大象传媒

Diwrnod olaf 'trist' gwefan newyddion The National

  • Cyhoeddwyd
The NationalFfynhonnell y llun, Newsquest
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yna fersiwn print o The National yn ystod wyth mis cyntaf y gwasanaeth

Mae'r wefan newyddion Gymreig, The National wedi cadarnhau mai dydd Mercher yw diwrnod olaf y gwasanaeth.

Fe ddaeth i'r amlwg yr wythnos diwethaf bod y gwasanaeth yn debygol o gau wedi ymgynghoriad wrth i'r argyfwng costau byw arwain at ostyngiad yn nifer y tanysgrifwyr ac incwm hysbysebion.

Ond mae neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher yn cadarnhau bod "hi'n ddiwrnod trist" gan mai "heddiw, mae ein gwasanaeth yn dod i ben".

Mae'r neges wedi ennyn llu o ymatebion yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth ac yn mynegi siom nad oedd modd iddo barhau.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cefin Campbell AS/MS 馃彺鬆仹鬆仮鬆伔鬆伂鬆伋鬆伩

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cefin Campbell AS/MS 馃彺鬆仹鬆仮鬆伔鬆伂鬆伋鬆伩

Cafodd y gwasanaeth ei lansio Ddydd G诺yl Dewi y llynedd dan berchnogaeth Newsquest, un o gwmn茂au newyddion mwyaf Prydain, gan gyflogi tri newyddiadurwr.

Roedd yn fwriad o'r dechrau i'w gyhoeddi ar-lein yn bennaf, ond roedd yna fersiwn print hefyd yn ystod wyth mis cyntaf y gwasanaeth.

Wrth gadarnhau'r ymgynghoriad i gau'r gwasanaeth, dywedodd y cwmni bod y "gystadleuaeth o gyfeiriad gwasanaethau newyddion am ddim, gan gynnwys 大象传媒 Cymru ar-lein, yn golygu na fu'n bosib i The National Cymru gynyddu nifer y tanysgrifwyr sy'n talu lefel gynaliadwy".

Ychwanegodd bod "nifer fach o swyddi mewn perygl o ganlyniad i'r cynnig" a'u bod yn "ymgynghori gyda'r staff sy'n cael eu heffeithio er mwyn ceisio lleihau diswyddiadau posib".

'Rydym wedi cyflawni gymaint'

Mewn erthygl yn nodi'r diwrnod olaf dywedodd golygydd cyntaf The National Cymru, Gavin Thompson: "Rydym wedi cyflawni gymaint.

"Mae ein newyddiaduraeth wedi helpu gwneud ein llywodraethau'n atebol, rydym wedi rhoi sylw i faterion roedd fawr neb arall yn poeni yn eu cylch a chyhoeddi straeon na fyddai unrhyw un arall yn ei wneud."

Ychwanegodd: "Mae Cymru'n haeddu cyfryngau cenedlaethol cryf a byddwn yn parhau i chwarae rhan yn hynny o beth trwy ein gwefan Cymraeg Corgi.Cymru."

Cafodd gwasanaeth Corgi Cymru, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi dan faner Newsquest, ei sefydlu yn gynharach eleni, ac mae'n derbyn cyllid blynyddol o 拢100,000 gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Pynciau cysylltiedig