大象传媒

Cyngor Celfyddydau Cymru yn penodi Dafydd Rhys yn brif weithredwr

  • Cyhoeddwyd
Dafydd RhysFfynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dafydd Rhys yw prif weithredwr newydd y Cyngor Celfyddydau

Mae Dafydd Rhys wedi ei benodi fel prif weithredwr newydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Yn gyfarwyddwr presennol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, mae wedi bod yn Ymddiriedolwr i Gyngor y Celfyddydau ers 2017.

Y llynedd cyhoeddodd y corff benodiad Sian Tomos i'r swydd, ond bu'n rhaid iddi ymddeol am resymau iechyd cyn cychwyn yn ei r么l.

Michael Elliott sydd wedi bod yn y swydd dros dro ers Mawrth 2022 yn dilyn penderfyniad Ms Tomos i ymddeol.

Bydd Dafydd Rhys yn dechrau yn ei swydd newydd yn yr hydref.

'Effaith gadarnhaol y celfyddydau'

Yn dilyn y cyhoeddiad dywedodd Mr Rhys ei fod yn "credu'n angerddol yng ngwerth y celfyddydau a'u gallu i wneud gwahaniaeth i fywyd a lles ein cenedl".

Roedd Mr Rhys yn gyn-Gyfarwyddwr Cynnwys gyda S4C, a bu hefyd yn Olygydd Comisiynu ac yna'n Gyfarwyddwr Darlledu'r sianel.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd disgwyl i Sian Tomos ddechrau yn ei swydd newydd ym mis Medi 2021

Ychwanegodd: "Er ein bod yn wynebu llawer o broblemau sylweddol yn y celfyddydau yng Nghymru - nid lleiaf effaith pandemig Covid-19, yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng costau byw - rwy'n argyhoeddedig o'r effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau ei chael ar bob agwedd o'n bywyd cenedlaethol.

"O fod wedi gweithio yn y diwydiannau creadigol ar hyd fy ngyrfa a chael profiad ymarferol fel Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ers 2018, rwyf wedi gweld ar lawr gwlad yr effaith gall y celfyddydau ei chael ar fywydau pobl hen ac ifanc ac o bob cefndir cymdeithasol."

Ar benodiad Mr Rhys dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Yn siaradwr Cymraeg o fyd diwydiannol Sir Gaerfyrddin, mae Dafydd yn angerddol ynghylch cyrraedd cymunedau amrywiol Cymru lle mae anfantais economaidd yn aml wedi cyfyngu ar allu pobl i gael mynediad at rym trawsnewidiol y celfyddydau.

"Mae'n benderfynol o ehangu cyfranogiad ac ymgysylltu 芒'r celfyddydau ar sail parch at greadigrwydd lleol."

Pynciau cysylltiedig