大象传媒

Ceidwadwyr: 'Angen undod wedi cyhoeddi'r arweinydd'

  • Cyhoeddwyd
Rishi Sunak a Liz Truss
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd arweinydd newydd y blaid Geidwadol a Phrif Weinidog nesaf y DU yn cael ei gyhoeddi am 12:30

Wrth i Liz Truss gael ei hethol yn arweinydd newydd y Blaid Geidwadol, mae cadeirydd y blaid yng Nghymru wedi galw am wynebu'r heriau anferthol sy'n bodoli ar unwaith.

Ms Truss gafodd ei dewis gan aelodau'r blaid i olynu Boris Johnson, ac fe fydd yn cael ei phenodi'n brif weinidog yn swyddogol ddydd Mawrth.

Rishi Sunak oedd yr ymgeisydd aflwyddiannus, gan dderbyn 42.6% o'r bleidlais, o'i gymharu 芒'r 57.4% gafodd Ms Truss.

Wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru cyn y canlyniad, dywedodd Glyn Davies ei fod yn adnabod y ddau ymgeisydd yn dda, ac mai sicrhau undod oedd y peth pwysicaf.

"Gobeithio bydd pawb yn helpu i ddelio gyda'r hyn sydd o flaen [y prif weinidog newydd] yn y blynyddoedd nesaf," meddai.

"Bydd hyn yn bwysig iawn. Dwi ddim wedi gweld sefyllfa fel hyn o'r blaen."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Glyn Davies yn teithio i Lundain ar gyfer canlyniad y bleidlais

Ychwanegodd Mr Davies, a fu'n Aelod Seneddol Maldwyn am yn agos i 10 mlynedd, bod yn rhaid i ASau ac aelodau'r blaid Geidwadol gefnogi pwy sydd wedi ennill.

"Rhaid i bawb wneud popeth maen nhw'n gallu i sicrhau arweinyddiaeth lwyddiannus - mae hynny yn bwysig i'r blaid ac i'r wlad hefyd.

"Dwi ddim wedi gweld sefyllfa lle mae cymaint o broblemau yn wynebu y prif weinidog newydd.

"Dwi'n cofio pan oedd Mrs Thatcher yn dod i mewn o'dd pethe yn anodd - ond dwi ddim wedi gweld sefyllfa fel yr un yma.

"Be' sy'n bwysig yw perswadio pobl o'n plaid ni a phobl o bleidiau eraill i wneud popeth maen nhw'n gallu i sicrhau y bydd y prif weinidog newydd yn llwyddiannus."

Tua 141,000 o'r 160,000 o Geidwadwyr cymwys ar draws y Deyrnas Unedig wnaeth fwrw pleidlais yn yr etholiad.

Ddydd Mawrth, fe fydd Boris Johnson yn ymddiswyddo'n swyddogol, ac yna bydd Ms Truss yn cyfarfod 芒'r Frenhines yn Balmoral cyn cymryd yr awenau'n Rhif 10.

Bydd Glyn Davies yn teithio i Lundain ar gyfer y cyhoeddiad.

Ms Truss oedd y ffefryn cyn y cyhoeddiad, ond ni wnaeth Mr Davies gadarnhau pwy oedd am gefnogi.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna anghytuno tanllyd wedi bod yn ystod dadleuon ond "mae hynny ar ben bellach", medd Glyn Davies

Wrth siarad am y dadleuon ffyrnig sydd wedi bod rhwng y ddau yn ystod yr hystings, dywedodd Mr Davies fod hynny yn rhan o ddemocratiaeth.

"Does dim byd yn bod ar hynny. Dwi'n meddwl ei fod yn beth iach pan mae dau o bobl mor awyddus i fod yn arweinydd ac yn mynd amdani.

"Ond mae hynna drosto nawr a'r hyn sydd ei angen ei wneud yw cefnogi y sawl a fydd yn ennill."

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl y bydd y prif weinidog newydd yn gweithredu'n syth.

"Mae gan y ddau bolis茂au addas sy'n eu galluogi i ddechrau y diwrnod canlynol. Fe fyddan nhw yn Nh欧'r Cyffredin... ac fe fydd Cwestiynau'r Prif Weinidog... does yna ddim dewis ond bwrw iddi yn syth."

Mae sylwadau Glyn Davies yn adleisio yr hyn a ddywedodd Stephen Crabb, cyn-Ysgrifennydd Cymru ac AS Preseli Penfro dros y penwythnos.