Dewch i gwrdd 芒'r Deian a Loli newydd

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Y Deian a Loli newydd, Moi Williams and Lowri Llewelyn

Deian a Loli yw un o'r rhaglenni mwyaf poblogaidd i blant Cymru, ac mae dau actor ifanc o ogledd Cymru wedi eu henwi fel y p芒r newydd i actio fel yr efeilliaid direidus.

Fe gurodd Moi Williams, o Gaernarfon, a Lowri Llewelyn o Fangor (y ddau yn 10 oed) dros 600 o ddarpar actorion ifanc eraill i gipio rhannau Deian a Loli yn y gyfres ar S4C.

Maent yn cymryd yr awenau oddi wrth Ifan Henri, 11 oed, sy'n byw yn Abersoch, a Lleucu Owain, 12 oed, o Gerrigydrudion ger Corwen, sy'n gadael y rhaglen ar 么l tyfu'n rhy hen i'r cymeriadau.

Pennod arbennig y Nadolig

Bydd y ddeuawd newydd yn ymddangos am y tro cyntaf pan fydd y newid yn digwydd yn ystod pennod Nadolig arbennig a fydd yn cael ei darlledu dros gyfnod yr 诺yl.

Yn debyg i Doctor Who, mae'r cast cyfan yn cael ei adfywio gydag actorion newydd yn chwarae rhan rhieni'r efeilliaid hefyd.

Mae Sion Eifion, sy'n hanu o Lanfaelog ger Rhosneigr a Fflur Medi Owen, o Dregarth ger Bangor, yn cymryd lle Rhys ap Trefor a Sara Lloyd.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Moi Williams a Lowri Llewelyn gyda'u rhieni yn y gyfres, Sion Eifion and Fflur Medi Owen

Mae Cwmni Da o Gaernarfon sy'n cynhyrchu'r rhaglen eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ffilmio pedwaredd gyfres Deian a Loli ar gyfer cynulleidfa ifanc Cyw ar S4C.

Mae ffilmio hefyd wedi bod yn digwydd ar leoliad ac mae'r cast a'r criw wedi bod yn rhedeg o amgylch y coed ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon tra bod golygfeydd tu mewn i gartref Deian a Loli wedi cael eu ffilmio mewn pentref ger Penygroes.

Yn ogystal 芒 bod 芒 llu o wylwyr ifanc brwd ym mhob rhan o Gymru, mae'r gyfres hefyd wedi bod yn boblogaidd iawn gyda beirniaid teledu.

Mae'r rhaglen wedi ennill gwobrau lu gan gynnwys tair Gwobr BAFTA Cymru ac wedi cael ei gwerthu'n rhyngwladol, gyda nifer o lyfrau Deian a Loli hefyd yn cael eu cyhoeddi gan Y Lolfa.

'Hoff iawn o'r cyffro'

Mae Moi yn ddisgybl yn Ysgol y Gelli yng Nghaernarfon, ac meddai: "Rwyf wedi bod i Ysgol Glanaethwy ym Mangor ac wedi actio a chanu yno ond dim byd arall. Mae'r sgr卯n werdd yn llawer mwy nag oeddwn i'n meddwl y byddai ond mae actio yn her rwy'n ei mwynhau'n fawr.

"Dw i'n dod i arfer efo'r ffilmio r诺an a dw i'n hoff iawn o'r cyffro i gyd."

Yn wahanol i'w gyd-seren, mae Lowri sy'n mynychu Ysgol y Garnedd ym Mangor, eisoes wedi cael ychydig o brofiad actio.

Meddai: "Mae gen i dri brawd ac rydan ni wedi cynnal pantomeimiau a sioeau eraill adeg y Pasg i'n rhieni a nain a taid. Ond dydw i erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o'r blaen. Rwy'n mwynhau'n fawr a dw i'n meddwl ei fod o'n wych."