大象传媒

Diogelwch 'bob amser ar gefn meddwl' menywod yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Digwyddiadau 'brawychus' i fenywod yn Abertawe

"Mae lot o cat-calling, cyffwrdd merched heb ofyn iddyn nhw a ma' rhai achosion really gwael a brawychus sy'n digwydd i rai merched...".

Dyna brofiad un fenyw ifanc, Esyllt Rosser o Abertawe, sy'n dweud bod diogelwch "bob amser ar gefn meddwl menywod" wrth gerdded trwy'r ddinas.

I geisio mynd i'r afael 芒'r hyn sy'n bryder i filoedd o fenywod, mae un gyn-fyfyrwraig yn y ddinas wedi sefydlu gr诺p ar-lein i geisio helpu merched i deimlo'n fwy diogel.

Ond, mae ffordd bell i fynd yn 么l un elusen sy'n galw ar yr heddlu a'r system gyfiawnder i wneud mwy.

Mae Heddlu De Cymru yn dweud bod mynd i'r afael 芒 thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth iddyn nhw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sophie Morgan (ar y chwith) wedi sefydlu gr诺p i geisio gwneud i menywod deimlo'n fwy diogel yn Abertawe

Dechreuodd Sophie Morgan, 24 o Abertawe, gr诺p ar-lein i helpu menywod i deimlo'n fwy diogel yn y ddinas ar 么l digwyddiad "dychrynllyd".

Roedd hi'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe ac yn byw gyda myfyrwyr eraill yn ardal Brynmill y ddinas.

Un noson fe glywodd s诺n tu allan i'w ffenest. "Pan agorais i'r llenni fe welais ddyn ar y to tu allan yn ffilmio fi ac yn syllu arna' i," meddai.

"Yn syth ar 么l i mi agor y llenni fe neidiodd bant o'r to a wnaeth e yrru i ffwrdd.

"Roedd e'n brofiad dychrynllyd iawn. Yr unig beth oedd yn gwneud i fi deimlo yn ok oedd y ffaith o'n ni'n byw gyda wyth o bobl arall yn y t欧.

"Ond pryd nes i adrodd be ddigwyddodd i'r heddlu o'n nhw byth yn gallu darganfod pwy oedd e."

Fel nifer o fenywod, mae Sophie yn teimlo nad oes digon yn cael ei wneud i helpu i ddiogelu menywod.

Mae'n dweud ei bod hi'n clywed straeon am fenywod yn cael eu dilyn, pobl yn gweiddi neu'n ymosod arnynt ar y stryd ac adroddiadau o ddynion yn arddangos eu hun yn rhywiol i fenywod.

Traean o fenywod wedi eu haflonyddu

Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod traean o fenywod yn y Deyrnas Unedig wedi profi rhyw fath o aflonyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Erbyn hyn, mae bron i 1,000 o bobl yn rhan o'r gr诺p wnaeth Sophie ei sefydlu, ac mae'r aelodau i gyd yn ceisio helpu ei gilydd.

Os oes aelod o'r gr诺p yn cerdded adref a dydyn nhw ddim yn teimlo'n ddiogel, y gobaith yw y gallai rhywun gwrdd 芒 nhw neu siarad gyda nhw dros y ff么n.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Esyllt Rosser yn aelod o'r gr诺p ac yn ceisio cyflwyno gwelliannau i fyfyrwyr y ddinas yn ei r么l fel Llywydd yr Undeb

Mae Esyllt Rosser yn rhan o'r gr诺p ac yn helpu i gefnogi'r merched fel rhan o'i r么l fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Fel myfyrwraig, mae'n dweud yr oedd yna adegau lle nad oedd hi'n teimlo'n ddiogel yn y ddinas.

Nawr yn ei r么l newydd, mae eisiau helpu myfyrwyr i deimlo'n ddiogel, ac roedd hi'n un o'r rhai a drefnodd i osod goleuadau ym Mharc Singleton i sicrhau fod pobl yn teimlo'n fwy diogel.

"Mae'r undeb yn ceisio helpu i wella'r sefyllfa," dywedodd.

"Ar 么l 20 mlynedd o ymgyrchu, o'r diwedd ni 'di cytuno gyda'r cyngor i roi goleuadau ym Mharc Singleton fel bod pobl sy'n cerdded trwyddo'r parc yn y gaeaf yn gallu gweld pwy sydd o gwmpas.

"Pryd mae'n dywyll chi ffaelu gweld eich llaw o flaen eich wyneb ac ma nifer o ymosodiadau a digwyddiadau gwael ar fenywod wedi digwydd yn y parc yma.

"Ond gobeithio bydd y goleuadau yn wneud rhywbeth i helpu menywod i deimlo'n bach fwy ddiogel."

'Cerdded gydag allweddi yn eich dwylo'

Mae Esyllt yn credu fod y gr诺p cerdded diogel yn bwysig i helpu menywod i deimlo'n fwy hyderus.

"Mae'r teimlad o gymuned yna fod merched eraill yn teimlo fel chi, yn gwneud i chi deimlo llawer gwell am y sefyllfa.

"Mae diogelwch chi ar gefn eich meddwl chi bob amser pryd chi'n cerdded drwy'r ddinas neu'r parc.

"Chi'n barod i rywbeth ddigwydd achos chi'n cerdded gydag allweddi yn eich dwylo... ddylen i fod yn gallu cerdded i unrhyw le heb broblem, ond dyna'r realiti."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae goleuadau wedi eu gosod ym Mharc Singleton er mwyn gwella diogelwch gyda'r nos

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer erlynwyr yng Nghymru a Lloegr i erlyn pobl sy'n gyfrifol am aflonyddu rhywiol.

Maen nhw'n gobeithio y gallai achosion cat-calling gael eu cyfri' fel achos o aflonyddu rhywiol o dan y gyfraith trefn gyhoeddus.

'Ddim yn unrhyw beth newydd'

Ond mae Cymorth i Ferched Cymru yn dweud nad yw'r canllawiau yn mynd yn ddigon pell.

Fe ddywedodd Ann Williams, rheolydd llinell cymorth Byw Heb Ofn yr elusen nad yw hyn yn "unrhyw beth newydd, addasiad yw e o rywbeth sydd yn ei le yn barod".

"Be' ddylai ddigwydd os ydy rhywun yn dod ymlaen a dweud bod harassment yn digwydd ym mha bynnag ffordd, mae'n bwysig bod y bobl yn cael eu gwrando arnynt ac mae gan yr heddlu ddigon o hyfforddiant i wybod mae 'na ddeddf yn ei le fan hyn, ac mi allwn ni fynd 芒 hyn ymhellach.

"Y broblem bennaf yw nad ydy merched yn barod i ddod ymlaen, achos maen nhw'n gwybod nad ydynt yn cael eu herlyn.

"Felly pam wyt ti'n rhoi dy hun drwy brofiad sy'n gallu bod yn brofiad ofnadwy? Ti'n gorfod datgelu pethau personol iawn, ac wedyn bod dim byd yn dod o hynna."

Mewn datganiad fe ddywedodd Heddlu De Cymru bod mynd i'r afael 芒 thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth iddyn nhw.

"Fel llu, mae gennym hanes arbennig o weithio mewn partneriaeth i gynnig cymorth i ddioddefwyr ac i fynd i'r afael ag agweddau niweidiol sy'n arwain at drais yn erbyn menywod.

"Rydym yn cydnabod y gallai unrhyw un ddioddef o aflonyddu rhywiol a byddwn yn delio 芒 phob achos."

Pynciau cysylltiedig