大象传媒

Pum lle sy'n dweud stori Owain Glynd诺r

  • Cyhoeddwyd
Baner Owain Glynd诺r/Cerflun Owain Glynd诺rFfynhonnell y llun, 大象传媒/Comisiwn Brehinol Henebion Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Baner Owain Glynd诺r/Cerflun Owain Glynd诺r

Tra bo' Caerdydd yn paratoi at ymweliad cyntaf Charles III 芒 Chymru fel Brenin, mae hanes Owain Glynd诺r, y Cymro olaf i ddal teitl Tywysog Cymru yn parhau'n y tir.

脗 hithau'n Ddiwrnod Glynd诺r ar 16 Medi, Dr Ywain Tomos sydd wedi dewis pum lle sy'n dweud stori wrthryfelgar Owain Glynd诺r.

Llys Sycharth

Cyfansoddodd y bardd Iolo Goch gerdd am Sycharth, un o brif gartrefi Owain ac, yn 么l pob tebyg, gartref ei blentyndod. Yn y gerdd mae'n canmol y croeso a'r lletygarwch a gaed yno. Roedd y t欧 wedi'i leoli ar safle mwnt Normanaidd yn Llansilin, Sir Ddinbych, ger afon Cynllaith. Byddai llys Owain wedi bod yn adeilad o bren, gyda tho teils a ffos o'i amgylch. Yn 么l y gerdd, roedd yno naw neuadd, pedair ystafell wely, ac eglwys wedi'i gwyngalchu. Roedd pyllau pysgod, gwinllan, perllan, peunod, garanod, cwningod a cheirw yn darparu bwyd a diod o'r ansawdd gorau.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Brehinol Henebion Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llys Sycharth

Cafodd y llys ei losgi ym 1403 gan y Tywysog Hal, a ddaeth yn Harri V, a bellach y mwnt yn unig sydd ar 么l, er bod olion ffermio o'r oesoedd canol i'w gweld mewn caeau gerllaw. Fodd bynnag, mae cerdd Iolo yn cynnig cipolwg prin ar fywyd breintiedig a diwylliedig Owain a'i deulu cyn y gwrthryfel. Cloddiwyd safle Sycharth gan Douglas Hague a cyhoeddwyd ei adroddiad yn Archaeologia Cambrensis cyfrol 115 (1966).

Mwnt Glynd诺r

Mae'r mwnt hwn, gyda ffos ar wah芒n, wedi'i leoli ar safle cadarn yn edrych dros afon Dyfrdwy rhwng yr A5 a Rheilffordd Llangollen yng Nglyndyfrdwy, yn hen sir Feirionnydd. Er bod teithwyr Oes Fictoria yn galw'r castell yn 'Glynd诺r's Mount', mae'n debygol o fod yn safle castell cynharach a oedd yn gwarchod dyffryn Dyfrdwy.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Brehinol Henebion Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mwnt Glynd诺r

Mae'n debyg bod llys Owain Glynd诺r yn sefyll tua 180m i'r dwyrain o'r mwnt lle y ceir olion ffos. Yn y fan hyn, yn 么l un ffynhonnell Gymreig, ar 16 Medi 1400, yn dilyn ffrae chwerw gyda Reginald de Grey, Arglwydd Rhuthun dros dir, cyhoeddodd Owain ei fod yn Dywysog Gymru.

Dyma gychwyn ei wrthryfel cenedlaethol yn erbyn coron Lloegr. Fel y digwyddodd yn Sycharth, llosgwyd y t欧 yn ulw ym 1403 gan y Tywysog Hal, Brenin Harri V wedi hynny.

Brwydr Hyddgen

Ym mis Mehefin 1401, roedd byddin Owain Glynd诺r o ryw 500 o filwyr yn wynebu byddin lawer mwy, yn cynnwys milwyr Cymreig o Sir Benfro a oedd yn cefnogi brenin Lloegr. Er gwaethaf y gwahaniaeth mewn niferoedd, enillodd Glynd诺r fuddugoliaeth ysgubol.

Nid yw union safle'r frwydr yn hysbys, ond yn 么l traddodiad roedd yn Hyddgen, man anghysbell i'r gorllewin o Bumlumon yng Ngheredigion. Tir mynyddig, corsiog iawn a geir yma, felly roedd yn le addas ar gyfer strategaeth Owain o dynnu'r gelyn i diriogaeth anghyfarwydd cyn i'w saethwyr ymosod arnynt.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Brehinol Henebion Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Brwydr Hyddgen

Mae'n debyg bod ei wersyll yn Siambr Trawsfynydd gerllaw, y mae traddodiad yn ei gysylltu 芒 Glynd诺r. Dywedir bod dwy garreg, a elwir yn 'Gerrig Cyfamod' yn nodi safle'r frwydr, er nad oes tystiolaeth uniongyrchol o hynny. Dywedir i'r meirw gael eu claddu mewn lle a elwir yn Esgair y Ffordd. Dangosodd y fuddugoliaeth fod Owain bellach yn 诺r pwerus o bwys, ac yn sgil ei lwyddiant fe gynyddodd ei gefnogaeth trwy Gymru.

Brwydr Bryn Glas (Pilleth)

Ar 么l ei lwyddiant ym mrwydr Hyddgen, cyfarfu Glynd诺r a'i gefnogwyr unwaith eto 芒 byddin coron Lloegr o dan arweiniad Syr Edmund Mortimer. Digwyddodd hyn ym Mhyllalai, ger Llanandras yn yr hen sir Faesyfed, ar 22 Mehefin 1402. Fe'i gelwir yn Frwydr Bryn Glas.

Unwaith eto, roedd byddin Owain yn llai o lawer, a cheisiodd Mortimer ei ddenu i ymladd. Er nad oes llawer o adroddiadau ar 么l, ymddengys i saethwyr Owain gael y gorau ar filwyr Mortimer a bod rhai saethwyr Cymreig ym myddin Lloegr wedi newid ochr er mwyn cefnogi Glynd诺r.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Brehinol Henebion Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Brwydr Bryn Glas (Pilleth)

Bu Owain yn cuddio'i filwyr wrth ochr y bryn cyn ymosod yn llwyddiannus ar fyddin Lloegr o'r tu 么l. Cipiwyd Mortimer ei hun yn y frwydr a gofynnodd Owain i'r Brenin Harri am bridwerth amdano, ond gwrthododd hwnnw ei dalu. Fe gythruddwyd Edmund Mortimer i'r fath raddau gan hyn nes iddo nid yn unig newid ochr, ond priodi 芒 Catrin, merch Owain, gan greu cynghrair teuluol.

Cryfhaodd y fuddugoliaeth wrthryfel Owain Glynd诺r, am gyfnod o leiaf. Dywedir bod bedd torfol ym Mryn Glas a gerllaw mae eglwys Normanaidd y Santes Fair a oedd yn sefyll adeg y frwydr.

Senedd-dy Owain Glynd诺r, Machynlleth

Erbyn 1404, roedd Owain Glynd诺r wedi ennill cefnogaeth o bob rhan o Gymru a galwodd senedd gyntaf Cymru ym Machynlleth, Powys. Roedd gan lawer o Gymry gwynion yn erbyn tirfeddianwyr o Loegr a oedd wedi cipio tir a oedd gynt yn eiddo i deuluoedd Cymreig. Roedd y cyfarfod nid yn unig yn cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau Cymreig ond hefyd cynrychiolwyr o'r Alban, Ffrainc a Chast卯l yn Sbaen.

Coronwyd ef yn Dywysog Cymru o flaen ei gefnogwyr, gan gynnwys Esgobion Bangor a Llanelwy. Ym 1404, roedd Machynlleth eisoes yn dref farchnad bwysig yng nghanolbarth Cymru. Yn 么l traddodiad lleol fe gynhaliwyd y seremoni goroni mewn adeilad canoloesol sy'n dal i sefyll ar Heol Maengwyn. Er bod coed to'r hen Senedd-dy yn dyddio i ychydig yn hwyrach, tua c.1470, mae'n debyg bod y safle ei hun yn h欧n, a gallai felly fod yn lleoliad senedd 1404.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Brehinol Henebion Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Senedd-dy Owain Glynd诺r, Machynlleth

Ym 1912, adferwyd y neuadd ac ychwanegwyd canolfan ar gyfer y dref gan yr Arglwydd Davies, 诺yr i David Davies, y diwydiannwr cyfoethog o Landinam. Yn yr adeilad ceir cofeb i Owain Glynd诺r ar ffurf murlun mawr o frwydr Hyddgen gan Murray Urquhart - mae gan Glynd诺r wyneb yr Arglwydd Davies! Heddiw, mae arddangosfa hynod ddiddorol am Owain Glynd诺r yn y ganolfan ynghyd ag ystafelloedd cyfarfod a chaffi.

a

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig