Sychder wedi'i ddatgan ar gyfer Cymru gyfan
- Cyhoeddwyd
Mae sychder wedi'i ddatgan yng ngogledd Cymru, sy'n golygu bod y statws bellach yn cwmpasu'r wlad gyfan.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) nad oedd y glaw trwm diweddar wedi bod yn ddigon i wneud iawn am effeithiau tywydd sych am gyfnod hir.
Mae cyflenwadau d诺r hanfodol yn parhau'n ddiogel, meddai CNC, ond mae'r cyhoedd a busnesau ledled Cymru wedi cael eu hannog i ddefnyddio d诺r yn ddoeth.
Cyhoeddwyd sychder mewn ardaloedd eraill fis diwethaf.
Derbyniodd Cymru 56.7% o'i glawiad disgwyliedig yn y chwe mis rhwng Mawrth ac Awst - y trydydd cyfnod sychaf ers dechrau cadw cofnodion ym 1865.
Ym mis Awst dim ond 38% o'r glawiad misol cyfartalog a gafwyd yng Nghymru, a'r haf hwn oedd yr wythfed cynhesaf ers 1884.
Dywedodd CNC mai dyma'r sychder "swyddogol" cyntaf i gael ei ddatgan ar draws Cymru ers 2005-06.
Dywedodd Natalie Hall o Cyfoeth Naturiol Cymru: "Ar 么l gwanwyn a haf sych, ac effaith y diffyg glaw dybryd dros gyfnod parhaus ar ein hamgylchedd naturiol, rydym wedi gwneud y penderfyniad i symud Cymru gyfan i statws sychder.
"Nid yw'r glawiad a brofwyd ledled y wlad dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ddigon o bell ffordd i adfer lefelau afonydd, d诺r daear na chronfeydd d诺r."
Ychwanegodd: "Bydd angen i ni weld glawiad parhaus neu lawiad uwch na'r cyfartaledd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i weld unrhyw wahaniaeth amlwg.
"Os na chawn ni'r glawiad hwnnw, gallwn ddisgwyl i'r statws sychder barhau mewn llawer o ardaloedd.
"Er bod cyflenwadau d诺r hanfodol yn parhau i fod yn ddiogel, mae'r cyhoedd a busnesau ledled Cymru yn cael eu hannog i ddefnyddio d诺r yn ddoeth a rheoli'r adnodd gwerthfawr hwn ar hyn o bryd."
Mae gwaharddiad pibellau d诺r yn parhau yn Sir Benfro, ond nid yw wedi cael ei osod yn unman arall yng Nghymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2022
- Cyhoeddwyd31 Awst 2022
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
- Cyhoeddwyd19 Awst 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022