Wythnos Atal Hunanladdiad: 'Angen gofod i rannu gofid'
- Cyhoeddwyd
"Mae mor bwysig fod pobl yn gallu siarad am broblemau iechyd meddwl yn hollol agored a bod 'na ddim stigma ynghlwm 芒 hynny."
Dyma eiriau tad o Lanbadarn Fawr ger Aberystwyth wrth siarad 芒 Cymru Fyw i nodi Wythnos Atal Hunanladdiad y Byd.
Ym mis Rhagfyr 2021 bu farw Daniel Aled Davies, 34, drwy hunanladdiad.
"Roedd y cyfan yn sioc anferth i fi a ngwraig Julie. Doedd 'da ni ddim syniad - roedd e i weld mor hapus ei fyd," meddai Gareth Davies.
"Do'dd na ddim rheswm o gwbl 'da ni i feddwl y byddai fe'n gneud. O'dd e i weld yn hapus iawn gyda'i fywyd - roedd e mewn perthynas hapus a fe a'i bartner ar fin cael babi.
"Roedd 'dag e ddigon o waith fel saer coed, o'dd e'n berson ffit - yn rhedeg ac yn seiclo ac ro'dd digon o ffrindiau wastad gyda Daniel."
Ers rhai blynyddoedd roedd Daniel yn byw yn y de-ddwyrain. Roedd yn berchen ar fflat yng Nghasnewydd ac adeg ei farwolaeth yn byw yng Nghaerdydd gyda'i bartner.
"Rhyw ddau neu dri diwrnod cyn iddo farw ro'dd e wedi mynd mas i fwyd 'da criw o Gasnewydd am ginio ac ro'dd e i'w weld yn hapus i bawb," meddai Mr Davies.
"Efallai bod 'na un neu ddau sylw fyddai rhywun yn gallu eu dehongli fel rhai negyddol wrth edrych yn 么l ond mae hynny'n rhan o bob sgwrs.
"Ac ychydig cyn hynny ro'dd e wedi mynd i weld ei ffrind Dafydd yng ngogledd Lloegr a hwnnw'n dweud na welodd e Daniel erioed mor hapus.
"Ond mae'n amlwg i ryw dywyllwch ddod drosto y bore Sadwrn 'na ym mis Rhagfyr a neb yn gwybod pam, a rywsut dwi'm yn credu ei fod wedi bwriadu 'neud.
"Ro'dd e fel petai ei wydr e'n orlawn rhywffordd ac wrth iddo orlifo doedd Daniel, o bosib, ddim yn gallu ymdopi."
'Anodd i fechgyn ifanc'
Dywed Mr Davies ei fod hi mor bwysig i greu sefyllfa lle mae pobl yn gallu siarad yn rhwydd am yr hyn sy'n eu poeni.
"Rhaid creu gofod i rannu gofid. Fi'n credu bod hi'n gallu bod yn anodd i fechgyn ifanc - ma'r ddelwedd macho 'ma ac mae'n anodd chwalu'r stigma.
"Mae'n bwysig bod ysgolion yn trafod hyn yn agored a'u bod yn dweud wrth ddisgyblion am rannu eu pryderon - os nad gyda rhieni gyda rhywun arall.
"Mae'n bwysig i rieni hefyd siarad gyda'u plant ond dyw e ddim mor hawdd 芒 hynny fi'n gwybod.
"Ro'n ni fel rhieni yn browd iawn o Daniel ac yn teimlo bo' ni wedi creu awyrgylch yn y cartref lle mae modd siarad am unrhyw beth."
Yn gynharach yn y mis, fe wnaeth ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau ar gyfer 2021 ddangos bod 12.7 marwolaeth drwy hunanladdiad yng Nghymru i bob 100,000 o bobl.
Mae hynny ychydig bach yn uwch na'r gyfradd y flwyddyn gynt, ac ychydig yn uwch hefyd na'r gyfradd o 10.3 marwolaeth i bob 100,000 o bobl drwy Gymru a Lloegr.
Dynion oedd tri chwarter yr achosion yn 2021, sy'n gyson efo tueddiadau tymor hir, meddai'r Swyddfa Ystadegau.
Yn 么l y Samariaid mae'r ffigyrau diweddaraf yn dystiolaeth nad oes digon yn cael ei wneud i leihau cyfraddau hunanladdiad uchel.
'Cyfnod hunllefus o hyd'
"Mae'n bwysig hefyd i deuluoedd ofyn am gymorth," ychwanega Gareth Davies, "ac ry'n yn gwerthfarogi parodrwydd y cyhoedd i siarad 芒 ni er bod hynny'n anodd i rai.
"Mae Julie, y wraig, wedi elwa o gwnsela ac Angharad y ferch. Mae'n parhau i fod yn gyfnod hunllefus iawn ac i fod yn onest dyw amser ddim yn lleddfu'r boen.
"Mae gweld ein h诺yr newydd yn dod 芒 hapusrwydd ond mae rhywun yn gwybod na fydd e'n gweld ei dad ac na chafodd Daniel y cyfle i weld ei fab.
"Mae 'na gerrig milltir i'w goresgyn o hyd - penblwyddi, Sul y Mamau a bu farw Daniel ar drothwy'r Nadolig.
"Mae fy ffydd yn fy nghynnal i - dwi'n warden yn Eglwys Llanbadarn Fawr ond eto roedd mynd yn 么l i'r eglwys ar y dechrau yn anodd iawn wrth i atgofion lifo am Daniel yn grwt bach yn chwarae yn yr Ysgol Sul.
"Mae fy ngwaith fel cynghorydd sir hefyd o gymorth mawr wrth i fi orfod ffocysu ar bethau eraill.
"Doeddwn i ddim yn si诺r a fyddwn yn sefyll gan bod yr etholiad ond ychydig o fisoedd ar 么l i ni golli Daniel ond rwy'n falch bo' fi wedi penderfynu aros.
"Ond addasu i fywyd heb Daniel ry'n ni - ac mae hynny mor anodd."
Os yw cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch mae cymorth a chefnogaeth ar gael yma.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd16 Awst 2022
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021