大象传媒

Y ras i Rif 10: Pwy ydy Rishi Sunak?

  • Cyhoeddwyd
Rishi SunakFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ai Rishi Sunak fydd prif weinidog nesaf y DU?

Mae gan aelodau Ceidwadol bythefnos i ddewis arweinydd nesa'r blaid.

Y cyn-ganghellor Rishi Sunak a'r ysgrifennydd tramor Liz Truss sy'n cystadlu i olynu Boris Johnson a dod yn brif weinidog.

Ein gohebydd gwleidyddol Cemlyn Davies sydd wedi bod yn clywed mwy am y ddau, gan ddechrau gyda Rishi Sunak.

"Mae'n reit amlwg o amgylch y dref, mi fuodd yn ymweld 芒 chlwb p锚l-droed fy merch i," medd Meilyr Evans pan ofynnaf iddo am ei Aelod Seneddol lleol.

Hanu o'r Rhws ym Mro Morgannwg mae Meilyr, ond ers 15 mlynedd mae'n byw ym mhentref Aiskew yng Sir Gogledd Efrog ac yn etholaeth Richmond.

Ei gynrychiolydd yn San Steffan felly ydy'r cyn-ganghellor, a'r ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Geidwadol, Rishi Sunak.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynrychiolydd etholaeth Meilyr Evans yn San Steffan ydy Rishi Sunak

O ardd gefn Meilyr mae modd gweld cyfran helaeth o'r etholaeth wledig yma.

Ar y gorwel mae tref farchnad lewyrchus Richmond, ac ychydig yn nes mae Catraeth.

Mae hon yn sedd Geidwadol ddiogel, ac am nad ydy ef ei hun yn Geidwadwr mae Meilyr yn ceisio "osgoi" trafod gwleidyddiaeth.

Ond "yn gyffredinol dwi'n meddwl bod pobl yn gefnogol" o ymgyrch yr aelod lleol i fod yn brif weinidog, meddai.

Olynu William Hague fel AS

Cafodd Rishi Sunak ei ethol i D欧'r Cyffredin fel Aelod Seneddol Richmond am y tro cyntaf yn 2015.

Ei ragflaenydd yma? Cyn-ysgrifennydd Cymru a chyn-arweinydd y Ceidwadwyr, William Hague.

Roedd pobl leol yn "falch iawn" o'r Arglwydd Hague yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, medd Meilyr.

Felly pe bai Rishi Sunak yn ennill y ras i Rif 10, a fyddai'r etholaeth yn ymfalch茂o o fod yn gartref i'r prif weinidog newydd?

"Roedd e [William Hague] yn dod o'r ardal ble roedd Rishi Sunak wedi cael ei parachutio mewn, felly dwi ddim yn gwybod os fyddai'n creu cymaint o argraff achos bod e ddim yn lleol, ond dwi'n si诺r y byddai pobl yn reit falch."

Pwy ydy Rishi Sunak?

  • Cafodd ei eni yn Southampton yn 1980, yn fab i fferyllydd a meddyg;

  • Cafodd addysg breifat cyn mynd i astudio yn Rhydychen a'r Unol Daleithiau;

  • Fe bleidleisiodd o blaid Brexit cyn ymuno 芒 llywodraeth Theresa May yn 2018;

  • Dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei benodi'n ganghellor yng nghabinet Boris Johnson. Ei gyfrifoldeb ef felly oedd cynnal yr economi drwy'r pandemig, ond fe gafodd ei lusgo i sgandal y part茂on yn Downing Street a bu'n rhaid iddo dalu dirwy yn dilyn ymchwiliad yr heddlu;

  • Ddechrau mis Gorffennaf ef oedd un o aelodau cynta'r cabinet i ymddiswyddo fel rhan o'r don arweiniodd at gwymp Boris Johnson.

'Ymddiswyddo yn ystod crisis'

Fe allai'r penderfyniad i gefnu ar Boris Johnson gostio'n ddrud iddo, yn 么l y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis.

"Fi'n credu bod lot o aelodau Ceidwadol ddim wedi cefnogi Rishi Sunak hyd yn hyn, a ddim wedi pleidleisio drosto fe, achos maen nhw'n meddwl bod e'n fradwr yn erbyn Boris Johnson.

"Dy'n nhw ddim yn hapus 芒'r ffaith bod Rishi Sunak fel canghellor wedi ymddiswyddo yn ystod crisis economaidd, yn ystod crisis costau byw a crisis ynni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rishi Sunak oedd y canghellor yng nghabinet Boris Johnson cyn ymddiswyddo

Polis茂au economaidd y ddau ymgeisydd sydd wedi hawlio'r penawdau drwy gydol yr ymgyrch.

Yn wahanol i'w wrthwynebydd, mae Rishi Sunak wedi diystyru torri trethi ar unwaith os yw'n fuddugol.

Ond mae wedi addo cefnogi pobl gyda'u biliau ynni a thorri trethi cyn yr etholiad cyffredinol nesa'.

Mae hynny wedi arwain at gyhuddiadau gan gefnogwyr Liz Truss bod y cyn-ganghellor yn sosialydd, ac yn 么l Theo Davies-Lewis mae Rishi Sunak yn ei chael hi'n anodd darbwyllo aelodau Ceidwadol taw ei strategaeth ef sy'n gywir.

"Y sialens enfawr i Rishi Sunak yw bod yr agenda polisi mae e'n trio cyflwyno ddim yn apelio at yr aelodaeth Geidwadol achos na'i gyd maen nhw'n becso amdano yw pethau fel torri trethi," medd y sylwebydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol Stuart Andrew yn gefnogol o Rishi Sunak

Ond yn 么l yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Pudsey yng Ngorllewin Swydd Efrog, y Cymro Cymraeg Stuart Andrew, cynllun Rishi Sunak sy'n iawn.

"Dwi'n meddwl bod o'n hollol bwysig i fod yn onest efo'r cyhoedd, a'r ffordd dwi'n edrych arno mae gynnon ni broblemau yn yr economi r诺an," meddai.

"Dwi'n meddwl bod Rishi yn gywir i wneud yn si诺r ein bod ni'n aros i dorri taxes a dyna pam dwi'n cefnogi fo."

Ond yn 么l yr arolygon barn mae Mr Sunak ar ei h么l hi yn y ras i olynu Boris Johnson.

Ac mae amser yn mynd yn brin iddo ennill y gefnogaeth fydd ei hangen.

Bydd adroddiad Cemlyn Davies am Liz Truss yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun.