Rheithgor achos Ryan Giggs i barhau gydag 11 aelod
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y rheithgor yn yr achos yn erbyn cyn-reolwr t卯m p锚l-droed Cymru, Ryan Giggs, yn ailymgynnull ddydd Mawrth i ystyried ei ddyfarniad.
Cafodd y rheithgor ei anfon adref ddydd Iau wedi i un o'r aelodau gael ei daro'n wael.
Mae'r barnwr bellach, gyda chytundeb y ddau d卯m cyfreithiol, wedi rhyddhau'r unigolyn yna o'r achos.
Fe wnaeth y trafodaethau barhau ddydd Gwener, ond cafodd y rheithgor eu hanfon adref am y penwythnos.
Mae Mr Giggs yn gwadu rheoli ei gyn-gariad, Kate Greville drwy orfodaeth ac o ymosod arni hi a'i chwaer, Emma Greville.
Mae'r rheithgor wedi bod yn ystyried y dyfarniadau yn Llys y Goron Manceinion ers prynhawn Mawrth, ac mae aelodau'r rheithgor wedi cael gorchymyn i anelu am ddyfarniad unfrydol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022
- Cyhoeddwyd22 Awst 2022