Pum munud gyda Mererid Hopwood
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi ennill Y Fedal Ryddiaith, y Goron a'r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol - y ferch gyntaf i wneud hynny, mae hi'n Athro y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac ym mis Medi y Prifardd Mererid Hopwood yw Bardd y Mis Radio Cymru.
Fel un sydd wedi astudio ac addysgu Almaeneg, Sbaeneg a Chymraeg, o le daeth eich cariad at ieithoedd?
Wn i ddim yn iawn, ond rwy'n cofio cael fy swyno'n llwyr gan Ffrangeg Mr Meirion Davies yn Ysgol Llanhari. Roedd y brawddegau'n llifo mor rhugl ac mor bert wrth iddo siarad a rhywbeth mor gyffrous ynghylch dieithrwch y peth. Wedyn, roedd y cyfle am antur wrth fynd ar deithiau cyfnewid ysgol a cherddorfa i Lydaw a'r Almaen hefyd yn sicr yn rhan o'r ap锚l.
Yn sgil eich gwaith rydych chi wedi teithio a chreu cysylltiadau tramor dros y blynyddoedd, yn cynnwys yn ddiweddar yn eich r么l fel Cymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol G诺yl y Gelli. Ble oedd y wlad gyntaf i chi ymweld 芒 hi wedi'r cyfnod clo a sut brofiad oedd bod yno?
Roedd digwyddiadau G诺yl y Gelli - o Beriw i Segovia - i gyd yn rhai rhithiol, a dydw i ddim wedi teithio rhyw lawer o gwbl ers y cyfnod clo. B没m am ddwy noson i Ddulyn er mwyn cynnal Deialog Dewi/Padrig fel rhan o brosiect GWRANDO Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Roedd gweld y Ddraig yn cyhwfan i'n croesawu ochr yn ochr 芒 baner Iwerddon a baner yr Undeb Ewropeaidd yn dipyn o wefr.
Yna, rwy'n ateb y cwestiynau hyn ar fwrdd sigledig tr锚n, gan fy mod i a Jill Evans y Rhondda ar ein ffordd i gynrychioli Academi Heddwch Cymru ym Mrwsel. Byddwn ni'n cyd-drafod 芒 chynrychiolwyr o 10 o Academ茂au Heddwch Ewrop ac mae hir edrych ymlaen at y cyfarfod hwn. Ar wah芒n i'r ddwy daith hyn, o aralleirio Cwm Alltcafan, T Llew, 'aros adref' a wnes i.
Mae eich nofel O Ran, enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2008 ac sy'n waith gosod TGAU Cymraeg, yn rhoi darlun o fagwraeth yng nghymuned Gymraeg Caerdydd yn y 1970au. Ym mha ffordd wnaeth eich magwraeth yn y brifddinas yn ystod y cyfnod hwnnw eich siapio chi?
Sut mae mesur effaith magwraeth ar ddatblygiad unrhyw un ohonom, tybed? Efallai mai un peth hynod am gael eich magu ar aelwyd Gymraeg yng Nghaerdydd yn y cyfnod hwnnw oedd y modd y byddai nifer ohonom yn cael ein tynnu 'adre' i ddau le.
Roeddem ni'n byw 'gatre' yn y t欧 yn y ddinas, ond byddem ni'n mynd yn aml 'adre' at deulu yn rhywle arall. Pontiago, Sir Benfro, yn fy achos i. Rwy'n teimlo'n 'gartrefol' felly, hyd heddiw, mewn sawl man - a'r llefydd hynny'n ddigon gwahanol i'w gilydd.
Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Pwy bynnag luniodd Englynion y Beddau. Mae'r cerddi hyn yn Llyfr Du Caerfyrddin ac maen nhw'n ddryslyd o awgrymog. Wrth restru'r beddau maen nhw'n nodi enwau pob math o gymeriadau sydd wedi bod yn allweddol yn ein hanes ni, ond mae'r manylion erbyn heddiw'n aml yn aneglur.
Byddwn i wedyn yn gwybod cefndir yr englynion i gyd, ac yn gwybod yn union pa unben, pa fryn, pa ddyffryn, pa nant... Yna, wedi cyrraedd yn 么l i'n dyddiau ni, byddwn i'n creu map, yn rhoi pabell mewn sach ac yn mynd ar bererindod ryfeddol o'r naill fedd i'r llall.
Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Ar wah芒n i waith y Brifysgol a'r edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r myfyrwyr i Aberystwyth ar ddechrau tymor newydd, rwy'n gweithio gyda chriw'r Egin ar addasu nofelau cyntaf cyfres [llyfrau plant] Dosbarth Miss Prydderch.
Y gobaith yw creu sioe lwyfan addas i deuluoedd. Rwy'n mwynhau mas draw - er bod rhoi tylluanod sy'n gallu cario plant, a defaid a nadroedd sy'n gallu siarad ar dudalen yn beth gwahanol iawn i'w rhoi ar lwyfan!
Hefyd o ddiddordeb: