大象传媒

Mynyddoedd Wicklow yn glir o'r Groeslon

  • Cyhoeddwyd
Llun maint llawn: Mynyddoedd Wicklow a'r tonnau'n torri ar draeth Dinas Dinlle o'r GroeslonFfynhonnell y llun, Darren Dean
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun maint llawn: Mynyddoedd Wicklow a'r tonnau'n torri ar draeth Dinas Dinlle o'r Groeslon

Mae mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon wedi bod yn glir o ardd flaen yn y Groeslon, Dyffryn Nantlle, dros y dyddiau diwethaf.

Dyna leoliad Darren Dean pan dynnodd o'r lluniau yma wrth iddi fachlud ar 9 Awst. Mae'r tonnau'n torri ar draeth Dinas Dinlle a mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon yn ymddangos yn rhyfeddol o agos ar y gorwel.

"Defnyddiais lens camera cryf i dynnu'r lluniau," meddai Darren wrth Cymru Fyw.

"Rydyn ni ond yn gweld mynyddoedd Wicklow cwpl o weithiau'r flwyddyn pan fo'r amodau yn iawn.

"Ond dydi o ddim yn arferol i ni weld y mynyddoedd pan mae'r haul wedi bod mor gryf 芒'r dyddiau dwytha' felly mae'r lluniau fel arfer yn llwyd. Does yr un o'r lluniau wedi eu golygu na'u newid oni bai am crop syml."

Mae Mynyddoedd Wicklow yn gadwyn o fynyddoedd sydd wedi eu lleoli yn nwyrain Iwerddon, islaw Dulyn. Maent yn rhedeg o'r gogledd i'r de o Swydd Dulyn trwy Swydd Wicklow cyn dod i ben yn Swydd Wexford. Y mynydd uchaf yn y gadwyn yw Lugnaquilla sydd ag uchder o 925m, ac yr ail fynydd uchaf yw Mullaghcleevaun sydd ag uchder o 847m.

Ffynhonnell y llun, Darren Dean
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun wedi ei gropio: Mynyddoedd Wicklow a'r tonnau'n torri ar draeth Dinas Dinlle o'r Groeslon

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae mynyddoedd Eryri yn edrych o Iwerddon?

N么l yn Ionawr 2021 llwyddodd Niall O'Carroll i dynnu llun trawiadol o'r Wyddfa a'i chriw o Ddulyn.