Paul Durden: Teyrngedau i gyd-awdur y ffilm Twin Town

Ffynhonnell y llun, Moviestore/Rex/Shutterstock

Disgrifiad o'r llun, Paul Durden oedd cyd-awdur y ffilm eiconig Twin Town

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyd-awdur y ffilm eiconig Twin Town, Paul Durden, sydd wedi marw.

Dywedodd Kevin Allen, a gyd-ysgrifennodd y sgript, bod ganddo atgofion da am gydweithio gyda Mr Durden.

Fe wnaeth hynt a helynt meibion 'Fatty' Lewis greu cynnwrf yn y sinem芒u ar hyd a lled y DU n么l yn 1997 a dod 芒'r actor Rhys Ifans i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf.

Cafodd y ffilm ei lleoli yn Abertawe a brodor o'r ddinas oedd Paul Durden.

Dywedodd ei ferch, Chloe Sheldon "fydd y ddinas byth yr un fath heb fy Nhad".

Ychwanegodd Kevin Allen: "Ar ei ddiwrnod Paul oedd y dyn doniolaf i mi ei gwrdd erioed."