大象传媒

Plant 'mewn peryg' oherwydd bylchau gofal asthma

  • Cyhoeddwyd
Ethan a Gemma PerkinsFfynhonnell y llun, Asthma + Lung UK Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ethan, 6, yn dioddef o asthma ac wedi bod yn yr ysbyty dros 15 o weithiau ers 2018

Mae yna ofnau bod yna fylchau pryderus yng ngofal plant sydd ag asthma yng Nghymru.

Yn 么l astudiaeth elusen Asthma + Lung UK Cymru ymhlith meddygfeydd mae nifer o blant mewn peryg o orfod mynd i ysbyty wedi iddynt gael pwl o asthma oherwydd nad oes yna ofal sylfaenol ar eu cyfer.

Yn 么l Llywodraeth Cymru bydd disgwyl i fyrddau iechyd ystyried canlyniadau'r archwiliad a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

'Ymladd am anadl'

Mae mab Gemma Perkins, o Ben-y-bont ar Ogwr, yn dioddef o asthma ac wedi bod yn yr ysbyty dros 15 o weithiau ers 2018.

Ffynhonnell y llun, Asthma + Lung UK Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ethan, 6, yn ystod un o'i ymweliadau 芒'r ysbyty

Yn 么l y fam 36 oed, mae angen mwy o wybodaeth a chefnogaeth i sicrhau bod asthma ei mab, Ethan, yn cael ei reoli a'i fod yn gallu osgoi ymweliadau 芒'r ysbyty.

"Dechreuodd Ethan gael symptomau asthma, fel gwichian a diffyg anadl pan yn ddwy oed," meddai.

"Ar un adeg, roedd ei byliau o asthma mor ddrwg fel ei fod yn cael ei gadw yn yr ysbyty bob mis am ddau ddiwrnod ar y tro.

"Yn Nhachwedd 2021 roedd e yn yr ysbyty ond wnaeth e ddim ymateb i driniaeth.

"Dyna'r peth mwyaf brawychus rydyn ni wedi bod drwyddo fel teulu. Dwi byth eisiau gweld Ethan yn ymladd am ei anadl eto."

Ffynhonnell y llun, Asthma + Lung UK Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Gemma mae angen mwy o wybodaeth a chefnogaeth i sicrhau bod asthma ei mab, Ethan, yn cael ei reoli

"Rwy'n deall bod meddygon teulu dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, ond mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pawb ag asthma yn cael yr help sydd ei angen arnynt, fel bod pobl yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i reoli eu cyflwr.

"Mae apwyntiadau ac archwiliadau rheolaidd yn bwysig iawn i'w gadw'n ddiogel ac yn iach."

'Cyflwr di-rybudd'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y meddyg teulu Dr Eilir Hughes o Nefyn, bod y cyflwr yn gallu bod "yn ddychrynllyd".

"Mae'n ofnadwy i rieni weld eu plant felly, mae'n gallu taro'n ddi-rybudd ac yn gyflym iawn.

"Mae'n gyflwr sydd angen ei gymryd o ddifrif," ychwanegodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae asthma yn gallu bod yn gyflwr "dychrynllyd" sy'n medru effeithio ar blant yn ddi-rybudd, dywedodd Dr Eilir Hughes

Fe bwysleisiodd pa mor bwysig yw mynd i'r feddygfa pan fo apwyntiad wedi ei drefnu a sicrhau bod rhieni a phlant yn gwybod sut i ddefnyddio pwmp asthma.

"Fydda i'n gorfod atgoffa pobl i arafu lawr sut maen nhw'n cymryd yr anadl a'r gwynt... a sicrhau bod gyda nhw ddigon o bympiau."

Fe rybuddiodd y gallai meddygon teulu weld mwy o achosion o asthma wrth i dymor y gaeaf nes谩u.

"Wrth i ni symud ymlaen falla' at y gaea', 'dan ni'n gwybod nid jyst y feirws sydd yn achosi pylia' o asthma.

"Mae o'n rhywbeth pwysig iawn 'dan ni'n edrych arno fo."

Rheolaeth

Nod y rhaglen sy'n cael ei harwain gan Goleg Brenhinol y Ffisegwyr yw gwella ansawdd gofal, gwasanaethau a chanlyniadau clinigol i bobl 芒 chyflyrau'r ysgyfaint.

Yn 么l yr arolwg mae gan 59,000 o blant yng Nghymru asthma, sef cyflwr ysgyfaint difrifol a all achosi symptomau fel peswch, gwichian, teimlo'n fyr o anadal neu frest dynn.

Mae angen rheoli asthma, hyd yn oed os yw pobl yn teimlo'n iach, i leihau'r risg o symptomau a phyliau all fod yn fygythiad i fywyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryderon nad yw techneg mewnanadlu rhai plant yn cael ei hadolygu

Fe wnaeth yr elusen ddadansoddi data o 314 (80.7%) o feddygfeydd yng Nghymru rhwng Ebrill 2020 a 31 Gorffennaf 2021, gan ddarganfod mai:

  • Dim ond 22% o blant dderbyniodd gynllun gweithredu asthma personol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (Gyda'r ffigwr mor isel 芒 13.2% yng Nghwm Taf)

  • Dim ond chwarter (24.9%) o blant ag asthma yng Nghymru a welodd eu techneg mewnanadlu yn cael ei hadolygu, sef rhan allweddol o hunanreoli'r cyflwr.

  • Dim ond traean o blant gafodd ddiagnosis o asthma yn ddiweddar sydd 芒 record o dderbyn profion i gadarnhau hyn - sef hanner y lefel yn 2020.

'Mae plant wedi'u gosod o'r neilltu'

Dywedodd Joseph Carter, Pennaeth Asthma + Lung UK Cymru, bod canfyddiadau'r arolwg yn "amlygu bylchau pryderus yng ngofal asthma plant".

"Mae Covid-19 wedi cyflwyno heriau enfawr i'r GIG ac i blant ag asthma ac mae tarfu ar eu gofal asthma arferol yn un canlyniad allweddol.

"Mae plant wedi'u gosod o'r neilltu ac mae rhieni wedi'u gadael i hunanreoli heb gynllun gofal priodol yn ei le. Mae angen newidiadau mawr i amddiffyn ysgyfaint bach," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Rhaid i ni godi disgwyliadau rhieni" dywedodd Joseph Carter

Ychwanegodd bod yn "rhaid i ni godi disgwyliadau rhieni, fel eu bod nhw'n cael y gefnogaeth, y wybodaeth gywir ac yn derbyn hyn ar yr amser iawn.

"Mae meddygon teulu a nyrsys yn chwarae rhan enfawr wrth sicrhau bod plant ag asthma yn cael y gofal sylfaenol i sicrhau y gallant fyw'n dda a rheoli eu cyflwr.

"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i archwiliad NACAP drwy sicrhau bod pawb ag asthma yn cael cymorth i reoli eu cyflwr.

"Gallai methu 芒 gweithredu nawr roi mwy o fywydau mewn perygl."

Byrddau iechyd i 'ystyried y canlyniadau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau i blant ag asthma.

"Mae gan y rhan fwyaf o bractisau meddygon teulu nyrs asthma a byddem yn annog rhieni plant ag asthma i gysylltu 芒'u meddyg teulu i wneud yn si诺r eu bod yn cael adolygiad asthma.

"Disgwyliwn i fyrddau iechyd ystyried canlyniadau'r archwiliad hwn a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i reoli eu cyflwr ac atal derbyniadau diangen i'r ysbyty.

"Yn ddiweddarach eleni byddwn yn cyhoeddi Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefyd Anadlol, a fydd yn nodi'r safonau gofal y gall pobl ddisgwyl eu derbyn."

Pynciau cysylltiedig