Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Syfrdanol': Bil ynni cigydd o Gonwy yn £800,000
Mae perchennog cwmni cig adnabyddus yn y gogledd yn dweud ei fod wedi ei "gwbl syfrdanu" ar ôl derbyn amcan bris o bron i £800,000 ar gyfer ynni am flwyddyn.
Fe wnaeth perchennog Edwards o Gonwy, Ieuan Edwards, drydar fod hynny'n cymharu â bil o £129,000 y llynedd.
Dywedodd fod y math o filiau mae busnesau bach a chanolig yn eu derbyn yn "game changer", gyda chwmnïau yn methu gwneud elw ac felly dim yn talu trethi i goffrau'r Trysorlys.
Roedd Mr Edwards wedi troi at Twitter ar ôl iddo glywed Edwina Currie, cyn-weinidog Ceidwadol, yn dweud bod hi'n gor-ddweud i alw'r sefyllfa bresennol yn "catastrophe".
Roedd Ms Currie yn ymateb i sylwadau'r arbenigwr ariannol Martin Lewis.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
"O ran Edwina Currie - mae'n rhyfeddol i rywun mor alluog â hi i fod mor anwybodus ynglŷn â beth sy'n digwydd.
"Dyna pam i mi drydar y bil, i ddangos beth yw'r sefyllfa.
"De ni yn ffodus fel busnes da ni'n eithaf cryf - ond bydd yna fusnesau fydd poeni yn arw, beth yw'r dyfodol."
Dywedodd nad oedd yn gallu gweld sut bod modd i fusnesau dalu biliau o'r fath. Ei obaith yw y bydd prif weinidog newydd i olynu Boris Johnson yn cyhoeddi pecynnau cymorth yn fuan.
"De ni am aros am rai dyddiau i weld, gweld be ddaw yn yr wythnosau nesa'."
Ychwanegodd fod cwmnïau yn wynebu heriau gwahanol, a bod yna fantais amlwg gan gwmnïau sydd â chytundebau pris sefydlog o bosib am y ddwy flynedd nesaf.
"Does gan y llywodraeth ddim dewis ond ymyrryd. Bydd cwmnïau yn gorfod hawlio treth y gost yn erbyn elw, a bydd hynny'n golygu llai o elw ac felly llai o drethi i'r Trysorlys.
"Dydi o ddim yn gynaliadwy."
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd na unrhyw bolisïau newydd yn cael eu cyhoeddi tan y bydd arweinydd newydd yn cael ei benodi ar 5 Medi.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Busnes, Ynni a Diwydiant y DU na fyddai "unrhyw lywodraeth" yn gallu rheoli'r "ffactorau byd eang syn cynyddu prisiau ynni a chostau busnes eraill".
"Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau yn y misoedd i ddod."
Ychwanegodd fod y llywodraeth eisoes wedi darparu pecyn sy'n golygu y byddi busnesau ond yn talu 50% o drethi busnes.
Mae gweinidog economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi "biliynau o bunnoedd i fusnesau Cymru oherwydd argyfwng costau cynyddol".
Dywedodd Mr Gething fod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu rhyddhad ardrethi busnes, a bod swyddogion yn edrych ar feysydd eraill i gynnig cefnogaeth.