Diogelu dyfodol melin wl芒n hanesyddol yn Nyffryn Teifi
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol melin wl芒n hanesyddol yn Nyffryn Teifi yn ddiogel ar 么l cael ei phrynu gan Amgueddfa Cymru.
Roedd pryder am ddyfodol Melin Teifi ar 么l i'r perchnogion s么n eu bod nhw'n ystyried ymddeol.
Ond bellach mae'r amgueddfa yn dweud y bydd y felin yn rhan bwysig o Amgueddfa Wl芒n Cymru, ac yn le i ddatblygu sgiliau a chrefftwyr newydd yn y diwydiant.
Er hynny, dywedodd un o'r sylfaenwyr, Raymond Jones ei fod am gadw'r cysylltiad gyda'r felin: "Fi yn bwriadu cadw yn law mewn, dwi ddim ishe bennu yn gyfangwbl. Mae e yn fy ngwaed i."
'Rhan bwysig o'n bywydau'
Fe gafodd Melin Teifi ei sefydlu gan Raymond a Diane Jones yn 1982; mae'r ddau nawr yn eu 70au.
Roedden nhw wedi bwrw eu prentisiaeth ar 么l gadael ysgol, yn hen felin wl芒n y Cambrian ar y safle.
Ond pan gaeodd hwnnw, aeth y ddau ati yn syth i agor melin eu hunain: "Mae hwn yn rhan bwysig o'n bywydau ni ein dau ers blynydde mawr, mae e yn ein gwaed ni.
"Pan gaeodd y Cambrian doedd unman gyda ni i fynd, a doedden ni ddim yn gwybod be' arall i 'neud ar wah芒n i weithio gyda gwl芒n", meddai Diane.
Mae'n cofio sut y gwnaeth hi ddechrau yn y diwydiant bron i 60 mlynedd yn 么l.
"Fi oedd yr un oedd yn dod mewn yn y bore i'r hen ffatri wl芒n ac yn cynnau t芒n i'r merched gwn茂o pan fydde nhw'n dod mewn fel bod y lle yn dwym neis iddyn nhw.
"Ac wedyn fe es i 'mlaen i neud blancedi a'r stitching.
"Dyw'r gwaith ddim 'di newid fawr ddim dros y blynydde, mae rhai commissions yn dod mewn a phatrymau newydd ond mae'r gwaith traddodiadol yn bwysig i ni... yr hen batrymau Cymraeg.
"Mae'n neis nawr bod rhywun yn cymryd y felin drosodd. Ni wedi gweithio yn galed yma trwy amseroedd da a drwg."
'Mae'r felin mewn dwylo da'
Mae Raymond ei g诺r yn teimlo rhyddhad nawr bod dyfodol y felin yn sicr: "Rwy'n teimlo bo' fi yn gwbod be' sy' i ddigwydd o nawr 'ml芒n, ac mae'r felin mewn dwylo da.
"Yn y cwpl blynydde diwetha' rwy' 'di bod yn becso am y felin, y peirianne a phobl sy'n gweithio gyda ni a hefyd ein cwsmeriaid.
"Ond nawr rwy'n teimlo rhyddhad achos ry' ni ein dau wedi bod yn gweithio yn y diwydiant gwl芒n fan hyn ers 1964."
Pan gaeodd y Cambrian, roedd Raymond yn meddwl ei fod yn bwysig i "gadw cynnyrch y felin i fynd sef gwlanen a blancedi, siolau magu, ac wedyn y tapestri".
"Gadwo ni 'neud pethe fel 'na ac roedd hynna'n bwysig i fi."
Mae'r cwmni bach wedi sefydlu perthynas gyda chynllunwyr trwy amseroedd o galedi.
"Ar un amser roedd hi yn galed iawn yn yr '80au gyda ffatr茂oedd yn cau ac fe gymero ni lot o waith comisiwn 'mlan i gadw ni fynd, ac mae'r cysylltiad yna gyda chynllunwyr wedi parhau.
"Fi yn bwriadu cadw yn law mewn, dwi ddim ishe bennu yn gyfan gwbl. Mae e yn fy ngwaed i."
Mae Ruddwen Mainwaring wedi teithio i'r felin gyda'i merch o Bontarddulais i brynu gwl芒n i wneud gwisg Gymreig i'w gor-wyrion.
"Rwy' wedi prynu defnydd ar gyfer sgert a betgwn a phiner, ac mae'r safon fan hyn yn arbennig", meddai.
"Rwy' 'di gneud sawl un o rhain dros y blynydde, wastod yr un patrwm ac mae'r traddodiadol yn bwysig iawn i fi!"
Defnyddio 'adnoddau naturiol Cymru'
Edrych i'r dyfodol mae rheolwr yr amgueddfa wl芒n, Ann Whittall, sy' wrth ei bodd ar 么l i Amgueddfa Cymru brynu'r felin.
"Mae'n hollol bwysig i ni fan hyn yn Nyffryn Teifi ein bod ni'n cadw y cynhyrchwyr gwlanen traddodiadol a'r tapestris i fynd.
"Ond hefyd ar yr un pryd mae'n gyfle gwych i gynllunwyr Cymru os ydyn nhw am ddysgu sut mae defnyddio'r peiriannau a chynllunio patrymau a chynllunie newydd, bydd y cyfle yma iddyn nhw."
Mae hi'n bendant bod lle a galw o hyd am gynnyrch y diwydiant gwl芒n: "Ry' ni i gyd yn fwy ymwybodol o'n dillad o lle maen nhw yn dod a sut maen nhw yn cael eu gwneud.
"Mae yna alw am edrych ar ein hadnoddau naturiol yng Nghymru a gwneud mwy o ddefnydd o wl芒n Cymru. Felly mae yna gyfle gwych fan hyn."
Mae pennod newydd yn dechrau yn hanes cynhyrchu gwl芒n yng Nghymru, a diwydiant sy' wedi bod yn rhan o wead Dyffryn Teifi ers canrifoedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd19 Awst 2020
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021