn dilyn degawd o doriad mewn cyflogau mewn termau real a'r argyfwng costau byw," meddai Neil Butler, Swyddog Cenedlaethol NASUWT Cymru.
"Mae'r cynnig t芒l yma yn golygu bod y bwlch o ran cyflogau athrawon ers 2010 yn 22.4%.
"Mae aelodau NASUWT unwaith eto wedi dweud wrthym ni eu bod yn gwrthod y cynnig o d芒l sy'n is na chwyddiant."
Fe allai'r cyflogau codi o 3.5% yn yr ail flwyddyn yn ddibynnol ar adolygiad.
Mae Mr Miles wedi dweud yn y gorffennol ei fod wedi ei gyfyngu o ran ei allu i godi t芒l.
Mae hefyd wedi beirniadu setliad ariannol Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru.
Yn Lloegr, mae'r rhan fwyaf o athrawon yno wedi cael cynnig tebyg o ran codiad cyflog, sef 5%.